WXV2: Awstralia 37 - 5 Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi colli'n drwm yn erbyn Awstralia yn eu gêm gyntaf yn ail haen cystadleuaeth y WXV.
Doedd dim llawer i wahanu'r ddau dîm yn ystod yr hanner cyntaf yn Stadiwm DHL, Cape Town ond fe wnaeth y Wallaroos lwyr reoli'r ail hanner gan ennill 37-5.
Mae'r sgôr yn cyferbynnu'n llwyr â chanlyniad y gêm gyfeillgar rhwng y ddau dîm yn Rodney Parade, Casnewydd dros wythnos yn ôl, pan lwyddodd Cymru - am y tro cyntaf erioed - i drechu Awstralia, o 31 i 24.
Fe ddechreuodd y ddau dîm gyda'r gobaith o berfformio'n dda yn WXV2 eleni ar ôl syrthio o brif haen y gystadleuaeth, a hynny fel rhan o'r paratoadau ar gyfer Cwpan y Byd y flwyddyn nesaf yn Lloegr.
- Cyhoeddwyd29 Mehefin
Y Wallaroos gafodd cais cyntaf y prynhawn diolch i Layne Morgan wedi 21 o funudau.
Daeth Carys Phillips â Chymru'n gyfartal gyda chais ar achlysur ei 78fed cap rhyngwladol, cyn i Eva Karpani dirio ar ddiwedd yr hanner cyntaf i adfer maintais o bum pwynt
10-5 oedd y sgôr ar yr egwyl - hynny wedi i'r ddau dîm fethu â chicio'n gywir i ychwanegu pwyntiau gyda'r trosiadau.
Fe lwyddodd Natalia John ac Alex Callender i atal Karparni rhag croesi'r llinell yn fuan yn yr ail hanner cyn i Gwenllian Pyrs ildio cic gosb.
Fe giciodd Faitala Moleka yn gywir y tro hwn i agor y bwlch, ond roedd gwaeth i ddod i Gymru.
Ychydig wedi awr o chwarae roedd cais Maya Stewart a throsiad Lori Cramer yn golygu bod Awstralia 20-5 ar y blaen, ac fe agorodd y llifddorau wedyn i'r Wallaroos.
Fe diriodd Moleka a Cramer cyn i Molly Reardon orfod adael y cae ar ôl gweld cerden felen am dacl uchel a bu'n rhaid i Gymru wynebu gweddill yr ornest un chwaraewr yn brin.
Eisin ar y gacen i Awstralia oedd y ffaith mai eu chweched cais oedd cais gorau'r gêm pan diriodd Stewart am yr eildro.
Wyth diwrnod yn unig, felly, ar ôl eu canlyniad gorau erioed yn erbyn Awstralia mae Cymru wedi dioddef eu colled gwaethaf erioed yn eu herbyn.
Bydd felly gan cryn waith yr hyfforddwr Ioan Cunningham i godi'r tîm cyn eu gêm nesaf yn y gystadleuaeth yn erbyn Yr Eidal ddydd Gwener 4 Hydref.