Gweilch a'r Scarlets 'eisiau eglurder' cyn arwyddo cytundeb URC

- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweilch a'r Scarlets yn dweud nad ydyn nhw am arwyddo Cytundeb Rygbi Proffesiynol (PRA25) newydd tan eu bod yn cael rhagor o eglurder gan Undeb Rygbi Cymru (URC).
Roedd yr undeb wedi rhoi hyd nes 8 Mai i'r rhanbarthau arwyddo'r cytundeb newydd, ond dim ond y Dreigiau a Rygbi Caerdydd sydd wedi gwneud hynny.
Mae'r cytundeb, sy'n cynnwys cynnydd mewn cyllideb o hyd at £6.5m o'i gymharu â'r £4.5m presennol, yn parhau tan 2029 ac yn un o elfennau allweddol cynllun hirdymor Undeb Rygbi Cymru o dan eu strategaeth 'Cymru'n Un'.
Ond dydi'r ddau ranbarth yn y gorllewin ddim yn hapus gyda chynnwys y cytundeb, gyda phenderfyniad URC i gamu mewn ar ôl i Rygbi Caerdydd fynd i ddwylo'r gweinyddwyr fis diwethaf ymhlith y "materion allweddol" sy'n achosi pryder.
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y Scarlets a'r Gweilch: "Rydyn ni wedi gofyn i URC gynnig rhagor o eglurder ynglŷn â'r berchnogaeth o Gaerdydd ac i sicrhau nad ydi'r clybiau annibynnol dan anfantais.
"Rydym yn gofyn am ragor o wybodaeth er mwyn sicrhau tryloywder, proffesiynoldeb, tegwch a chynaliadwyedd hir dymor timau proffesiynol Cymru.
"Mae'r trafodaethau gyda'r undeb yn parhau, ac rydyn ni'n gobeithio am ganlyniad cadarnhaol yn y dyfodol agos.
"Tan ein bod ni'n derbyn rhagor o eglurder, dydyn ni methu arwyddo'r PRA25."
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi dweud yn y gorffennol y byddai'r cytundeb ariannol newydd yn "diogelu dyfodol y gêm broffesiynol" yng Nghymru.