'Canser y coluddyn wedi bron fy lladd yn fy 30au, er mor heini'

Roedd Mat Dean yn paratoi ar gyfer cymryd rhan mewn cystadleuaeth corfflunio, fisoedd cyn llawdriniaeth yn dilyn diagnosis canser
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a gafodd rybudd efallai na fyddai'n byw i droi'n 40 oed yn dilyn oedi cyn cael diagnosis canser y coluddyn yn galw am ddechrau sgrinio pobl yn gynt na'r hyn sy'n digwydd dan y drefn bresennol.
Yn 2022, yn 39 oed, roedd Mat Dean o Ben-y-bont ar Ogwr yn paratoi i gystadlu mewn sioe corfflunio, heb unrhyw syniad fod ganddo gyflwr difrifol.
"Ro'n i'n edrych yn grêt ac yn teimlo'n grêt ar y pryd. Doedd dim clem bod tiwmor tu mewn i mi fyddai'n ceisio fy lladd," dywedodd.
Bu'n rhaid iddo gael sawl llawdriniaeth ers hynny wedi i'r canser ledu i'w bledren a'i afu, ond mae'n teimlo'n "ffodus" ei fod yn fyw ac mewn sefyllfa i godi ymwybyddiaeth.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn dilyn canllawiau sgrinio'r DU.

Mae Mat yn gwisgo bag stoma ac yn dweud ei fod wedi gorfod dysgu dod i delerau â sut mae'n edrych ar ôl ei holl lawdriniaethau
Roedd symptomau Mat wedi dechrau y flwyddyn flaenorol - poen stumog difrifol, achlysurol a phresenoldeb gwaed wrth fynd i'r tŷ bach.
Awgrymodd meddyg teulu mai rhwyg wrth godi pwysau oedd yr achos a'i anfon adref, ond fe ddychwelodd y symptomau y flwyddyn ganlynol.
Aeth Mat yn ôl i'r feddygfa ar ôl colli stôn o bwysau yn ystod gwyliau all inclusive a dysgu mwy am gyflyrau fel Crohns ac IBS wrth chwilio am wybodaeth.
Y tro hwn fe gafodd ei sganio a daeth cadarnhad bod tiwmor mawr yn y coluddyn, oedd hefyd wedi lledu i'r afu.
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2024
"Nes i grio o gael gwybod cyn jest eistedd a meddwl 'ydy hyn wir yn digwydd?'
"Fe gymrodd amser hir i brosesu bod e'n digwydd i fi."
Dywedodd mai un o'r profiadau anoddaf oedd rhannu'r diagnosis gyda'i gymar, Holly, a'r ddau yn rhieni i ferch fach bum mis oed, Willow.
"Ro'n i'n gwadu'r peth i fy hun, fi'n meddwl, i ddechrau. Do'n i ddim eisiau i neb wybod - bod yn destun trafod," meddai Holly.
"Ro'n i'n teimlo dicter hefyd - roedd yn gyfnod hurt o brysur gyda babi newydd."

Dywed Mat bod genedigaeth ei ferch Willow yn "fendith", gan ei sbarduno i gadw'n bositif am nad oedd am iddi dyfu i fyny heb dad
Bu'n rhaid addasu'r cynlluniau gwreiddiol i'w drin ar ôl iddi ddod i'r amlwg bod y canser wedi lledu i'r bledren hefyd.
Ym mis Chwefror 2023 fe gafodd ail lawdriniaeth fawr i dynnu'r tiwmor a'r bledren.
Roedd dau fag stoma ganddo nawr - un yn cysylltu â'r coluddyn a'r llall â'r bledren.
"Ro'n i mewn byd o boen a fi 'rioed wedi gweld gymaint o diwbiau a pheiriannau yn fy mywyd," dywedodd.
"Do'n i heb sylweddoli y gallai'r corff dynol ymdopi â chysylltu gymaint o bethau iddo, ond dyna wnaeth fy nghadw'n fyw."

