'Dwi ddim yr un person ers diagnosis cyflwr prin'

Rhian yn yr ysbytyFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond yn ddiweddar y gwnaeth Rhian Thompson ddeall difrifoldeb ei salwch

  • Cyhoeddwyd

Llynedd, ar ôl cael ei tharo gan gyflwr prin, mi dreuliodd Rhian Thompson o’r Bala dri mis mewn cadair olwyn.

Roedd ganddi glefyd Addison – cyflwr prin awto-imíwn.

Erbyn hyn, mae cyfuniad o dabledi yn helpu i reoli’r symptomau.

Ond mae hi’n awyddus i godi ymwybyddiaeth, oherwydd heb driniaeth mi allai'r salwch fod yn beryg bywyd.

Dywedodd: “Mae o’n flinder llethol... blinder lle 'sa ti’m yn gallu brwsio dy ddannedd... ti methu codi allan o’r bath, ti methu g’neud bwyd, ti just methu g’neud bron dim byd.

“O’n i'm yn derbyn ac o’n i'm yn deall tan y ddiweddar iawn pa mor sâl o’n i wedi bod.”

Mae cyflwr Addisons yn taro wrth i system imiwnedd y corff ymosod ar y chwarren adrenal.

Ym mis Ebrill 2023, mi wnaeth iechyd Ms Thompson, 54, ddirywio gymaint mi gafodd ei hanfon i’r ysbyty ar frys.

A hithau mor wan, mi fuodd hi mewn cadair olwyn am dros dri mis.

“O’n i'm yn mynd allan o’r tŷ beth bynnag, ond o’n i 'di mynd mor wan erbyn hynny... oedd y corff yn dechra' rhoi fyny mewn ffordd,” meddai wrth raglen Newyddion S4C.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Fe wisgodd Ms Thompson het am fisoedd er mwyn 'cuddio rhag y byd' wedi'r salwch mawr yn 2023

Yn fam ac yn nain, mae’r cyflwr wedi cael effaith sylweddol ar ei bywyd.

Roedd hi’n athrawes ddrama yn Ysgol y Berwyn, ond oherwydd y cyflwr dydi hi ddim wedi gallu gweithio ers tro.

“Ar ôl cael y diagnosis o’dd o’n rhyddhad mawr, mawr, mawr.

“Ond dwi ddim 'di bod yr un person a dwi 'di gorfod cael help mawr.

“Dwi 'di colli’n hyder, methu mynd allan o’r tŷ.”

Mae hi bellach yn rheoli'r cyflwr.

"Ma' angen sicrhau bod digon o dabledi yn cael eu cymryd, mae 'na 'sick day rules' - felly er enghraifft os wyt ti’n sâl, ti’n gorfod dyblu dy ddos neu treblu dy ddos.

"A’r peth mwya' peryg efo’r cyflwr ydy’r ffaith bo' ti’n gallu cael adrenal crisis – a wedyn dyna lle mae’r injection yn dod i fewn."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Ms Thompson bod treulio amser yn awyr iach a thirwedd hardd y Bala wedi bod yn gysur

Mae gan tua 9,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig glefyd Thompson, ac mae dros 300 o bobl yn cael diagnosis o’r cyflwr bob blwyddyn.

Mae cefnogaeth teulu a ffrindiau wedi bod mor bwysig, meddai Rhian, gan nad ydy Addisons fel nifer o gyflyrau difrifol eraill wastad yn weledol.

Mae Rhian yn angerddol dros godi ymwybyddiaeth o’r cyflwr gan ei fod mor brin.

“Un peth efo clefyd Addisons ydy mae’n anodd iawn cael diagnosis.

“Be' dwi isio pwysleisio ydy pa mor bwysig ydy o i gario 'mlaen mynd at y meddyg.

"Ma' angen codi ymwybyddiaeth ac mae angen codi deallusrwydd o unrhyw glefyd awto-imíwn.”

Pynciau cysylltiedig