Sant Baglan: Yr eglwys gudd â straeon am fôr-ladron!
- Cyhoeddwyd
Yng nghysgod y castell yng Nghaernarfon mae'r Foryd yn ymestyn allan tuag at Ynys Môn a chaer Belan. Ar y tir mawr, wedi'i chuddio mewn cae y saif eglwys hanesyddol Sant Baglan.
Mae'r eglwys yn perthyn i blwyf Llanfaglan ac mae modd cerdded yno o'r ffordd fawr ar lwybr cyhoeddus.
Mae cofnodion hanesyddol yn awgrymu bod lloc wedi bod yma ers y chweched ganrif, ond mae to'r eglwys yn awgrymu ei fod wedi'i hadeiladu rhwng 1510-40.
Un sydd wedi bod yn gwirfoddoli yn yr eglwys ers 20 mlynedd yw'r hanesydd lleol o Lanfaglan, Ifor Williams, sydd yn gwybod y cwbl am gysylltiadau Brythonaidd a brenhinol yr eglwys, a'r ateb i'r cwestiwn:
'Oes 'na fôr-ladron wir wedi'u claddu ar lannau’r Fenai?'.
Y Brythoniaid
Mae'r adeilad fel mae o'n sefyll heddiw yn dyddio'n ôl i tua'r 13eg neu'r 14eg ganrif.
Wrth gamu i mewn i'r eglwys mae 'na garreg ar ben y drws gyda geiriau Brythoneg wedi'u naddu ynddi, sy'n dyddio o ddiwedd y bymed i ddechrau'r chweched ganrif.
Dywedodd Ifor Williams: "Mae'r geiriau sydd wedi eu naddu arni yn dweud 'Fili Lovernii Anatemori'.
"Roedd y garreg hon ar ei fyny yn wreiddiol, a'r ffordd gywir y buasai'n darllen yw Anatemori Fili Lovernii, sef carreg Anatemori mab Loverni, neu Anatemarios mab Lovernius."
"Ystyr Anatemori yw Enaidfawr, a Llywern yw Lovernus. Gwelwn yn y Gernwyeg Lowern, ac yn y Lydaweg Lovern, dyma'r gair am lwynog yn y ddwy iaith yma. Mae yn enw personol yn Llydaw."
Ond pam felly bod enw anifail mor arwyddocaol o'r cyfnod?
Yn ôl Ifor: "Yn oes y Brythoniaid os oedd person wedi cael ei enwi ar ôl anifail penodol, yn yr achos yma llwynog, yna roedden nhw'n dod o deulu pwysig.
"Felly mae hi'n amlwg fod y person a naddwyd y garreg hon iddo yn dod o deulu pwerus a phwysig yn yr ardal.
"Dyma un o ychydig gerrig beddi gydag enwau Brythoneg, carreg bwysig iawn yn hanes yr iaith Gymraeg.
"Carreg leol yw hon ac mae wedi dod o lannau'r Fenai."
Bedd môr leidr?
Mae rhai o'r beddau sydd i'w gweld yn y fynwent yn aneglur o ran yr ysgrifen hynafol, ond mae sawl un arall yn adrodd cyfrolau.
Mae sawl un yn dyddio'n ôl i'r 18fed ganrif, nifer lle mae sawl cenhedlaeth o'r un teulu wedi eu claddu yn yr un bedd a llawer un gydag englynion i'w coffáu.
Gan fod yr eglwys ar bwys y môr, mae sawl chwedl fod môr-ladron a morwyr sydd wedi'u lladd mewn llongddrylliadau wedi'u claddu yn y fynwent.
Mae hyd yn oed carreg fedd sy'n dangos arwydd o benglog ac esgyrn wedi'u croesi, sy'n cael ei gysylltu fel arfer gyda môr-ladron, i'w gweld yn amlwg yn y fynwent.
Ond ai môr-ladron yw'r rhain, neu oes yna ateb symlach i'r dirgelwch?
Dywedodd Ifor: "Maen nhw yn dweud fod yna fedd môr-leidr yn y fynwent, gallwch ei gweld o dan y ffenestr ddwyreiniol.
"Nid oes enw arni, dim ond penglog a chroes esgyrn.
"Memento mori, arwydd o farwolaeth yw hwn. Fe oedd hon yn gorwedd ar wal yr eglwys am gyfnod.
"Mwy na thebyg bedd rhywun a fu farw o ryw salwch penodol yw hwn, colera o bosib ac mae'r symbol yn arwydd o hynny.
"Er y chwedlau a'r straeon am fôr-ladron, does 'na 'run wedi'i gladdu yma, ond hawdd iawn base meddwl hynny a ninnau mor agos at y môr."
Dyna ddiweddglo i'r canfyddiad o fôr-ladron felly.
Cysylltiad brenhinol
Mae 'na gysylltiad brenhinol gyda'r eglwys hefyd.
Yma mae Antony Charles Robert Armstrong-Jones wedi'i gladdu.
Roedd yn enwog am fod yn briod â Thywysoges Margaret, chwaer y diweddar Frenhines Elizabeth II rhwng 1960-78.
Bu farw yn 2017, a'i ddymuniad oedd cael ei gladdu yn yr eglwys ag yntau'n berchen ar y teitl Iarll Snowdon.
Mae cysylltiad agos y teulu Armstrong-Jones gyda Phlas Dinas sydd ychydig filltiroedd dros y caeau o'r eglwys.
Mae'r eglwys yn agored i'r cyhoedd ac erbyn hyn dan ofalaeth grŵp Cyfeillion Eglwysi Digyfaill. Maen nhw'n gofalu am sefydliadau crefyddol a'u cynnal nhw rhag disgyn yn adfeilion.
Mae Ifor yn parhau i wirfoddoli ac yn cyfarch pobl o bob cwr o'r byd i'r eglwys.
"Dwi wrth fy modd yma, hyd yn oed ar ôl 20 mlynedd o wirfoddoli yma," meddai.
"Mae'n le i enaid gael llonydd ac mae pobl yn dod yma o bob man.
"Yr wythnos diwethaf roedd yna gwpwl o Awstralia yma, a dwi'n ymfalchïo o gael adrodd yr hanes."
Os am ymweld â'r eglwys, mae'n hawdd iawn i yrru heibio heb sylwi fod unrhyw beth yna.
Yn ôl Ifor mae'r eglwys yn chwarae rhan bwysig yn natblygiad yr iaith Gymraeg o ran sut mae'r iaith wedi datblygu o'r hen iaith Frythoneg ac ieithoedd eraill y Celtiaid.
Pwy fyddai'n meddwl felly fod eglwys sydd wedi’i chuddio o'r golwg ar lan afon Menai yn enghraifft bwysig o gadwraeth Gymraeg.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd20 Mehefin
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf