'Bom sy'n tician' - Prinder meddygon canser yn creu oedi i gleifion

Mae pryderon penodol am brinder radiolegwyr yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae cleifion canser yng Nghymru'n wynebu oedi am sganiau a thriniaethau oherwydd prinder cronig o feddygon, meddai grŵp sy'n cynrychioli doctoriaid.
Mae Coleg Brenhinol y Radiolegwyr yn galw ar lywodraeth nesaf Cymru i ymateb i bryderon am ofal canser, gyda'r coleg yn dweud bod y sefyllfa o ran prinder radiolegwyr yng Nghymru y gwaethaf o wledydd y DU.
Maen nhw hefyd yn codi pryderon am y sefyllfa ar draws y DU, gan rybuddio bod oedi wrth aros am sganiau a thriniaethau "a allai achub bywydau".
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oes modd iddyn nhw ymateb ar ran y llywodraeth nesaf ym Mae Caerdydd, ac mai cyfrifoldeb y pleidiau gwahanol yw esbonio sut fydda nhw'n mynd i'r afael â'r mater yn y dyfodol.
Pryder penodol yn y gogledd
Mae'r coleg yn dweud bod y galw am ofal canser yn cynyddu wrth i'r gweithlu grebachu.
Daw'r wybodaeth o arolygon staff mewn canolfannau canser a radioleg ar draws y DU, gyda 90% yn adrodd achosion o oedi cyn i gleifion ddechrau triniaeth.
Dywedodd 70% eu bod yn poeni bod diffyg staff yn peryglu diogelwch cleifion.
Gwaethygu fydd y sefyllfa heb newid, meddai'r coleg, sy'n dweud bod meddygon canser yn gadael y GIG yn gynt nag erioed o'r blaen.
Maen nhw'n honni y gallai Cymru golli 27% o'i ymgynghorwyr oncoleg erbyn 2029.
Dywedodd y coleg hefyd bod anghydraddoldebau amlwg rhwng gogledd a de Cymru, a bod hyn yn peri hyd yn oed mwy o bryder.
Yn y gogledd maen nhw'n rhagweld y bydd y prinder oncolegwyr yn cynyddu i 79% erbyn 2029 - o'i gymharu â 10% ar draws de Cymru.
- Cyhoeddwyd14 Ionawr
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2024
Ar raglen Dros Frecwast fore Iau, dywedodd Dr Sian Phillips sy'n ymgynghorydd radioleg ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, fod yr heriau'n "gymhleth".
"Mae 'na gynnydd wedi bod yn faint o sganiau ni'n neud, ni'n gallu gweld hynny o flwyddyn i flwyddyn achos mae'r coleg brenhinol yn neud adroddiad yn flynyddol, ond dyw'r gweithlu ddim yn cynyddu i allu reporto'r sganiau," meddai.
"Ni yn hyfforddi gweithlu ymgynghorol yng Nghymru - ma' 'na dwf blynyddol o 5% y flwyddyn - so ma' 'da ni lwybr i hyfforddi radiolegwyr, ond dyw hyn ddim yn ddigon.
"Mae ishe i'r byrddau iechyd edrych ar sut maen nhw'n rhoi arian i hyfforddi radiolegwyr, a hefyd sut maen nhw'n rhoi arian i radiolegwyr newydd sydd wedi cael eu hyfforddi."
'Bom sy'n tician'
Ychwanegodd Dr Phillips fod y sefyllfa fel "bom sy'n tician".
"Ni'n gweithio'n galed iawn i drio cadw'r safonau ond ma' fe fel bom sy'n tician - oni bai ein bod ni'n cynyddu'r gweithlu yn iawn erbyn 2029 fyddwn ni'n gweld prinder mwy o oncolegwyr a radiolegwyr yng Nghymru.
"Mae'r oedi yn poeni cleifion... mae pobl eisiau gwybod beth yw'r diagnosis, beth yw'r ateb, a ni'n ymwybodol iawn o hynny fel oncolegwyr a radiolegwyr.
