Colli gwerth cannoedd o bunnoedd o fwyd wedi diwrnodau heb drydan

Ronnie a Barbara Foster
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ronnie a Barbara Foster o Ben-y-bryn wedi colli gwerth cannoedd o bunnoedd o fwyd

  • Cyhoeddwyd

Mae rhai trigolion ym mhentref Pen-y-bryn yn Sir Benfro yn parhau heb drydan am y pumed diwrnod.

Dywed un cwpl eu bod wedi colli gwerth cannoedd o bunnoedd o fwyd yn y rhewgell a dywed un arall ei bod wedi bod yn "wythnos hir a diflas".

Yn ôl cynghorydd ardaloedd Cilgerran ac Eglwyswrw, John Davies "does dim synnwyr" yn y sefyllfa.

"Chi yma ym Mhen-y-bryn, ar y brif ffordd o Aberteifi i Ddinbych-y-pysgod. Dyw hi ddim yn ardal anghysbell. Mae'n ardal lle mae 'na nifer fawr o bobl wedi ymddeol.

"Mae 'na ganran helaeth o ddeiliaid y pentref hwn dros 80. Mae'r pentref heb fod ymhell o'r brif ganolfan sy'n dosbarthu trydan i holl ogledd Sir Benfro a does gyda nhw ddim trydan am y pumed diwrnod."

Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl yn hynod rhwystredig, medd y Cynghorydd John Davies

Wrth gyfeirio at waith National Grid, dywedodd John Davies bod angen dysgu gwersi ar gyfer stormydd y dyfodol.

"Ma' angen edrych ar fuddsoddiad isadeiledd. Mae'n amlwg bellach erbyn hyn, pan chi'n edrych ar y map o'r problemau, maen nhw yn ddaearyddol... maen nhw mewn pocedi amlwg.

"Ma' 'na reswm am hynny. Diffyg gwariant a diffyg trefen. Mae'r bechgyn a'r merched ar y llawr yn gwneud eu gorau i adnewyddu'r cyflenwad."

"Beth sydd wedi bod yn rhwystredig i bobl yw mae'r amser 'ma yn cael ei roi, rhoi cysur i bobl, 'byddwch chi nôl erbyn ryw amser' a wedyn mae'r goal posts yn cadw symud. Ma' pobl yn colli hyder ac yn mynd yn rhwystredig tu hwnt…"

Dywedodd y National Grid fod peirianwyr yn "gweithio rownd y cloc" i adfer pŵer.

'Atgoffa fi o amser y rhyfel'

Yn 91 oed, mae Annie James yn byw ar ei phen ei hun ym Mhen-y-bryn ac fe ddisgrifiodd yr wythnos fel un "hir".

"Eistedd i lawr ac edrych ar y welydd. S'dim lot o olau gyda chanhwyllau. Mae'r nos yn hir," meddai.

"Mae e'n atgoffa fi o amser y rhyfel. O'dd dim golau ac roedd blackouts a phethau gyda ni bryd hynny. Mae e'n hala fi deimlo'n ddiflas iawn i ddweud y gwir i gofio'r amser hynny."

Wrth ddisgrifio'i hanallu i gyfathrebu â'r byd, dywedodd: "Maen nhw'n 'neud popeth yn fodern heddi, a wedyn amser ma' rhywbeth fel hyn yn digwydd, s'dim byd gyda chi… Gobeithio ddaw e [y trydan] fory nawr neu sai'n gwybod beth naf i ar ôl fory."

Disgrifiad o’r llun,

Mae bywyd yn ddiflas iawn heb drydan, medd Annie James

Fel nifer, mae Annie James yn poeni am y bwyd yn ei rhewgell.

"Sa'i 'di agor hi 'to. Maen nhw siŵr o fod wedi sbwylo. Mae e wedi bod yn ddiwrnode ond dyw e?

"Dwi'n cofio ni'n cael hyn o'r blaen ond dwi'n credu bo nhw'n oreit am ddau neu dri diwrnod ond dim rhagor. Mae rhai ni siŵr o fod wedi sbwylio i gyd nawr. Lot o wastraff.

"So ni wedi gwastraffu dim byd erioed. Gorfod twlu pethe off, bydd hi'n ddiflas ond bydd hi."

Colli cannoedd o bunnoedd o fwyd

Mae Ronnie a Barbara Foster yn ei saithdegau. Mae'n nhw'n dweud eu bod yn ffodus bod ganddyn nhw dân yn y tŷ.

