Yr Eidal yn trechu Cymru mewn gêm agos yn Cape Town
- Cyhoeddwyd
Mae merched Cymru wedi colli eu hail gêm yn olynol yng nghystadleuaeth y WXV2 yn Ne Affrica, wedi i'r Eidal eu trechu o 8-5 mewn gêm agos yn Cape Town.
Aeth yr Eidalwyr ar y blaen wedi ychydig dros 10 munud, gyda'r capten Elisa Giordano yn croesi am gais.
Ond fe lwyddodd Cymru i daro nôl ar ddiwedd yr hanner cyntaf, wrth i'r canolwr Hannah Bluck groesi i'w gwneud hi'n gyfartal 5-5 ar yr egwyl.
10 munud i mewn i'r ail hanner roedd Yr Eidal yn ôl ar y blaen diolch i gôl gosb Beatrice Rigoni.
Er i Gymru bwyso tua'r diwedd am y cais allweddol a fyddai wedi sicrhau'r fuddugoliaeth, fe lwyddodd yr Eidalwyr i ddal eu tir a rhwystro'r crysau cochion.
Roedd Cymru a'r Eidal wedi colli eu gemau cyntaf yn y gystadleuaeth yn Ne Affrica - Cymru 37-5 yn erbyn Awstralia, a'r Eidal 19-0 yn erbyn Yr Alban.
Bydd gêm olaf Cymru yn y gystadleuaeth yn erbyn Japan ddydd Gwener nesaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Medi