Ydy hi'n amser i Gymru gael tîm criced cenedlaethol?
- Cyhoeddwyd
Ar nos Wener, 8 Medi, fe chwaraeodd tîm criced Lloegr gartref yn erbyn Seland Newydd mewn gêm undydd. Ond roedd y gêm gartref yma i Loegr yng Ngerddi Soffia, Caerdydd.
Yr ECB (Bwrdd Criced Cymru a Lloegr) yw'r corff rheoli, a Lloegr yw enw'r tîm rhyngwladol. Ond ganrif yn ôl roedd gan Gymru dîm criced ei hun, yn chwarae yn erbyn timau fel Seland Newydd, De Affrica ac India'r Gorllewin. Roedd y tîm yma'n chwarae yn yr 1920au ac i fewn i'r 1930au, gan gynrychioli Cymru mewn 16 gêm dosbarth cyntaf rhwng 1923 ac 1930.
Dros y degawdau a ddilynodd roedd tîm Cymru'n chwarae yn achlysurol mewn pencampwriaethau ICC (Cyngor Rhyngwladol Criced), a rhwng 1993 a 2001 roedd Cymru'n chwarae yng nghystadlaethau Prydain; yn erbyn Iwerddon, Yr Alban a thîm Lloegr XI. Hefyd, rhwng 2002 ac 2004 fe chwaraeodd tîm Cymru dair gêm undydd yn erbyn Lloegr.
Mae Matthew Ford yn wreiddiol o Gaersws ond yn byw yng Nghaerdydd ers rhai blynyddoedd. Mae wedi ymgyrchu dros sefydlu tîm swyddogol cenedlaethol i Gymru yn y gorffennol ac wedi ymddangos gerbron Aelodau Cynulliad Cymru, fel yr oeddent yn 2013, yn dadlau ei achos.
Felly pam fod Matthew Ford eisiau gweld Cymru'n cael tîm criced cenedlaethol? "I ddeall pa mor bwysig yw hi i Gymru gael tîm criced ei hun does ond angen edrych ar Cwpan y Byd Pêl-droed yn Qatar y llynedd," meddai.
"Roedd Cymru'n cael ei gweld ledled y byd. Roedd chwarae yn erbyn UDA, yn arbennig, yn golygu ein bod yn cael sylw gan y farchnad fwyaf y byd. Mae hynny'n farchnata anhygoel i Gymru, a dim ond drwy gael ein timau chwaraeon cenedlaethol ein hunain y gallwn ei gael.
"Gallai fod yr un peth ar gyfer criced. Mae 'na rai marchnadoedd mawr allweddol ble mae criced yn hynod boblogaidd; India, UAE ac Awstralia. Drwy fethu â chael ein tîm Cymreig ein hunain, rydym hefyd yn methu â marchnata ein hunain yn y gwledydd hynny, pan ddaw i chwaraeon."
Dydy Cymru heb chwarae fel tîm cenedlaethol ers bron i 20 mlynedd, ond yn y blynyddoedd hynny mae gwledydd fel yr Iseldiroedd ac Afghanistan wedi gwella'n aruthrol, a bydd y ddwy wlad honno'n cystadlu yng Nghwpan y Byd 2023. Mae rhai yn dadlau bod Cymru'n cael ei chynrychioli'n ddigonol gan dîm Lloegr, ond dim dyna yw barn Matthew Ford.
"Mewn gwirionedd dydyn ni ddim yn cael llawer o fanteision drwy gael ein 'cynrychioli' gan Loegr. Mae fel nad yw Cymru'n bodoli. Mae hyd yn oed y syniad o gynnal gemau criced Lloegr yng Nghymru fel canolbwynt chwaraeon byd-eang ar ben i ddweud gwir, achos dydy Caerdydd ddim yn cynnal gemau prawf bellach.
"Yn 2023 dim ond un diwrnod o griced rhyngwladol fydd yn cael ei chwarae yng Nghymru. Pam bo' ni'n derbyn peidio cael tîm Cymru er mwyn i Loegr allu chwarae un diwrnod o griced rhyngwladol yma y flwyddyn?
"Pe bai gennym ein tîm ein hunain byddai llawer o ddyddiau o griced rhyngwladol yn cael ei chwarae yng Nghymru bob blwyddyn. Ac yn lle gorfod aros degawdau i Gymro chwarae ambell i gêm i Loegr fe allen ni sicrhau fod cricedwyr Cymreig yn chwarae criced rhyngwladol yn rheolaidd.
