Caerdydd a'r Dreigiau yn arwyddo cytundeb URC

Caerdydd v DreigiauFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae Caerdydd a'r Dreigiau wedi arwyddo cytundeb rygbi proffesiynol, mae Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi cadarnhau.

Fis Chwefror, fe gytunodd y rhanbarthau mewn egwyddor ar gytundeb pum mlynedd - ond roedd hynny cyn i Gaerdydd fynd i ddwylo gweinyddwyr dros dro, gydag URC yn cymryd yr awenau.

Mae'r cytundeb, sy'n cynnwys cynnydd mewn cyllideb ac ail-gyllido dyled pob sefydliad, yn para tan 2029 ac yn un o elfennau allweddol cynllun hirdymor Undeb Rygbi Cymru o dan eu strategaeth 'Cymru'n Un'.

Pe na bai'r Scarlets, y Gweilch neu'r Dreigiau wedi arwyddo'r cytundeb, roedden nhw'n wynebu cyfnod rhybudd o ddwy flynedd a allai wedi peryglu dyfodol y rhanbarthau.

Dywedodd prif weithredwr URC, Abi Tierney: "Rwy'n falch iawn o gadarnhau bod PRA25 nwydd wedi'i gytuno ar gyfer Clwb Rygbi Caerdydd a'r Dreigiau.

"Bydd y PRA25 yn darparu sylfaen sefydlog i alluogi llwyddiant parhaus ar y cae i Gaerdydd a'r Dreigiau a bydd yn cefnogi cynnydd cyffredinol y gêm broffesiynol yng Nghymru yn sylweddol.'