Yr ardd fotaneg gudd ar lan Afon Menai
- Cyhoeddwyd
Wrth gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, mae 'na siawns i chi gamu ar dir Gerddi Botaneg Treborth.
Gerddi yw'r rhain sydd wedi'u cuddio o'r golwg dan drwch coedwig ar lan Afon Menai ar ochr y tir mawr rhwng y ddwy bont.
Prifysgol Bangos sydd berchen y gerddi ac mae'n gyrchfan bwysig i astudiaethau gwyddonol a botanegol gyda 3,000 o rywogaethau unigryw yn bodoli yno.
"Mae tua 70,000 o ymwelwyr yn dod yma'n flynyddol i weld y gerddi neu hyd yn oed i ddod am dro," medd Curadur y Gerddi, Natalie Chivers.
Daeth y gerddi i feddiant Prifysgol Bangor yn 1960 a bryd hynny roedd y lle yn debycach i "jyngl" na gardd fotaneg, medd Natalie.
Cafodd yr ardd ei phrynu’n wreiddiol er mwyn cael lle i ollwng rwbel wrth adeiladu Pont Britannia.
Ar ôl i'r bont gael ei gorffen, roedd gan y cwmni o leiaf 80 acer o dir dros ben. Roedd Joseph Paxton, a gynlluniodd Barc Penbedw, yn gysylltiedig â'r cwmni ac efallai mai ef a awgrymodd iddynt greu canolfan wyliau, tebyg i sba cyfandirol.
Penderfynodd y cwmni ddefnyddio cynllun Paxton gan alw'r datblygiad yn Parc Britannia, cyn iddyn nhw wynebu problemau ariannol rhai blynyddoedd yn ddiweddarach.
Roedd rhyw elfen o gynllun gardd felly wedi bod ar y safle am dros ganrif cyn i'r Brifysgol gamu i mewn yn y 1960au.
Erbyn hyn mae dau aelod o staff llawn amser a thua 50 o wirfoddolwyr sy'n cael eu galw'n Cyfeillion Treborth yn helpu i gynnal a chadw 45 acer o'r gerddi.
Mae hanner o rywogaethau'r planhigion yn cynnwys rhai trofannol sy'n cael eu defnyddio am resymau gwyddonol ac addysgiadol.
Mae sawl tŷ gwydr yn cynnwys casgliad o blanhigion arbennig a rhai prin.
Mae'r planhigion prin eraill yn cynnwys y Wollemia nobiliso.
Mae o ddiddordeb botanegol eithriadol gan ei bod yn newydd i wyddoniaeth, ni chafodd ei ddarganfod tan 1994 yn ne ddwyrain Awstralia.
Coeden brin arall yw'r Dderwen Lucombe, sy'n groes rhwng Derwen Twrci (Quercus cerris) a'r Goeden Gorc (Quercus suber).
Mae dau sbesimen yn Nhreborth, credir iddynt gael eu plannu gan Syr Joseph Paxton, fel rhan o'i gynlluniau Parc Britannia.
Mae sawl cwrs a modiwlau gwahanol yn defnyddio'r gerddi'n ddyddiol, ond maen nhw hefyd yn lle i enaid gael llonydd ac yn llecyn pwysig ar gyfer iechyd meddwl.
Un sydd wedi bod yn gwirfoddoli ar y safle ers gorffen cwrs yn y Brifysgol yw Alex Burnett.
"Mae wir yn anrhydedd cael dod yma i wirfoddoli ac i helpu gyda gwahanol brosiectau.
"Mae'n ofod unigryw iawn sydd wedi'i guddio i raddau. Mae'n le lle gallwch ei ddefnyddio at ddibenion academaidd ac i ymlacio ar yr un pryd," meddai.
Mae mynediad i'r gerddi am ddim ac maen nhw'n agored i'r cyhoedd.
Un arddangosfa newydd sy'n amlwg iawn yn y gerddi ar hyn o bryd yw Gardd Maint Cymru.
Gardd yw hon a enillodd wobr aur yn Sioe Flodau Chelsea eleni ac sydd nawr wedi'i throsglwyddo i Fangor.
Sut felly mae trosglwyddo gardd gyfan o Lundain i ogledd Cymru?
"Mae'n broses anodd a gofalus iawn. Fe gymerodd hi rai wythnosau i dorri'r ardd i lawr i ddarnau bychain, a’i gosod ar gefn lori cyn ei ailadeiladu'n ofalus yma ym Mangor," medd Natalie.
Mae Gardd Maint Cymru yn cynrychioli coedwigoedd trofannol, ond mae’n cynnwys rhywogaethau o blanhigion sy’n ffynnu yn ein hecosystemau ym Mhrydain.
Yn ôl Natalie mae Treborth yn "gartref arbennig ac addas iawn" ar gyfer gardd fwyaf bioamrywiol sioe flodau Chelsea.
"Fel garddwyr ry'n ni'n llysgenhadon pwysig iawn ar gyfer lledu'r neges ynglŷn â newid hinsawdd a pha mor allweddol yw hi i reoli tir yn iawn," meddai.
Yn ogystal â bod yn gartref i blanhigion trofannol, mae'r goedwig hefyd yn llawn o anifeiliaid gwyllt.
Un o'r rhai nodweddiadol yw'r gwiwerod coch. Daethant i'r ardd ym mis Medi 1976, wedi croesi o Ynys Môn, ond wedyn ni chafwyd cofnod ohonynt tan 2009.
Gan fod yr ardd mor agos yn ddaearyddol i Ynys Môn, mae'n hanfodol bwysig nad oes gwiwerod llwyd yn yr ardd, felly mae'r niferoedd hynny yn cael eu rheoli.
Mae'r ardd yn gartref i famaliaid eraill hefyd, fel llwynogod, ystlumod, llygod a thyrchod daear.
Mae Natalie yn benderfynol o greu awyrgylch groesawgar yn yr ardd.
Mae'r elfen fod y cyfan am ddim i'r cyhoedd yn bwysig iddi hi achos does dim angen rhoi "pris ar natur," meddai.
Mae'n fath o le mae pobl yn digwydd taro ar ei draws heb wybod fod o yma, ac mae cyfeillion Treborth a staff y gerddi yn barod iawn i groesawu mwy o ymwelwyr i weld y rhyfeddodau sydd wedi'u cuddio ar lan y Fenai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2023