Gardd Bodnant yn 150 oed

BodnantFfynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae 150 mlynedd ers i Henry Pochin brynu Bodnant mewn ociswn

  • Cyhoeddwyd

150 blynedd yn ôl roedd gan un dyn weledigaeth sydd dal yn cael ei werthfawrogi hyd heddiw.

Prin y byddai’r gwyddonydd Henry David Pochin yn credu bryd hynny y byddai pobl yn heidio yn eu miloedd pob blwyddyn i droedio gardd y gweithiodd mor galed i'w chreu.

Mae Gardd Bodnant yn un o atyniadau mwyaf poblogaidd y gogledd.

Nawr mae’r gerddi dan ofalaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sy’n cyflogi 27 garddwr i gynnal a chadw’r 84 acer o dir.

Disgrifiad,

Mae Huw Edwards yn gweithio fel garddwr ym Modnant

Pan brynwyd y stad yn 1874 roedd gan Pochin weledigaeth i droi’r ardd yn un fyddai’n fyd enwog.

Priododd ei ferch, Laura, â Charles McLaren, Arglwydd 1af Aberconwy, yn 1877 a datblygodd nhw'r ardd wyllt ochr arall i'r afon ar droad y ganrif.

Roedd Laura wrth ei bodd â phlanhigion llysieuol a gwnaeth fwy i ddatblygu'r gerddi ffurfiol yn yr arddull Edwardaidd newydd, gyda borderi llawn blodau.

Hyd heddiw mae 250,000 o bobl yn ymweld â Bodnant yn flynyddol, a 50,000 mewn cyfnod o dair wythnos ym mis Mai i weld y Bwa Tresi aur enwog.

Mae’r bwa’n bodoli ers 1880 ac yn mesur 55 metr o flodau euraidd.

Mae’r plasty dal yn nwylo’r teulu ac yn cael ei ddefnyddio fel eiddo preifat hyd heddiw gyda’r ardd yn unig yn agored i’r cyhoedd.

Ffynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r bwa tresi aur yn un o brif atyniadau'r ardd

Mae eleni yn flwyddyn bwysig i’r ardd sydd wedi ei lleoli yn Sir Conwy.

Mae’n 75 mlynedd ers i’r ymddiriedolaeth gymryd gofal o’r ardd, a 150 blynedd ers i’r stad gael ei brynu gan Henry Pochin mewn ocsiwn am £62,000.

Dros y degawdau nesaf cafodd yr ardd ei datblygu nes i'r Rhyfel Byd cyntaf ddod â'r gwaith i stop.

Fe ail-ddechreuodd y gwaith wedi'r rhyfel er mwyn datblygu'r ardd i edrych fel y mae hi heddiw.

Un sy’n adnabod yr ardd yn dda yw David Thomas o Gyffordd Llandudno, sy’n un o'r gwirfoddolwyr, ond mae ei gysylltiad gyda’r ardd yn mynd nôl llawer ymhellach.

“Nes i dyfu i fyny yma, roeddwn yn byw mewn bwthyn dros yr afon tra oedd fy nhad yn gweithio fel un o staff cynnal a chadw'r stad,” medd David.

'Byw ym Modnant'

Bryd hynny roedd 25 eiddo yn rhan o stad Bodnant ac roedd y cyfan yma ar stepen drws David.

“Roeddwn yn byw ar y stad am 27 mlynedd ac roeddwn wrth fy modd yma.

“Roedd gen i’r ardd fwyaf i chwarae ynddi gyda digon o lefydd i guddio yn ogystal â chwarae yn yr afon; roedd y lle perffaith i dreulio fy mhlentyndod,” meddai.

Ar ôl symud i ffwrdd i weithio fe gollodd David gysylltiad â’r ardd am ddegawdau nes iddo weld hysbyseb papur newydd yn gofyn am wirfoddolwyr.

“Nes i weld cais yn y Daily Post am wirfoddolwyr. Nes i feddwl mynd amdani a phan nes i gyrraedd i gael cyfweliad a sgwrs am y lle gydag aelod o staff yr ymddiriedolaeth, dyma’n gofyn i mi egluro pam ei fod o’n credu y baswn i’n mwynhau dod yma i wirfoddoli.

“Dyma ei wyneb yn disgyn pan nes i ddweud wrtho fy mod wedi byw yma ac yn 'nabod y lle fel cefn fy llaw.

“Ers hynny dwi’n dod yma rhyw ddwywaith yr wythnos ac wrth fy modd; yn tywys pobl o gwmpas yr ardd ac adrodd yr hanes,” meddai.

Ffynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Genedlaethol a BBC
Disgrifiad o’r llun,

Llun o David yn dair oed ym Modnant a David heddiw, 67 mlynedd yn ddiweddarach yn gwirfoddoli yn sefyll yn yr union fan

Un sydd wedi bod yn gweithio ym Modnant ers pum mlynedd yw Huw Edwards.

Ar ôl cyfnod yn y coleg yn astudio garddio, daeth yn brentis ym Modnant, ac mae nawr yn gweithio yng ngwaelod y gerddi ar lan yr afon.

“Does 'na ddim dau ddiwrnod yr un peth, mae ‘na gymaint o amrywiaeth yma," meddai.

“Mae diwrnod arferol i mi yn gallu bod yn tocio planhigion, strimio neu dacluso’r llwybrau.

“Mae’r tywydd yn gallu cael effaith mawr ar y lle. Rydyn ni'n gallu cael llifogydd yma ac mewn gwyntoedd cryfion mae ambell i goeden yn gallu disgyn.”

Gyda chymaint o bobl yn ymweld â’r gerddi’n flynyddol mae’n rhaid i Huw fod ar gael i ymateb i gwestiynau’r ymwelwyr am yr holl blanhigion sydd o’i gwmpas.

“Mae’n bwysig i ni fel garddwyr fod yn ymwybodol o enwau Lladin, Cymraeg a Saesneg y planhigion yma, mae sawl un yn dod atoch chi wrth weithio yn gofyn am blanhigion gwahanol ac mae'n bwysig i ni gael y wybodaeth yma," meddai.

Ffynhonnell y llun, Archif teulu Mclaren
Disgrifiad o’r llun,

Llun o 1887 yn dangos y teulu Mclaren yn brysur yn plannu coed

Dros y misoedd nesaf bydd dathliadau ffurfiol yn cael eu cynnal ble fydd yr Ymddiriedolaeth yn nodi pen-blwydd Bodnant yn 150 oed.

Mae cynlluniau i blannu coeden arbennig yn yr ardd a bydd wythnos o weithgareddau yn digwydd yng nghanol mis Hydref.

Yn ogystal â chael mynd am dro, bydd cyfle i bobl arwyddo cerdyn pen-blwydd arbennig fydd wedi'i leoli o dan yr atyniad fwyaf poblogaidd, y bwa tresi aur.

Pynciau cysylltiedig