Trydan yn ôl i bawb wedi Storm Darragh ond difrod i goed
- Cyhoeddwyd
Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri bod Storm Darragh wedi cael "effaith sylweddol" ar eu safleoedd a'u bod nhw'n parhau i asesu'r "difrod".
Wrth i'r gwaith adfer fynd rhagddo mae CNC yn annog pobl i beidio â theithio i'w safleoedd nes bod y gwaith clirio yn dod i ben.
Mae canolfannau ymwelwyr yn agor yn raddol, medd llefarydd, ond "gallai fod angen cau meysydd parcio a chyfleusterau eraill ar fyr rybudd wrth i waith adfer fynd rhagddo".
Fore Sadwrn fe gadarnhaodd Roisin Quinn o'r National Grid fod pob cwsmer a gollodd y cyflenwad trydan o ganlyniad i'r storm wedi cael y trydan yn ôl.
"Mae'r wythnos hon wedi gweld yr ymdrech adfer fwyaf erioed ar ôl effeithiau difrifol Storm Darragh," meddai.
"Rwy'n falch o ddweud bod cyflenwad yr holl gwsmeriaid yr effeithiwyd arnynt gan y storm bellach yn ôl a hoffwn ddiolch iddynt am eu hamynedd a'u dealltwriaeth wrth i ni weithio bob awr o'r dydd i atgyweirio'r difrod."
Yn ystod yr wythnos roedd yna gryn anniddigrwydd mewn rhai ardaloedd wrth i bobl orfod aros am ddiwrnodau cyn cael y trydan yn ôl.
Wrth siarad â'r BBC fore Sadwrn dywedodd y cynghorydd Iwan Ward, sy'n cynrychioli ardaloedd Boncath a Chlydau yn Sir Benfro, bod y trigolion olaf i gael y trydan yn ôl wedi cael pŵer i'w cartefi fore Sadwrn - wythnos wedi'r storm.
"Y broblem fwyaf oedd y wybodaeth roedd y National Grid yn ei rhoi i bobl - roedd pobl yn codi eu gobeithion o glywed y byddai'n ôl trannoeth ond erbyn i'r amser hwnnw ddod roedd yna ohirio pellach ac felly doedd 'na ddim modd ymddiried yn y wybodaeth.
"Pe bai pobl yn gwybod o flaen llaw y byddai'n cymryd amser byddent wedi gallu symud at deuluoedd neu aros mewn llety," ychwanegodd.
Ond mae'n pwysleisio bod criwiau'r National Grid ar lawr gwlad "wedi bod yn hollol anhygoel" ac wedi peryglu eu bywydau i adfer y cyflenwad.
"Nid nhw sydd ar fai ond y bobl a'r polisïau sydd ar y brig - y systemau sydd angen eu newid," meddai.
Gydol yr wythnos roedd y National Grid yn pwysleisio bod eu gweithwyr yn "gwneud eu gorau posib" i adfer cyflenwadau ar draws Cymru.
'Effaith am flynyddoedd'
"Mae gwerth cilomedrau o ffyrdd coedwigoedd, llwybrau cerdded a llwybrau beicio mynydd wedi'u rhwystro gan goed a changhennau - a bydd yn cymryd cryn amser i glirio popeth," medd Gavin Bowen, Pennaeth Gweithrediadau y Canolbarth i CNC.
"Effeithiodd Storm Darragh ar gymunedau ledled Cymru, gyda miloedd o gartrefi ledled Cymru yn profi toriadau pŵer, a chymunedau wedi eu heffeithio gan goed wedi cwympo a llifogydd. Rydym yn cydymdeimlo â'r bobl sydd wedi'u heffeithio.
"Rydym yn asesu'r difrod ar ein safleoedd. Y flaenoriaeth i'n rheolwyr tir a'n contractwyr yw clirio ffyrdd a llwybrau sydd wedi'u blocio. Ond bydd hyn yn cymryd peth amser.
"Mae'n debygol y bydd yr hyn a brofwyd yn effeithio ar weithrediadau mewn coedwig a gwaith cynaeafu arfaethedig am yr ychydig flynyddoedd nesaf."
Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru bod nifer sylweddol o goed wedi syrthio yng nghoedwigoedd Mynydd Du ger Crughywel a Chaio ger Llanymddyfri.
Mae yna ddifrod hefyd i goed ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
"Yr ardaloedd o gwmpas Nant Gwynant a Borth-y-gest sydd wedi dioddef waethaf," meddai Rhys Owen, Pennaeth Cadwraeth, Coed ac Amaeth Parc Cenedlaethol Eryri.
"Mae yna safleoedd fydd ar gau am hir iawn oherwydd maint y dinistr ac mae gofyn i bobl fod yn amyneddgar.
"Ond mae'n rhaid i mi ddiolch i holl staff yr awdurdod a'r cyngor lleol.
"Rwy'n annog pobl i edrych ar unrhyw hysbysiadau ac i fod yn wyliadwrus os yw'r gwynt yn chwythu eto ac efallai y byddai'n ddoeth gadw draw o ardaloedd coediog ar hyn o bryd nes bod modd asesu'r sefyllfa yn iawn.
"Bydden i'n tybio y bydd mwy o ddifrod i ddod wrth i ni gael mwy o wyntoedd yn y gaeaf - mae'n bosib bod coed sydd â diffygion wedi gwanio neu gracio ond nad yw hynny yn amlwg ar hyn o bryd," ychwanegodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr