Prif hyfforddwr y Gweilch yn gadael ei rôl a chyn-asgellwr Cymru yn ei le

Cafodd Toby Booth ei benodi yn brif hyfforddwr yn 2020
- Cyhoeddwyd
Mae Toby Booth wedi gadael ei rôl fel prif hyfforddwr y Gweilch, gyda Mark Jones yn cael ei benodi yn ei le.
Fe wnaeth y rhanbarth gyhoeddi ym mis Medi y byddai Booth, gafodd ei benodi yn 2020, yn gadael ar ddiwedd y tymor, ond mae'r cyhoeddiad wedi dod chwe mis yn gynt na'r disgwyl.
Dyw'r Gweilch ond wedi ennill tair o naw gêm y tymor hwn, ac maen nhw yn y 14eg safle yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.
Dywedodd y clwb mewn datganiad: "Gallwn gadarnhau fod Toby Booth wedi gadael ei rôl fel prif hyfforddwr ar unwaith.
"Roedd cyfres o lwyddiannau yn ystod ei gyfnod yn y swydd, gan gynnwys ennill Tarian Gymreig y Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn 2021-22 a 2023-24.
"Hoffem ddiolch i Toby am ei ymroddiad a'i gyfraniad yn ystod ei gyfnod fel prif hyfforddwr, a hoffem ddymuno'r gorau iddo yn y dyfodol."

Fe ymunodd Jones â'r Gweilch ym mis Awst y llynedd
Dyma fydd y tro cyntaf i Mark Jones fod yn brif hyfforddwr ar y lefel yma, yn dilyn cyfnodau yn hyfforddi gyda'r Scarlets, Crusaders, Cymru a thîm dan-20 Cymru.
Fe ymunodd â'r Gweilch fel hyfforddwr yr amddiffyn ym mis Awst y llynedd.
Mae disgwyl i Justin Tipuric barhau i chwarae tan ddiwedd y tymor, cyn cymryd lle Jones fel hyfforddwr yr amddiffyn.
Bydd y Gweilch yn wynebu'r Scarlets mewn gêm ddarbi yn y gynghrair ddydd Sadwrn, cyn chwarae Caerdydd oddi cartref ar ddydd Calan.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Medi 2024
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2024