Llwyddiant Cwpan Undydd Morgannwg i ailgynnau’r fflam?
- Cyhoeddwyd
Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru, Cennydd Davies sy'n asesu gobeithion cricedwyr Morgannwg yn rownd derfynol y Cwpan Undydd yn erbyn Gwlad yr Haf ddydd Sul.
Ar yr olwg gyntaf mae cyrraedd rownd derfynol un o gystadlaethau domestig y tymor criced yn awgrymu tymor gymharol lwyddiannus, ac i fod yn deg mae’n rhaid cydnabod llwyddiant a chysondeb Morgannwg yn hynny o beth.
Maen nhw wedi dod o hyd i rythm effeithiol yn y gystadleuaeth yma, wrth ennill pob gêm ac eithrio un ar y ffordd i’r rownd derfynol.
Mae gan Forgannwg hanes o lwyddiant mewn cystadlaethau 40 neu 50 pelawd, ac mi fydd y tîm yn Trent Bridge ddydd Sul yn gobeithio efelychu campau timau 1993, 2002, 2004 ac yn fwy diweddar yn 2021 pan gipiwyd y gystadleuaeth gyda buddugoliaeth dros Durham.
Mae’r gystadleuaeth eleni wedi bod yn gyfle i ailasesu ac i gynnal momentwm, ond dyw hynny ond yn rhoi hanner y darlun, oherwydd unwaith eto yn y gystadleuaeth 20 pelawd ac ym Mhencampwriaeth y Siroedd mae’r sir wedi tangyflawni.
Y cwestiwn mawr felly yw a fyddai codi’r Cwpan Undydd yn dynodi tymor llwyddiannus, neu a fyddai ond yn celu’r gwir am gyfnod byr?
Unwaith eto'r tymor yma, mae diffyg opsiynau ymhlith y bowlwyr wedi bod yn broblem gyson - ond y rhwystredigaeth i’r cefnogwyr pybyr yw nad yw hyn yn rhywbeth newydd.
Roedd yr ymgyrch yn y gystadleuaeth 20 pelawd yn un anghyson, tra bod y sir ar hyn o bryd yn y safle olaf ond un yn ail adran Pencampwriaeth y Siroedd.
Dyw perfformiadau diweddar wedi gwneud dim i godi hyder chwaith, wrth i Forgannwg golli tair o’r pedair gêm ddiwethaf.
Ond, yn y gystadleuaeth 50 pelawd mae’r clwb wedi dod o hyd i ryw fformiwla lwyddiannus, a heb os, fe fyddan nhw’n ddibynnol eto ar y batiwr profiadol o Dde Affrica, Colin Ingram – sydd eisoes wedi sgorio dros 1,000 o rediadau mewn gemau dosbarth cyntaf eleni.
Mae cyfraniad Ingram wedi bod yn amhrisiadwy ar Erddi Soffia am bron i ddegawd nawr, ond mae’r cyfrifoldeb wedi disgyn ar ei ysgwyddau ef yn rhy aml eleni, ac fe fydd gofyn i rywun arall i’w gynorthwyo yn Trent Bridge.
Yn debyg i glybiau pêl-droed, mae modd defnyddio’r cwpan i fagu hyder ac i gael effaith gadarnhaol ar gyfer y darlun ehangach.
Mae’r clwb yn cydnabod nad yw eleni wedi bod yn fêl i gyd, ac mae sawl peth sydd angen ei ddatrys.
Mi fydd recriwtio’n graff yn hanfodol dros y gaeaf er mwyn osgoi tymor tebyg y flwyddyn nesa', gyda batiwr agoriadol a bowliwr â chyflymdra gwirioneddol ar frig y rhestr.
Haws dweud na gwneud efallai, ac mi fydd cyllid ar Erddi Soffia yn penderfynu faint o chwaraewyr newydd fydd yn gallu cael eu denu.
Ble mae'r Cymry?
Yr hyn sydd yn bryder serch hynny yw’r diffyg chwaraewyr o Gymru sydd wedi eu cynhyrchu ac wedi cyrraedd y brig ers oes aur y 90au a dechrau’r ganrif.
Mae Kiran Carlson a Ben Kellaway yn chwaraewyr o fri, ond yn anffodus eithriadau yw'r rhain wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae angen llawer mwy.
Ond yn ôl at y presennol, a Gwlad yr Haf yw’r her yn Nottingham ddydd Sul – tîm cryf fydd yn dipyn o her, a thîm sydd wedi buddsoddi’n lleol ac yn yr academi.
Mae Morgannwg eisoes wedi curo’u gwrthwynebwyr eleni yn y gystadleuaeth 20 pelawd - a hynny’n gyffyrddus o 120 o rediadau - ond mi fyddan nhw’n cwrdd â thîm fydd yn benderfynol o daro nôl wedi’r siom o golli yn rownd derfynol y gystadleuaeth honno'r penwythnos diwethaf.
Dyw hi ddim yn glir chwaith a fyddan nhw’n cynnwys chwaraewyr nad oedd ynghlwm â’r gystadleuaeth fis Awst oherwydd dyletswyddau rhyngwladol, neu'r rheiny oedd yn rhan o gystadleuaeth yr Hundred.
Mi fydd yna filoedd mae’n siŵr yn heidio i ganolbarth Lloegr yn y gobaith o weld Morgannwg yn codi tlws domestig unwaith eto, a bod hynny yn ei dro yn gosod seiliau cadarn ar gyfer y dyfodol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Medi 2023
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2023