Sir Gâr: Arestio menyw ar amheuaeth o ddynladdiad

- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau bod menyw wedi ei harestio ar amheuaeth o ddynladdiad trwy esgeulustod dybryd, mewn cysylltiad â marwolaeth plentyn.
Dywedodd yr heddlu bod swyddogion wedi eu galw i Langynnwr, Sir Gaerfyrddin, tua 18:00 ar 20 Chwefror, lle roedd plentyn yn wael.
Cafodd y ferch ei chludo i'r ysbyty, lle bu farw'n ddiweddarach, meddai'r heddlu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl