Dywediadau am y tywydd – gwir neu gau?

Dywedir bod awyr goch min nos ac adar yn hedfan yn uchel yn yr awyr yn arwydd o dywydd braf
- Cyhoeddwyd
Ydy awyr goch fin nos yn golygu tywydd teg? Ydy gwartheg yn gorwedd pan fydd hi ar fin bwrw glaw? A fydd mis Mawrth yn 'mynd allan fel llew' ar ôl 'dod i mewn fel oen'?
Y dyddiau yma rydyn ni'n cael digon o rybuddion am y tywydd ar deledu a gwefannau, apiau neu ffonau. Ond cyn yr holl ddata digidol, roedd pobl yn gorfod sylwi ar arwyddion byd natur o'u cwmpas a dibynnu ar wirioneddau wedi eu pasio lawr dros ganrifoedd i gadw golwg ar y tywydd.
Gyda'n tywydd ni'n gallu bod mor anwadal a thechnoleg yn methu weithiau, gallai'r sgiliau hyn fod yn ddefnyddiol inni o hyd.
Ond pa ddywediadau sy'n ddibynadwy a pha rai sy'n ddim mwy nag ofergoelion? Y naturiaethwr Twm Elias, sydd wedi casglu miloedd o ddywediadau, rhigymau a choelion am y tywydd, sy'n egluro ai gwir neu gau ydy'r rhai o'r dywediadau cyffredin hyn.
1. 'Os daw Mawrth i mewn fel oen, fe aiff allan fel llew'
"Hynny yw, os yw dechrau'r mis yn fwyn, bydd yn gorffen yn ffyrnig, neu mae'r gwrthwyneb yn gyffredin hefyd: 'os daw i mewn fel llew, fe aiff allan fel oen'. Fel llawer o ddywediadau eraill sy'n edrych ymlaen fwy na ryw ddiwrnod neu ddau i'r dyfodol prin iawn yw ei gywirdeb. Mae ystadegau tywydd dros ddwy ganrif a mwy yn dangos hynny, ac mai mater o lwc yw hi pan mae'n digwydd bod yn gywir. Ond mae'r ychydig adegau hynny yn ddigon i gadarnhau ym meddyliau pobl ei fod yn wir. Enghraifft o rym y dywediad traddodiadol yn bwysicach na'i wirionedd. Gau."
2. 'Buwch yn gorwedd – mae am lawio'
"Mae hon yn goel gyffredin iawn ond fe orweddith buwch i gnoi ei chil be bynnag fo'r tywydd! Gau!"

Weithiau mae gwartheg jest wedi blino…
3. 'Mwg yn syth - tywydd sych, mwg yn gam - glaw ym mhob man'
"Os yw mwg yn codi'n syth i'r awyr mae'n dangos tywydd braf sefydlog, ond os yw'r mwg yn gwyro neu gael ei chwalu gan y gwynt mae'n dywydd ansefydlog efo siawns dda o law. Gwir."
4. 'Awyr goch y bore - aml gawode, awyr goch y p'nawn - tegwch a gawn'
"Un o'r arwyddion tywydd mwyaf adnabyddus, efo llawer o amrywiaethau lleol arno. Gall fod yn arwydd da a dibynadwy iawn, ond cymerwch ofal am y bydd machlud 'coch hyll' (dwys neu dywyll), neu binc, yn medru bod yn arwydd o storm o law neu eira, ac os yw'r cochni yn ymestyn reit rownd y gorwel, gall hynny hefyd fod yn arwydd storm: 'coch o gwmpas, glaw trwy'r deyrnas'. Gwir – i raddau!"
5. 'Eira mân, eira mawr'
"Mae hwn yn arwydd digon cywir. Eira mân = y grisialau wedi rhewi yn gorn am fod tymheredd yr awyr yn oer iawn, sy'n golygu bod yr eira yn fwy tebygol o aros a hel i roi trwch go lew o eira. Plu eira 'mawr' = y grisialau ddim mor oer ac felly yn wlypach ac yn dueddol o sticio at ei gilydd i wneud plu eira mwy o faint, ac fydd yn dadmer yn gynt. Gwir."

