Mari Grug: 'Ddim ofn marw, ond yn teimlo ofn dros y plant'

Mari Grug
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mari Grug wedi parhau i gyflwyno ar Prynhawn Da a Heno rhwng cael triniaeth

  • Cyhoeddwyd

Mae'r cyflwynydd Mari Grug yn dweud nad yw hi "ofn marw" wrth dderbyn triniaeth am ganser, ond ei bod yn poeni am effaith posib hynny ar ei phlant.

Ym mis Ebrill 2023 cafodd diagnosis o ganser y fron, wedi iddi ddarganfod lwmp yn ei bron chwith, cyn cael triniaeth ar gyfer canser metastatic wedi i'r canser ledu i'r nodau lymff a'r afu.

Ond flwyddyn wedi'r diagnosis, datgelodd y fam 39 oed o Fynachlogddu, bod ei sganiau diwethaf ar yr afu yn glir o ganser.

Mewn sgwrs â rhaglen Bwrw Golwg BBC Radio Cymru, dywedodd Mari fod gorfod meddwl am ei phlant yn "wynebu bywyd heb fam yn amlwg yn rhywbeth torcalonnus i unrhyw un sy'n rhiant".

Wedi blwyddyn o gemotherapi, llawdriniaeth i dynnu'r fron ac yna radiotherapi, mae Mari nawr yn cael pigiad Phesgo bob tair wythnos yn Ysbyty Glangwili i reoli'r math o ganser sydd ganddi.

Yn ogystal, mae hi wedi lansio podlediad sy'n trafod canser - 1 mewn 2.

'Nerth ychwanegol i wynebu bob dydd'

Yn ei sgwrs gyda Bwrw Golwg, dywedodd Mari fod ei ffydd wedi bod yn bwysig iddi wrth dderbyn triniaeth.

"Dwi'n teimlo'n freintiedig bod 'da fi ffydd, mae'n rhoi'r nerth ychwanegol 'na i fi wynebu bob dydd, ac yn rhoi'r ffydd a'r hyder a'r gwerthoedd 'na sydd (yn rhan) mor bwysig o fod yn Gristion," meddai.

"Mae 'na feddyginiaeth, a diolch byth amdano fe, sy'n gweithio ar hyn o bryd, mae'r canser yn ymateb ac mae pethau yn edrych yn bositif.

"Ond o ran helpu fi yn bersonol, y meddylfryd a'r elfen o fod yn bositif - mae hynny'n rhywbeth mae pobl falle yn cymryd yn ganiataol ond fin credu mai'n ffydd i sy'n helpu fi fod fel 'na."

Ffynhonnell y llun, Mari Grug
Disgrifiad o’r llun,

Mari yn recordio 1 mewn 2 gyda Dr Llinos Roberts a Lindsey Ellis

Ychwanegodd nad yw hi "ofn marw", ond fod meddwl am ei phlant yn gorfod delio â hynny yn rhywbeth "torcalonnus".

"Achos fy ffydd, dydw i ddim ofn marw a gadael y ddaear yma mewn rhyw ffordd, ond yn bendant yn fam i dri o blant bach, mae gorfod meddwl amdanyn nhw yn wynebu bywyd heb fam yn amlwg yn rhywbeth torcalonnus i unrhyw un sy'n rhiant.

"Dim dyna fel mae hi fod, wrth gwrs chi fod colli eich rhieni rhywbryd, ond efallai dim mewn oedran ifanc.

"Dwi'n lwcus, ma' fy rhieni dal yn fyw, dwi 'di cael braint eu cwmni nhw, ac yn parhau i wneud hynny, a 'wi isie i'm mhlant i gael yr un peth."

Mae Mari yn aelod o gapel Bethel ym Mynachlogddu, ac fe soniodd nad yw hi wedi cwestiynu ei ffydd yn ystod y cyfnod heriol diweddar.

"Wi'n cofio pan gafodd mam ganser y fron ar ddiwedd y nawdegau, a 'wi'n cofio hi'n cwestiynu ei ffydd yn sicr," meddai.

"Ond fi ddim wedi teimlo fel 'na o gwbl. Dwi'n teimlo mai dyma'r siwrne neu'r llwybr fi arno, a falle bo' fi'n gwybod bo' fin gallu delio â fe, a'n gallu camu 'mlaen.

"Gyda mam, yn amlwg mae hi wedi cwestiynu, ond mae ei ffydd hi dal gyda hi... ond dwi ddim wedi mynd trwy'r elfen yna o gwestiynu a bod yn grac 'to."

Pynciau cysylltiedig