Canfod corff dynes sydd wedi bod ar goll ym Mhontypridd
- Cyhoeddwyd
Mae menyw 49 oed wedi cael ei chanfod yn farw, bron i wythnos wedi iddi fynd ar goll ym Mhontypridd.
Cafodd Joanne Jones ei gweld ddiwethaf am 09:45 fore Llun yng Ngerddi'r Dyffryn, ac ers hynny mae plismyn a thrigolion lleol wedi bod yn chwilio amdani.
Nos Sadwrn fe gadarnhaodd Heddlu De Cymru eu bod wedi dod o hyd i gorff, a daeth cadarnhad ddydd Sul ei fod wedi'i adnabod yn ffurfiol fel Ms Jones.
Dywedodd yr heddlu nad ydyn nhw'n trin ei marwolaeth fel un amheus.
Mae ei theulu wedi diolch i'r asiantaethau a'r gwirfoddolwyr a fu'n rhan o'r gwaith o chwilio amdani.
Fe ddefnyddiodd yr heddlu wirfoddolwyr achub mynydd, cŵn chwilio arbenigol a dronau i chwilio am Ms Jones.
Yn ogystal cafodd taflenni eu dosbarthu i bobl oedd yn cerdded yn yr ardal.
Bu aelodau o'r gymuned yn chwilio hefyd - gyda nifer yn canolbwyntio ar yr ardal gerllaw Coedwig Llanwynno ar ôl i'r heddlu ddweud eu bod yn credu bod Ms Jones wedi mynd yno.
Roedd camerâu cylch cyfyng wedi dangos bod Ms Jones yn gwisgo cot werdd ac esgidiau trymion tra'n cerdded ar Ffordd Graig-wen oddeutu 10:05 fore Llun.
Dywedodd y Prif Arolygydd Matt Rowlands: “Rwy’n deall pa mor ofidus yw'r newyddion yma i deulu a ffrindiau Joanne, ac rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth barhaus gan y gymuned leol dros y dyddiau diwethaf."