"Ni'n neud cymaint a gallwn ni i gael ateb trwy'r sganiau, ond ma' hwnna'n meddwl bo' ni'n gwario lot o arian i hala sganiau allan o'r gweithlu yng Nghymru i gael nhw wedi reporto mewn amser iawn."

Mae'r coleg yn rhagweld y bydd prinder oncolegwyr yn llawer gwaeth yn y gogledd
Yn ôl Dr James Powell, sy'n Ymgynghorydd Oncolegydd Clinigol yng Nghanolfan Ganser Felindre, Caerdydd, dyw'r heriau presennol ddim yn rhai newydd.
"Y sefyllfa yw bod llai o radiolegwyr ac oncolegwyr na sydd angen arnom ni ym Mhrydain, ac yn anffodus mae'r sefyllfa yn waeth yng Nghymru nag yw e yng ngwledydd eraill Prydain," meddai.
"Dyw e ddim yn sefyllfa newydd, mae'n broblem sydd wedi bodoli am ddegawd neu fwy.
"Mae lot o bwysau ar bobl sy'n gweithio'n y maes yma, ac os oes llai o feddygon na sydd ei angen, yna mae'r pwysau yna yn cynyddu."
Mae buddsoddi mewn hyfforddiant yn un ffordd o fynd i'r afael â'r broblem, meddai Dr Powell.
"Mae'r effaith mae diffyg staff yn ei gael yn arwyddocaol. Gyda radiolegwyr mae'n cynyddu'r oedi am ganlyniadau sgan, wedyn mae hynny falle yn gallu achosi gohirio apwyntiadau, neu fod cleifion yn gorfod teithio fwy ar gyfer apwyntiadau, neu weld meddygon gwahanol bob tro maen nhw'n dod - ac mae hyn i gyd yn cynyddu pryder yn y pendraw, ac yn effeithio ar sut mae pobl yn ymateb i driniaeth.
"Mae'n hollbwysig ein bod ni'n cynyddu safleoedd hyfforddi meddygon iau i alluogi iddyn nhw ddod mewn i maes oncoleg neu radioleg... a hefyd sicrhau ein bod ni'n gallu denu'r meddygon yma i Gymru.
"A wedyn, mae'n rhaid sicrhau, unwaith mae'r meddygon yna yn dod mewn i'r maes, bo' ni'n cynnig hyfforddiant o safon uchel iddyn nhw er mwyn annog nhw i aros i weithio yng Nghymru wrth iddyn nhw orffen eu hyfforddiant."
'Methu targedau ers blynyddoedd'
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod Llywodraeth Cymru wedi amddifadu'r gwasanaeth iechyd o'r staffio sydd ei angen.
Dywedodd llefarydd iechyd y blaid, James Evans AS, fod Llywodraeth Cymru wedi "methu ei thargedau canser ers blynyddoedd, a dydyn nhw ddim yn recriwtio'r meddygon sydd eu hangen".
Ychwanegodd ei bod hi'n "glir bod y sefyllfa ond am waethygu dan Lafur".
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Mabon ap Gwynfor AS bod "safon gofal canser o dan arweinyddiaeth Lywodraeth Lafur Cymru ddim fel dylai fod".
"Ochr yn ochr â'r camau tymor byr byddwn yn eu cymryd i wella rhestrau aros a'r mesurau tymor hir rydym eisoes wedi'u cyhoeddi i newid sut mae'r gwasanaeth iechyd yn cael ei redeg er gwell.
"Byddwn yn cyflwyno canolfannau diagnostig cyflym a hunan-sgrinio, ac yn rhoi ffocws clir ar iechyd ataliol – o ystyried y gellid atal 40% o ganserau. Byddwn hefyd yn datblygu rhaglen a strategaeth gynhwysfawr ar gyfer data'r gweithlu i lenwi'r bylchau, gan olygu mwy o radiolegwyr, oncolegwyr, nyrsys arbenigol a staff canser allweddol eraill o fewn gwasanaethau canser."
Nid oedd Llywodraeth Cymru am ymateb i'r pryderon, a dywedodd llefarydd nad oedd modd iddyn nhw ymateb ar ran y llywodraeth nesaf ym Mae Caerdydd.