Cyflwyno proses i adalw Aelodau o'r Senedd 'cyn gynted â phosib'

SeneddFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i basio deddfwriaeth i gyflwyno proses i "adalw" Aelodau o'r Senedd "cyn gynted â phosib".

Felly bydd pleidleiswyr yn cael y cyfle i ddiswyddo Aelodau o'r Senedd os ydyn nhw'n camymddwyn.

Dywed Llywodraeth Cymru fod "ymddiriedaeth y cyhoedd mewn gwleidyddiaeth yn anodd ei ennill, ond yn hawdd ei golli, a'n dyletswydd ni yw ei diogelu".

Ond awgrymodd gweinidogion efallai na fyddai'n dod i rym mewn pryd ar gyfer dechrau'r Senedd newydd ym mis Mai 2026.

Yn wahanol i isetholiadau adalw San Steffan, byddai'r gwleidydd yn cael ei ddisodli gan rywun arall o'r un blaid.

Dywedodd Hannah Blythyn AS, cadeirydd y pwyllgor a luniodd y cynigion, y byddai'r newidiadau yn helpu i adeiladu "ymddiriedaeth a thryloywder yn ein prosesau, yn ein gwleidyddion ac yn ein gwleidyddiaeth".

Er i'r Cwnsler Cyffredinol Julie James gytuno i gyflwyno deddfwriaeth cyn yr etholiad nesaf, fe rybuddiodd fod "amser yn brin".

Mae cytundeb trawsbleidiol bod angen newid y system ac yn ôl Julie James "mae ymddiriedaeth y cyhoedd mewn gwleidyddiaeth yn anodd ei ennill, ond yn hawdd ei golli, a'n dyletswydd ni yw ei diogelu".

"Mae pobl yn disgwyl safonau uchel gan eu cynrychiolwyr etholedig, a phan na fydd y safonau hynny'n cael eu cyrraedd, maen nhw'n disgwyl canlyniadau," meddai.

"A dyna pam mae angen system deg, dryloyw sy'n caniatáu i bleidleiswyr, yr union bobl sy'n ein rhoi ni yma, gael y gair olaf."

Ar hyn o bryd, os yw hi'n dod i'r amlwg fod Aelod o'r Senedd wedi torri'r cod ymddygiad mae modd eu hatal am gyfnod o amser, ond yn wahanol i San Steffan ni ellir eu gwahardd yn llwyr.

Bu galwadau ers tro i'r system newid, ond mae'r mater wedi dod i'r pen yn ddiweddar wrth i'r Senedd baratoi i ehangu i 96 aelod gyda system etholiadol newydd.

Sut fyddai'r broses yn gweithio?

Gan gofio'r newidiadau sydd ar y gweill i'r drefn bleidleisio yn yr etholiad nesaf, dyma enghraifft o sefyllfa bosib i ddangos sut fyddai cynlluniau'r pwyllgor safonau yn gweithio:

Mae Plaid A yn cyflwyno rhestr o ymgeiswyr ar gyfer etholaeth.

Mae Ymgeisydd 1 yn cael ei ethol, ond yna'n camymddwyn i'r fath raddau bod y pwyllgor safonau'n argymell proses adalw.

Os ydy'r Senedd yn cymeradwyo hynny, byddai pleidlais yn digwydd chwe wythnos yn ddiweddarach, ble gall etholwyr Ymgeisydd 1 benderfynu a ddylai'r person hwnnw gadw ei sedd, neu a ddylai'r sedd fynd at y person nesaf ar restr wreiddiol Plaid A.

Bydd hynny'n wir hyd yn oed os oedd Ymgeisydd 1 wedi gadael Plaid A erbyn hynny.