"Er mwyn gweld enghreifftiau o hyn, gallwn edrych ar Yr Alban ac Iwerddon. Yn hanesyddol mae criced wedi bod yn llawer mwy poblogaidd yng Nghymru, ond yng Nghwpan Criced y Byd eleni yn India bydd Yr Alban ac Iwerddon yn cystadlu i fod yno, ond nid Cymru. Mae hynny oherwydd bod gan Yr Alban ac Iwerddon y dewrder i sefydlu eu timau eu hunain ac maen nhw nawr yn mynd o nerth i nerth.
"Mae'r Alban newydd guro India'r Gorllewin ac mae Iwerddon bellach yn wlad sy'n chwarae criced prawf llawn. Pe bai gan Gymru ei thîm ei hun fe allen ni fod yn cystadlu yng nghystadlaethau Cwpan y Byd hefyd."
Bydd Cwpan Criced Y Byd India 2023 yn dechrau yn Stadiwm Narendra Modi (y stadiwm criced mwya' yn y byd, gyda 134,000 o seddi) yn Ahmedabad ar 5 Hydref. Y gêm agoriadol fydd Lloegr yn erbyn Seland Newydd. Bydd y rownd derfynol hefyd yn cael ei chynnal yn Ahmedabad ar 19 Tachwedd.
Yn 2015 mewn trafodaeth ynglŷn â chreu tîm Cymru roedd ystadegau yn awgrymu bod gan Gymru 7,500 o chwaraewyr criced, i'w gymharu â 6,000 yn Iwerddon. Er hyn, cafodd Iwerddon statws Associate Member gyda'r ICC yn 1993, ac fe gafodd Yr Alban yr un statws flwyddyn yn ddiweddarach.
Mae gan 96 gwlad a thiriogaeth y statws yma ac mae ganddynt dimau rhyngwladol. Mae rhain yn cynnwys bob math o wledydd, fel Sbaen, Norwy, Awstria, Ffiji, Rwanda, Slofenia, Twrci, Lwcsembwrg, Canada a'r Almaen. Deuddeg gwlad sy'n aelodau llawn o'r ICC ac yn chwarae gemau prawf, sef pinacl y gêm i lawer - fe ddaeth Iwerddon yn aelod llawn yma yn 2017.
Mae gwleidyddion o sawl plaid wleidyddol wedi cefnogi'r syniad o greu tîm Cymreig yn y gorffennol, gan gynnwys Adam Price, Mohammad Asghar, Jonathan Edwards a Carwyn Jones; fe ddadlodd y cyn-Brif Weinidog yn 2017 y dylid ailsefydlu tîm undydd cenedlaethol.
Mae Mr Ford yn dweud ei fod yn dyheu am y dydd pan fydd ei ddau fab ifanc yn gallu cefnogi tîm cenedlaethol Cymru.
"Ar nodyn personol, dwi wir eisiau gallu cefnogi tîm Cymreig gyda fy meibion. Daeth Cwpan y Byd Pêl-droed y dynion ag atgofion mor wych i ni. Wna i byth anghofio fi a fy meibion yn dawnsio o gwmpas y stafell fyw wedi i Gareth Bale sgorio'r cic o'r smotyn 'na yn erbyn yr UDA. Roedd honno'n foment arbennig iawn fydda i byth yn ei anghofio.
"Rwy'n breuddwydio y bydd fy mhlant i'n tyfu fyny a chwarae dros Gymru. Ond os ydynt yn dewis chwarae criced bydd hynny'n rhywbeth na allant ei wneud."
"Gyda Chwpan Rygbi'r Byd ymlaen ar hyn o bryd yn Ffrainc fe ddylai pobl wir feddwl am sut brofiad fyddai hi pe bai gan Gymru ddim tîm yn y gystadleuaeth. Byddai fel cael Iwerddon, Yr Alban a Lloegr i gyd yno, ond gofyn i gefnogwyr Cymru gefnogi Lloegr yn unig. Fel cefnogwyr criced o Gymru dyna'n union y bydd disgwyl i ni ei wneud pan fydd Cwpan y Byd criced yn dechrau.
"Nid yw'n ddigon da mewn gwirionedd ac mae'n bryd i ni fwrw ymlaen â sefydlu tîm criced cenedlaethol Cymru."
Fe wnaeth Cymru Fyw estyn gwahoddiad i Glwb Criced Morgannwg i wneud sylw ar y ddadl i greu tîm cenedlaethol i Gymru, ond ni chafwyd ateb.
Hefyd o ddiddordeb: