Cymru gyfan yn symud i statws 'tywydd sych estynedig'

Llyn Aled Isaf, HiraethogFfynhonnell y llun, Tudur Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae staff CNC wedi mynegi pryder am welyau afonydd sych a gordyfiant algâu

  • Cyhoeddwyd

Yn sgil pryderon bod lefelau sawl afon yn isel, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi datgan bod Cymru gyfan yn symud o statws 'arferol' i statws 'tywydd sych estynedig'.

Wedi'r mis Mawrth sychaf ar gofnod ers 1944, fe ddychwelodd y tywydd sych a chynnes ym mis Mai - gyda Chymru ond yn gweld 59% o'r glaw sydd i'w ddisgwyl ar gyfer yr adeg honno o'r flwyddyn.

Mae hyn yn cyfateb i un o'r cyfnodau tri mis sychaf a gofnodwyd erioed.

O ganlyniad, mae arbenigwyr sychder bellach yn annog pobl ledled y wlad i fod yn ofalus â'u defnydd o ddŵr.

Cafodd penderfyniad CNC ei rannu gyda Grŵp Cyswllt Sychder Cymru ddydd Iau.

Mae'r grŵp yn cael ei gadeirio gan Lywodraeth Cymru ac mae'n cynnwys uwch swyddogion o CNC, y Swyddfa Dywydd, cwmnïau dŵr, Iechyd Cyhoeddus Cymru, undebau ffermio a chynrychiolwyr awdurdodau lleol.

Mae staff CNC ar lawr gwlad yn adrodd am bryderon ynghylch gwelyau afonydd sych, gordyfiant algâu a mudo pysgod a gleisiaid mewn llifoedd isel.

Mae'r corff hefyd yn cyfeirio at y ffaith bod tanau gwyllt wedi dwysáu mewn sawl ardal o Gymru yn yr wythnosau diwethaf.

Tir fferm yn AbergeleFfynhonnell y llun, Tudur Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwmnïau dŵr yn galw ar bobl i "ddefnyddio dŵr yn ddoeth a helpu i ddiogelu cyflenwadau"

Yn ogystal, mae Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy yn adrodd bod lefelau mewn cronfeydd dŵr yn is na'r hyn sydd i'w ddisgwyl ar gyfer yr adeg hon o'r flwyddyn.

Mae CNC yn dweud eu bod yn cefnogi galwad y cwmnïau dŵr ar i bobl ym mhob rhan o'r wlad "ddefnyddio dŵr yn ddoeth a helpu i ddiogelu cyflenwadau a'r amgylchedd".

'Achos pryder sylweddol'

Dywedodd Rhian Thomas, rheolwr dŵr a natur cynaliadwy CNC: "Er bod rhywfaint o law gwerthfawr yn cael ei ragweld ar gyfer y penwythnos ac yn ystod yr wythnos nesaf, bydd yn cymryd amser a mwy o lawiad sylweddol cyn y bydd lefelau afonydd a chronfeydd dŵr yn adfer ar ôl y cyfnod estynedig poeth a sych hwn.

"Mae dechrau mor sych i'r flwyddyn yn achosi pryder sylweddol i iechyd ein hecosystemau a'n cynefinoedd, yn ogystal ag i reoli tir a'r sector amaethyddol.

"O'r herwydd, rydym wedi gwneud y penderfyniad i symud Cymru gyfan i statws tywydd sych estynedig.

"I ni, mae hyn yn golygu cynyddu ein camau gweithredu a'n gwaith monitro ar draws Cymru i helpu i liniaru'r effeithiau ar yr amgylchedd, y tir, a'r defnyddwyr dŵr a phobl, ac ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol."

Ychwanegodd y bydd swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd i adolygu'r statws ac yn gweithio i leihau'r effaith ar yr amgylchedd a defnyddwyr dŵr.

"Er mwyn sicrhau y gellir parhau i gyflenwi dŵr heb niweidio'r amgylchedd, mae'r cyhoedd a busnesau ledled Cymru yn cael eu hannog i ddefnyddio dŵr yn ddoeth a rheoli'r adnodd gwerthfawr hwn," meddai.

Pynciau cysylltiedig