Roedd Mat mewn uned gofal dwys a bu'n rhaid cael cymorth i gerdded wedi'r llawdriniaeth fawr gyntaf
Yn gynharach eleni fe gafodd Mat lawdriniaeth i dynnu bag stoma'r coluddyn, ond mae'r llall yn dal yn ei le.
Mae Mat yn cyfaddef cael trafferth dygymod â hynny, yn enwedig wrth i bobl syllu arno wrth iddo eistedd ger pwll nofio yn ystod gwyliau diweddar.
"Fi wastad oedd y boi heb dop yn yr ardd - ro'n i'n eitha' balch o fy siâp," meddai.
"Mae wedi cymryd amser hir i fi dynnu'r top a'i ddangos, ond dyma oedd fy ffawd.
"Rhaid dysgu byw 'dag e. Mae'r bag yn rhan ohona i."

Mat yn 2023 wedi llawdriniaeth fawr - ac yn 2025 ar ôl iddo ddechrau gallu mynd i'r gampfa unwaith yn rhagor
Mae ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod 241 o bobl dan 54 oed wedi cael diagnosis canser y coluddyn yn 2021.
2,654 oedd cyfanswm yr holl achosion yn cynnwys pob oedran.
Datgelodd adroddiad mewn cylchgrawn meddygol ddiwedd y llynedd bod cyfraddau'n codi ymhlith pobl iau.
Dyw'r canfyddiad yna ddim yn syndod i lawfeddyg Mat, Martyn Evans o Fwrdd Iechyd Bae Abertawe.

Mae'r llawfeddyg colorectal Martyn Evans yn gweld mwy o gleifion iau, fel Mat Dean, nawr nag ar ddechrau ei yrfa
"Rwy'n feddyg ymgynghorol ers bron 13 mlynedd nawr, ac o gofio fy hyfforddiant, rhaid dweud mai anaml iawn weloch chi glaf dan 50 gyda chanser colorectal," dywedodd.
"Ar draws y byd mae'n ffenomenon bod canser colorectal ym mhobl dan 50 yn dod yn fwy cyffredin.
"Mae'n ffenomenon nad ydyn ni'n ei ddeall yn iawn ond maen destun pryder, oherwydd yr hyn rydym yn gwybod yw bod cleifion sy'n iau pan yn cyrraedd ni wedi cyrraedd cymal pellach o'r salwch na chleifion hŷn."
Yng Nghymru, mae pawb sy'n o leiaf 50 oed yn derbyn profion cartref yn awtomatig ar gyfer canser y coluddyn.

Fe wnaeth Mat a Holly ddyweddïo y llynedd
Bu'n rhaid i Mat dynnu tiwmor o'i afu hefyd, a bu'n rhaid iddo roi'r gorau ar ei waith blaenorol fel cynlluniwr gerddi.
Ond mae wedi byw heb ganser am ddwy flynedd bellach, er y bydd yn cael ei fonitro'n agos am y tair blynedd nesaf.
Mae'n edrych tua'r dyfodol bellach, ac yn priodi â Holly yn 2027.
Mae hefyd yn awyddus i rannu ei brofiadau er mwyn codi ymwybyddiaeth.
- Cyhoeddwyd17 Mai 2024
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2022
"Ddylai neb fynd trwy'n un peth os ydyn nhw ond yn cadw golwg ar eu hiechyd a'u coluddyn - mae'n hawdd methu," dywedodd, gan alw am sgrinio pobl iau.
"Ni fyddwn i wedi cyrraedd 50. Bydden i wedi marw o fewn blwyddyn tasen nhw wedi gwneud dim.
"Bydden i ddim hyd yn oed wedi cyrraedd 40... mae gallu cael prawf yn gynt, rwy'n meddwl, yn hanfodol."
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae ei ganfod yn gynnar yn allweddol er mwyn gwella canlyniadau canser, ac rydym yn buddsoddi'n helaeth i wella diagnosis canser.
"Rydym yn dilyn cyngor arbenigol annibynnol Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU, sy'n argymell sgrinio'r coluddyn yn rheolaidd yn achos dynion a menywod rhwng 50 a 74 oed."