"Ni'n lwcus bod gyda ni'n log burner mewn fan hyn ond yn y bore wrth godi mae'n oer. Pan bo angen dŵr, mae'n rhaid i ni ferwi mewn sosban. Lwcus, mae gyda ni hob, ond mae yna bobl fan hyn yn hŷn 'na ni sydd heb yr un o'r pethau yna…

"Mae ymolchi wedi bod yn amhosib. Ry'n ni 'di gwneud e'r hen ffordd lle mae dŵr mewn powlen yn y bath a golchi ein hun i lawr. Dw'i ddim yn credu fod pobl yn sywleddoli pa mor anodd mae e wedi bod," meddai Barbara.

Ategodd Ronnie, a aeth i'r Ganolfan Hamdden yn Aberteifi am gawod fore Mercher bod y sefyllfa yn "wyllt".

"Roedden nhw wedi prynu eu twrci yn barod ar gyfer y Nadolig ond maen nhw wedi colli'r holl fwyd oedd yn y rhewgell.

"Ro'n i wedi prynu turkey crown ond mae popeth wedi mynd. Dwi'n casáu gwastraff, a mae'n rhaid i ni wneud hyn [siopa] i gyd cyn Dolig eto nawr," meddai Barbara.

"Rhwng yr oergell a'r rhewgell mae e'n dod i gwpwl o gannoedd o bunnoedd," meddai Mr Foster wrth ddisgrifio gwerth y bwyd sydd wedi ei golli.

'Gwersi i'w dysgu'

Yn gynharach, fe ddywedodd AS Ceredigion bod gallu'r rhwydwaith drydan i ddelio â stormydd mawr yn "annigonol" ac bod angen gwella'r system o ddelio gyda'r difrod.

Fore Mercher, dywedodd y National Grid a SP Manweb bod tua 8,000 o gartrefi yng Nghymru yn parhau heb drydan ers i Storm Darragh daro nos Wener.

Dywedodd Elin Jones bod nifer fawr o'r cartrefi hynny yn ei hetholaeth hi a'r gweddill ar draws y ffin yn siroedd Caerfyrddin a Phenfro.

"Mae ryw 50 o bentrefi naill ai'n gyfan gwbl neu'n rhannol heb drydan a hynny am y pumed diwrnod ac y mae hynny'n ddifrifol iawn i bawb ond yn enwedig y bobl mwyaf bregus," meddai ar raglen Dros Frecwast.

"Mae'n rhaid i'r gwasanaethau trwsio dynnu cymaint o adnoddau â phosib mewn i'r gorllewin i allu adfer y sefyllfa yma o fewn yr oriau nesaf yma."

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

"Erbyn diwrnod pump mae rhywun yn disgwyl y bydd ymdrech sylweddol yn cynyddu yn y gorllewin," meddai Elin Jones AS

"Mae'n rhaid dysgu gwersi cyfnod hir ac mae angen mwy o fuddsoddiad yn yr isadeiledd," ychwanegodd Elin Jones.

"Y wers bwysicaf yw pan bod difrod mor fawr â hyn yn digwydd bod angen i'r National Grid ac unrhyw un arall ddod ag adnoddau mewn i ardaloedd i fedru trwsio ynghynt a meddwl am gynlluniau wrth gefn.

"Ry'n ni gyd yn derbyn bod y storm wedi bod yn echrydus ac yn fwy na'r hyn oedd wedi'i ragweld ers blynyddoedd.

"Erbyn diwrnod pump mae rhywun yn disgwyl y bydd ymdrech sylweddol yn cynyddu yn y gorllewin lle dyw pobl ddim yn gallu byw eu bywyd bob dydd."

Dywedodd hefyd ei bod hi'n hynod ddiolchgar am gymorth cymunedol wrth i ffermwyr, cynghorwyr a nifer eraill helpu cymdogion.

Bwyd a diod am ddim

Dywedodd Roisin Quinn o'r National Grid fod eu peirianwyr a'u timau cymorth wedi bod yn "gweithio rownd y cloc i adfer pŵer ar draws y rhwydwaith".

Diolchodd i gwsmeriaid am eu hamynedd, gan ychwanegu bod y tîm yn "gwneud popeth o fewn ein gallu i adfer pŵer ar draws y rhanbarth cyn gynted â phosib".

Maen nhw'n dweud eu bod nhw wedi adfer pŵer i dros 700,000 o eiddo.

Yn y cyfamser, ychwanegodd llefarydd bod ganddyn nhw faniau sy'n cynnig bwyd a diod am ddim i gwsmeriaid heb drydan yn y lleoliadau canlynol:

  • Eglwys Sant Mathew, Castell-nedd;

  • Canolfan Frechu Covid, Castellnewydd Emlyn;

  • Canolfan Ailgylchu Llangadog;

  • Ffordd Gelligron, Pontardawe.

Pynciau cysylltiedig