'Mor bwysig i gynghorau beidio gwerthu ffermydd rhent'
- Cyhoeddwyd
Mae yna bryder cynyddol y bydd awdurdodau lleol yn cael eu gorfodi i werthu mwy o ffermydd yn sgil y pwysau ariannol sy'n wynebu cynghorau.
Yn ôl un ffermwr sy'n denant ar un o ffermydd Cyngor Sir Benfro, mae safleoedd o'r fath yn "gwbl hanfodol" ac yn "rhoi cyfle i bobl na sy'n gallu prynu tir i ffermio".
Ychwanegodd NFU Cymru bod ffermydd cyngor yn asedau y dylid eu gwerthfawrogi a chadw.
Dywed Llywodraeth Cymru mai mater i awdurdodau lleol "yw gwerthu tir a'r penderfyniadau ynglŷn â sut y gwnânt hynny".
'Erfyn ar gynghorau i gadw eu ffermydd'
Mae Gerwyn Williams o Dreletert wedi bod yn denant ar un o ffermydd Cyngor Sir Penfro ers dros 40 mlynedd a chyn hynny roedd ei dad yn rhentu'r fferm.
"Mae ffermydd rhent yn gwbl hanfodol ac yn rhoi cyfle i bobl na sy'n gallu prynu tir i ffermio - erbyn hyn mae pris tir wedi mynd mor uchel ac mae'n amhosib i bobl ifanc brynu fferm," meddai wrth siarad â Cymru Fyw.
"Lle 90 erw sy' gen i ac fe fydden i'n bendant yn erfyn ar gynghorau i gadw eu ffermydd ond hefyd mae'n bwysig bod cynghorau yn eu cynnal nhw - 'neud gwaith trwsio a moderneiddio.
"Mae busnesau cefn gwlad yn ddibynnol ar ffermydd ac mae'n bwysig bod y rhai sydd am ffermio yn aros yn eu cynefin.
"Wrth i gynghorau wynebu mwy o bwysau ariannol mae mor bwysig iddyn nhw beidio gwerthu y ffermydd rhent."
Wrth i gynghorau wynebu pwysau ariannol mae yna bryder cynyddol y byddan nhw'n gorfod gwerthu mwy o ffermydd.
Mae Teleri Fielden yn rhentu fferm oddi ar yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Eryri, ac hefyd yn un o swyddogion polisi Undeb Amaethwyr Cymru.
"Mae tir rhent (yn enwedig efo tŷ ynghlwm) yn galluogi pobl leol, pobl ifanc a newydd-ddyfodiaid i gael mynediad i reoli tir - yn enwedig efo prisiau tir fel maen nhw rŵan," meddai.
"Mi fydd prisiau ond yn cynyddu wrth i'r farchnad carbon a gwasanaethau ecosystem ddatblygu.
"Mae angen i gynghorau sir weld cadw ffermydd sir fel buddsoddiad mewn sgiliau rheoli tir yn eu cymunedau nhw, er lles cynhyrchiant bwyd, er lles yr economi wledig a chael arian yn cylchredeg yn lleol."
Nifer o ffermydd wedi'u gwerthu
Roedd maniffesto Undeb Amaethwyr Cymru ar gyfer etholiadau lleol 2022 yn nodi bod oddeutu 950 o ffermydd yn berchen i, ac yn cael eu gosod gan gynghorau sir.
Ond nodir bod arwynebedd y tir cyngor sydd ar gael yng Nghymru wedi gostwng 25% dros y degawd diwethaf.
Fe anfonodd Cymru Fyw gais i bob cyngor yng Nghymru yn holi am y niferoedd.
O'r rhai a atebodd, Cyngor Sir Powys sydd â mwyaf o ffermydd rhent sef 133 - yn 2014 roedd y nifer yn 150.
Mae 77 o ffermydd rhent yn eiddo i Gyngor Sir Ynys Môn ac yn ystod y degawd diwethaf mae'r cyngor wedi gwerthu 14 o ffermydd.
Yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf mae Cyngor Conwy wedi gwerthu pedair, gan adael cyfanswm o chwech, a 23 sy'n weddill gan Gyngor Sir Caerfyrddin wedi iddyn nhw werthu pedair fferm ers 2013.
Yn Sir Ddinbych mae chwech o ffermydd wedi'u gwerthu i'r tenantiaid yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, a'r nifer presennol yw 12.
Doedd yna ddim newid yn niferoedd ffermydd rhent cynghorau Ceredigion (14) a Gwynedd (48 mân-ddaliad a 40 gyda thŷ ar y safle).
Dywed Elwyn Evans, llefarydd tenantiaid NFU Cymru, bod ffermydd cyngor yn asedau y dylid eu gwerthfawrogi a chadw.
“Mae ffermydd cynghorau yn fodd gwerthfawr i bobl ifanc a newydd-ddyfodiaid i’r sector gael troedle yn y diwydiant amaethyddol, ac o’r herwydd maent yn ased cenedlaethol pwysig," meddai.
"Nid yn unig y mae ffermydd cyngor yn cynnig modd gwerthfawr i unigolion sy’n dechrau ffermio gael mynediad i’r sector, maent yn gwneud cyfraniad pwysig i’r economi wledig, ac maent yn ffrwd refeniw barhaus i awdurdodau lleol."
'Diogelu ein hiaith, ein hanes a'n hunaniaeth'
Yn ddiweddar cafwyd trafodaeth ar y mater yn y Senedd wrth i'r Ceidwadwyr alw ar Lywodraeth Cymru i osod moratoriwm ar werthu ffermydd sy'n eiddo i gynghorau.
"Os ydym yn parhau i'w gwerthu, rydym yn chwarae â thân," meddai James Evans ar ran y Ceidwadwyr wrth iddo gyflwyno cynnig ei gyd-aelod Darren Millar.
"Rydym yn peryglu ein diogelwch bwyd ar adeg pan fo'n bwysicach tyfu'r hyn rydym yn ei fwyta yn lleol.
"Peidiwn ag anghofio bod nifer o'r ffermydd sirol yma wedi eu lleoli mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith.
"Mae eu gwerthu yn peryglu nid yn unig ein dyfodol amaethyddol, ond goroesiad y Gymraeg fel iaith fyw bob dydd yn yr ardaloedd hyn.
"Drwy ddiogelu'r ffermydd hyn, rydym hefyd yn diogelu ein hiaith, ein hanes a'n hunaniaeth ddiwylliannol."
- Cyhoeddwyd31 Hydref
- Cyhoeddwyd18 Hydref
Dywedodd Llyr Gruffydd, AS Plaid Cymru dros Ogledd Cymru, ei fod wedi galw am uwch-gynhadledd i drafod y mater o'r blaen a dyna yw ei ddymuniad o hyd.
"Yn y pen draw, ie, awdurdodau lleol sy'n gyfrifol, ond ni all y llywodraeth olchi ei dwylo o'r broblem," meddai.
"Mae'r ffermydd hyn yn ased cenedlaethol, ac mae gwir angen arweinyddiaeth a meddwl strategol gan y llywodraeth i sicrhau bod hynny'n digwydd."
Dywedodd yr Ysgrifennydd Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies ei fod ef hefyd yn cydnabod pwysigrwydd ffermydd cyngor, ond nid yw Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 yn rhoi pwerau i weinidogion Cymru gael rheolaeth dros awdurdodau lleol i werthu tir.
"Mater i awdurdodau lleol yw gwerthu tir a phenderfyniadau ynglŷn â sut y gwnânt hynny," meddai.
Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i nifer o gynlluniau sy'n helpu'r genhedlaeth nesaf o ffermwyr - "cynlluniau sy'n caniatáu i'n cymunedau gwledig ffynnu".