Pryder i ffermydd llaeth gyda diwedd cwmni cludo

Cynhyrchu llaethFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae un o gludwyr llaeth mwyaf y DU, sydd â safleoedd yng Nghymru, wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr, yn ôl adroddiadau.

Mae Lloyd Fraser, sydd â safle yn Four Crosses yn Sir Drefaldwyn yn ogystal ag yn Ninbych a Phont-y-pŵl, yn cludo i rai o laethdai mwyaf y DU gan gynnwys Muller ac Arla.

Casglu llaeth o ffermydd yw’r pryder mwyaf yn ôl undebau, gydag Undeb Amaethwyr Cymru ac NFU Cymru yn dweud bod yn rhaid blaenoriaethu casgliadau.

Dywedodd Brian Walters, Cadeirydd Dros Dro Pwyllgor Llaeth UAC fod "ffermwyr llaeth eisoes yn wynebu cyfnod cythryblus o ganlyniad i brisiau llaeth isel, bydd methu casgliadau ond yn ychwanegu at yr anawsterau ariannol hynny."

Dywedodd cadeirydd bwrdd llaeth yr NFU, Michael Oakes, eu bod yn "ymwybodol o faterion gyda chasgliadau llaeth ar draws nifer o ranbarthau".

Dywedodd eu bod yn cydweithio ag eraill yn y gadwyn gyflenwi llaeth i edrych ar yr effaith ar eu haelodau.

"Wrth i gynlluniau casglu newydd gael eu rhoi yn eu lle, byddem yn annog cynhyrchwyr llaeth sydd wedi eu heffeithio i gysylltu â’u prynwyr cyn gynted â phosib ac i gysylltu â NFU CallFirst am gyngor a chymorth pellach.”

Dywedodd llefarydd ar ran Alra Foods mai eu blaenoriaeth yw sicrhau bod “llaeth yn parhau i gael ei gasglu” a’u bod “wedi rhoi cynlluniau wrth gefn ar waith yn yr ardaloedd lle mae Lloyd Fraser yn gweithredu, sy’n cynnwys Sir Gaer, gogledd Cymru a’r Amwythig.”

Dywedodd Aelod Seneddol Sir Drefaldwyn, Craig Williams AS fod y newyddion yn “hynod o drist” a’u bod yn “gweithio gyda phartneriaid i gefnogi’r cwmni - yn enwedig staff o Four Crosses sy’n cael eu heffeithio’n uniongyrchol.

Dywedodd Russell George A.S fod y "ffaith bod y prif laethdai wedi symud mor gyflym i roi cynlluniau yn eu lle, gan sicrhau y bydd casgliadau yn dal i ddigwydd heddiw a thros y penwythnos" yn cynnig sicrwydd.

Mae Lloyd Fraser wedi cael cais am sylw.

Pynciau cysylltiedig