Dyfodol undeb myfyrwyr Cymraeg hynaf Cymru 'dan fygythiad'
- Cyhoeddwyd
Mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg hynaf Cymru - UMCA - yn dweud bod eu dyfodol yn y fantol.
Mae Undeb Myfyrwyr Aberystwyth yn ystyried cael gwared ar un o bum swyddog etholedig llawn amser oherwydd toriadau ariannol.
Dywedodd UMCA bod rhai o fewn yr Undeb yn ehangach yn cwestiynu’r angen am Lywydd Cymraeg.
Yn ôl Undeb Myfyrwyr Aberystwyth "does dim newid i unrhyw un o'r rolau yn Undeb Aber heddiw".
Sefyllfa yn 'corddi' myfyrwyr
Dywedodd Cadeirydd UMCA nad yw'r sefyllfa yn ddieithr i fyfyrwyr Cymraeg y brifysgol.
“Mae o’n ein corddi ni fel myfyrwyr Cymraeg ein bod hyd heddiw yn parhau i wynebu’r un bygythiadau â frwydrwyd dros yr hanner canrif ddiwethaf,” meddai Nanw Maelor.
“Mae pwyllgor UMCA yn gwrthod dilysrwydd y broses frysiog yma.
“Rydyn ni’n credu mai o’r gwraidd i fyny y mae undebau yn bodoli ac mai’r unig fyfyrwyr dylai fod â hawl dros barhad swydd sabothol Llywydd UMCA yw’r myfyrwyr y mae’n eu gwasanaethu.”
- Cyhoeddwyd6 Ebrill
- Cyhoeddwyd15 Mehefin
Mewn ymateb, dywedodd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, eu bod "wedi dechrau ar broses o ymgynghoriad ar bob un o’r rolau swyddogion y dyfodol (yn union fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol) o ganlyniad i bolisi".
Ychwanegodd: "[M]a' 'na lawer o bethau i ystyried a dydi’r ymgynghoriad ddim yn agos o gwbl at unrhyw ganlyniad.
“Bydd mwy o ymgynghori ac ystyriaeth i’w gynnal… a phrosesau democrataidd i’w dilyn cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud.”
Nid oedd Prifysgol Aberystwyth am ymateb, gan ddweud mai mater i’r undeb yw hwn.
Fe ddaeth criw o fyfyrwyr ynghyd y tu allan i adeilad y brifysgol nos Wener.
Dywedodd un oedd yno, Swyn Dafydd: “Ni ishe byw drwy gyfrwng y Gymraeg. Hebddo UMCA a’r llywydd fydde ddim hanner y digwyddiadau yn cael eu cynnal wedyn.
“Yn fy marn i mae angen iddo fod yn swydd sabothol lawn-amser oherwydd wrth astudio fydde ddim yr amser gyda chi i roi mewn i’r swydd.”
Yn ôl Llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru mae UMCA yn fwy na sefydliad sy’n trefnu digwyddiadau cymdeithasol yn unig.
“Maen nhw hefyd yn sicrhau llais o fewn y brifysgol academia, gwasanaethau cefnogol gan sicrhau bod y ddarpariaeth yna ac i fod yn llais i fyfyrwyr,” meddai Deio Owen.
“Pan ma' gyda chi swyddog sy’n gweithio’n benodol ar y Gymraeg mae’r effaith yna i weld bron yn syth ar y gymuned Gymraeg o fewn y brifysgol ac yn ehangach.”
Roedd yr awdur Catrin Dafydd yn Llywydd UMCA rhwng 2003-2004 ac mae’n mynnu mai “myfyrwyr UMCA ddylai benderfynu ar dranc a dyfodol” UMCA.
“Mae’r syniad bod 'na swyddogion neu fod 'na doriadau yn gallu gwneud dewisiadau fel hyn yn dwyn anfri ar y syniad democrataidd fod llywyddion wedi’u hethol gan eu myfyrwyr a’r myfyrwyr bia’r dewis,” meddai.
“Mae’r brwydro 'ma yn mynd nôl yn hanesyddol bob tro ma' myfyrwyr iaith Gymraeg a siaradwyr newydd wedi gorfod mynnu eu hawliau nhw."
Daw hyn ar ddiwedd wythnos gythryblus i addysg uwch yng Ngheredigion gydag ansicrwydd ynghylch campws Llambed, Prifysgol Y Drindod.
Ond yn ôl economegydd sy’n arbenigo ar addysg uwch nid yw'r sefyllfa yn unigryw i Aberystwyth.
“Mae’n glir bod 'na broblemau ariannol anferthol yn y sector,” meddai Dylan Jones Evans.
“'Da ni wedi gweld prifysgol fwyaf Cymru - Prifysgol Caerdydd - yn dweud eu bod nhw am wneud colled o dros £30m eleni, Prifysgol De Cymru am wneud colledion o dros £20m, mae 'na broblemau yn Aberystwyth, ma' 'na broblemau ym Mangor.
“Dwi'n meddwl fod hi yn amser i’r gwleidyddion dynnu eu pennau allan o’r tywod ac edrych i weld beth 'da ni am wneud yng Nghymru.
“Oherwydd ar ôl datganoli'r llywodraeth yng Nghymru sydd yn gyfrifol am ddyfodol addysg uwch a pha effaith ma' hyn am gael ar yr economi yng Nghymru”.
Wrth siarad ar raglen Newyddion S4C nos Wener fe ymatebodd Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru i sefyllfa prifysgolion Cymru.
"Ni'n mynd trwy'r cyllid i ystyried be sy'n digwydd dros y flwyddyn nesa," meddai.
"Wrth gwrs mae'r trafodaethau ynglyn ag os byddwn ni'n neud hynny yn y dyfodol yn mynd i barhau."