Os yw'r eira'n disgyn mewn plu mân, mae'n fwy tebygol o aros a lluwchio
6. 'Pan fydd blodau'n cau, mae'n arwydd glaw'
"Bydd gostwng tymheredd, a'r awyr yn tywyllu wrth iddi hel am law, neu pan yn glawio, yn achosi i lawer o flodau gau, fel maent yn cau dros nos hefyd. Mae hyn yn amddiffyn y blodyn rhag i'r paill gael ei chwalu neu ei olchi ymaith gan ddiferion y glaw. Yn aml arwydd ei bod yn glawio yn barod yw hwn am fod y blodau'n cau mor araf nes anodd sylwi tan iddi fod yn bwrw'n barod. Gwir."
7. 'Os yw dail y coed yn troi tu chwith allan mae'n arwydd o law'
"Fel mae cawod o law yn dynesu, mae'r gwynt yn codi ac yn codi'r dail nes bod eu gwaelod yn dod uchaf. Mae hwn yn arwydd da iawn ac yn amlwg iawn ryw ychydig funudau cyn iddi ddechrau glawio. Jyst digon o amser ichi roi'ch côt amdanoch neu ei hel hi'n reit sydyn am y tŷ neu i gysgod. Gwir."
8. 'Nadolig gwyrdd, Pasg gwyn'
"Amrywiad yw hwn ar 'Dolig glas, Mai cas' a nifer o ddywediadau tebyg. Hynny yw, mae coel y bydd yna ddial am dywydd mwyn dros y Dolig ar ffurf tywydd gwael yn y gwanwyn/dechrau'r haf. Dengys yr ystadegau tywydd hanesyddol nad oes dim sail i hyn. Gau."
9. 'Cnydau trwm, gaeaf llwm'
"Does dim sail i hwn chwaith. Mae amryw o ddywediadau tebyg, e.e. bod 'llawer o aeron coch ar y celyn yn arwydd o aeaf caled'. Ond mewn gwirionedd arwydd yw hwn y bu hi yn dywydd ffafriol yn y gwanwyn, adeg y blodeuo, neu yn y tymor tyfu. Gau!"

Arwydd o lwyddiant y gwanwyn yw bod llawer o ffrwythau ac aeron ar goed, nid darogan gaeaf caled
10. 'Bydd adar yn tewi cyn storm'
"Fel mae'r tymheredd yn gostwng a cyn iddi lawio, mae'n debyg bod yr adar mân yn distewi rhywfaint a mynd i glwydo neu chwilio am loches. Rhaid cofio hefyd, pan fydd yn dechrau glawio, yn enwedig glaw trwm, na fydd yn hawdd clywed cân aderyn. Gwir."
Dywediadau eraill am adar:
"Adar ymfudol yn cyrraedd yn gynnar ddechrau'r gaeaf – byddant yn aml yn cyrraedd o flaen stormydd gaeafol, ac mae enwau rhai ohonynt yn dweud hynny, e.e., 'adar drycin' (heidiau drudwy neu socan eira). Gwir.
Wenoliaid yn cyrraedd yn gynnar yn y gwanwyn – tywydd braf. Ond mae eu cyrraedd yn dibynnu ar amodau yn ystod eu taith ymhell i'r de. Cofiwch y ddihareb: 'Un wennol ni wna wanwyn.' Gau."
11. 'Lleuad yn boddi - glaw cyn yfory'
"Pan mae niwl yn yr awyr yn y nos, neu haen denau o gymylau, bydd y lleuad yn edrych yn wan – yn 'boddi' fel petai. Mae'n arwydd bod glaw yn debygol yn yr oriau nesaf. Dywedir yr un peth yn y dydd hefyd pan fo'r 'haul yn boddi'. Gwir."
12. 'Defaid yn dod i lawr o'r mynydd - storm ar ei ffordd'
"Gwir iawn am y geifr 'gwylltion' yn Eryri hefyd. Mae defaid a geifr yn uchel ar y mynydd yn teimlo newidiadau yn y tymheredd a nerth y gwynt yn llawer cynt na ni ac yn ymateb wrth i'r tywydd wanio fel mae storm yn dynesu, drwy ddod i lawr i lefydd mwy cysgodol. Ar un adeg byddai ffermwyr yn dal sylw ar lle byddai'r ceffyl neu'r gwartheg ar y ffridd – os oeddent yn pori'n uchel neu yn y gwaelodion mwy cysgodol. Gwir."

Mae Twm Elias wedi casglu miloedd o ddywediadau a choelion am y tywydd
"Dywedir bod cŵn yn gallu synhwyro pan mae storm ar ei ffordd hefyd, ac y byddant eisiau dod i'r tŷ i swatio. A hefyd bod cathod yn chwarae a rhedeg o gwmpas yn wyllt yn arwydd bod gwynt a thywydd garw ar ei ffordd:
"Fe neidia'r gath yn hoyw
Rhwng gwynt a thywydd garw
A throi ei thin tuag at y tân
Os ydyw hi am fwrw.
"Mae ymateb fel hyn yn wir am ddefaid ifanc hefyd: "Ŵyn blwyddiaid yn neidio fel ffyliaid." A does ond ichi ofyn i unrhyw athro i gael cadarnhad fod plant yn chwarae'n wyllt ac yn afreolus ar ddiwrnod gwyntog!"
Ers cyhoeddi'r dywediadau hyn a 3,000 o rai eraill yn ei gyfrol Am y Tywydd, mae Twm Elias wedi casglu rhai cannoedd o arwyddion, geiriau (wyddoch chi bod ymhell dros gant o eiriau yn disgrifio glaw yn y Gymraeg?) a dywediadau ychwanegol, a'i obaith yw y byddant yn cael eu cynnwys mewn ailargraffiad o Am y Tywydd yn y dyfodol.
Os oes gennych chi hoff ddywediadau i'w rhannu gydag o fe fyddai'n falch iawn o glywed oddi wrthych. Cysylltwch gyda ni: cymrufyw@bbc.co.uk , dolen allanol
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2019