Bangor: Heddwas yn gwadu anafu bachgen 17 oed

Ellis Robert Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ellis Robert Thomas yn gwadu niweidio'r bachgen ym mis Ionawr 2023

  • Cyhoeddwyd

Mae swyddog o Heddlu'r Gogledd wedi pledio'n ddieuog o achosi niwed corfforol difrifol i fachgen 17 oed y tu allan i glwb nos ym Mangor.

Gwadodd Ellis Robert Thomas, 24 o'r Gaerwen, y cyhuddiad o niweidio Harley Murphy - a oedd yn 17 ar y pryd - y tu allan i hen glwb Cube ar 29 Ionawr 2023.

Yn Llys Ynadon Llandudno, fe ddywedodd y Barnwr Nicola Saffman y byddai achos llys yn dechrau ar 9 Rhagfyr ac yn para am bum diwrnod.

Cafodd Mr Thomas ei ryddhau ar fechnïaeth.

Pynciau cysylltiedig