Cefnogaeth a chymuned - sut mae newid ffitrwydd i fenywod?

Tair menyw yn edrych ar y camera yn gwenu ar ôl gwneud ymarfer corffFfynhonnell y llun, Fiercely Fit
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Saran (yn y glas) bod "cymuned anhygoel o fenywod" o'i chwmpas

  • Cyhoeddwyd

"Dwi ddim yn talu llawer o sylw i bethau fel delwedd; iechyd a sut dwi’n teimlo yw’r peth pwysicaf."

Dyna eiriau Saran, sydd yn ei 40au ac yn fam brysur i bedwar o blant.

Mae hi wedi bod yn cadw'n heini'n rheolaidd ers 2021, ond mae llai na chwarter o fenywod yn gwneud cymaint o ymarfer corff ag sy'n cael ei argymell yn ôl gwaith ymchwil gan Vitality UK.

Menywod yn eu 20au a'u 30au sydd ymysg y rai sy'n gwneud y lleiaf o ymarfer corff (20%), a menywod yn eu 40au a'u 50au sy'n treulio'r cyfnodau mwyaf yn actif (27%).

Ymhlith y rhwystrau sy'n wynebu menywod mae'r her o ganfod amser i wneud ymarfer corff, yr ofn o gael eich beirniadu a'r ffaith bod pwyslais y diwydiant ffitrwydd yn aml ar golli pwysau, yn ôl yr ymchwil.

Disgrifiad o’r llun,

Un o ddosbarthiadau awyr agored Fiercely Fit yn y Mwmbwls

I Saran, gallu bod yn actif o gwmpas pethau eraill yn ei bywyd sy'n bwysig.

"Rwy’n fam i bedwar o blant ac mae gan fy ngŵr swydd sy’n hawlio llawer o’i amser," meddai.

"Rydw i’n gweithio’n rhan amser hefyd, felly mae cydbwyso popeth, yn enwedig pethau rydw i eisiau gwneud i mi fy hun, yn gallu bod yn anodd."

Dechreuodd gyda dosbarthiadau ar-lein cyn symud at wneud sesiynau wyneb yn wyneb, ac mae hi'n canmol y "gymuned anhygoel o fenywod" y mae hi'n ymarfer corff gyda nhw.

Ffynhonnell y llun, Fiercely Fit
Disgrifiad o’r llun,

Mae ffitrwydd yn "frawychus" i lawer o fenywod, meddai Gemma Pugh

Mae Saran yn cymryd rhan mewn sesiynau gyda chwmni Gemma Pugh - Fiercely Fit yn Abertawe.

Dywedodd Gemma ar raglen Dros Ginio ar Radio Cymru ei bod hi'n teimlo'n angerddol dros annog menywod i fod yn actif, ac mai ei bwriad oedd "creu cymuned lle byddai menywod yn teimlo gwir gefnogaeth yn eu taith iechyd a ffitrwydd, heb y pwysau i fod yn berffaith".

"Yn rhy aml, gall mannau ffitrwydd deimlo’n frawychus neu’n anghroesawgar."

Ers sefydlu yn ystod y cyfnod clo, mae'r dosbarthiadau bellach wedi tyfu'n glybiau darllen a cherdded hefyd.

"Doedd e ddim just am ymarfer corff; roedd e’n ymwneud â hyrwyddo cysylltiad, adeiladu hyder, a dathlu buddugoliaethau bychain gyda’n gilydd.

"Roeddwn i eisiau i Fiercely Fit fod yn le lle gallai menywod flaenoriaethu eu lles, nid oherwydd eu bod yn teimlo’n euog."

Ffynhonnell y llun, Fiercely Fit
Disgrifiad o’r llun,

Dosbarth i famau lle mae Cerian yn aml yn mynd â'i mab Iestyn

Un arall sy'n gweld y buddion ydy Cerian Henderson-Hughes, swyddog heddlu yn ei 30au, sy'n deall y pwysau ar ei hamser ers cael plentyn.

"Fe wnes i gyrraedd pwynt lle 'odd angen i fi ail-ddechrau ymarfer corff ar gyfer fy iechyd meddwl", meddai.

"Mae gwneud dosbarthiadau lle dwi'n gallu mynd â fy mab Iestyn gyda fi wedi gwneud cymaint o wahaniaeth.

"Mae'n gyfle i fod mewn lle cefnogol, heb feirniadaeth ac i gymdeithasu hefyd."

Yn ôl yr ymchwil, dim ond 26% o fenywod sy'n gweld buddion iechyd meddwl a ddaw o ymarfer corff fel cymhelliant - rhywbeth sydd angen newid, meddai Gemma.

Dywedodd bod nifer o ferched ifanc yn enwedig "dan beryg cael eu dylanwadu gan ddelweddau negyddol ar gyfryngau cymdeithasol yn lle gweld y buddion o ran lles".

Ffynhonnell y llun, Fiercely Fit
Disgrifiad o’r llun,

Mae dosbarthiadau ffitrwydd rhithiol hefyd yn boblogaidd i nifer o fenywod

Gyda'r ofn o gael eu beirniadu wrth ymarfer corff neu fecso am ddelwedd corff yn effeithio ar 62% o fenywod yn yr arolwg, mae Saran yn canmol y "gymuned anhygoel o fenywod" sydd o'i chwmpas.

"Dwi ddim yn talu llawer o sylw i bethau fel delwedd; iechyd a sut dwi’n teimlo yw’r peth pwysicaf.

"Ond, yn fam i ddwy ferch, rwy’n ymwybodol iawn o’r effaith mae cymdeithas a dylanwadau eraill fel y cyfryngau cymdeithasol yn gallu cael arnyn nhw ac mae hyn yn achos pryder."

Ffynhonnell y llun, Fiercely Fit

Mae'r arolwg yn cynnig bod angen creu mwy o gyfleoedd a sichrau bod cyfleusterau ffitrwydd yn cael eu hariannu fel un o'i datrysiadau.

Hyfforddiant penodol wedi'i theilwra at fenywod ar gyfer adegau gwahanol yn eu bywydau yw un o'r argymhellion eraill.

Mae Gemma'n gobeithio bod y weledigaeth yma yn gallu helpu mwy o fenywod i flaenoriaethu bod yn actif.

"I fi, nid yw erioed wedi bod am faint o weithgareddau rydych chi'n eu ticio nac am ba mor gyflym rydych chi'n rhedeg milltir.

"Mae’n ymwneud â chreu lle cefnogol lle gallwch chi droi i fyny, gwneud yr hyn y gallwch, a gwybod bod hynny’n ddigon."

Gwrandewch ar y sgwrs yn llawn ar Dros Ginio.

Pynciau cysylltiedig