Dyfodol rhai ffermydd yn 'amhosib' ar ôl rheolau etifeddiaeth newydd

llun stoc o dir ffermFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae rhai ffermwyr yng Nghymru wedi ymateb yn chwyrn i'r cyhoeddiad ynglŷn â threth etifeddiant oedd yn rhan o'r Gyllideb newydd ac mae yna feirniadu hefyd am y dryswch.

Yn ôl Huw Roberts, cyfrifydd sy’n cynnig cyngor ar dreth etifeddiaeth, mae’r newidiadau a gyhoeddwyd ddydd Mercher yn “ddychrynllyd” i unrhyw fferm sydd yn fwy na 100 erw.

“Gwedwch bo rhywun yn ffermo busnes a bod gyda fe 400 erw o dir, gwedwch bo hwnnw gwerth £8,000 yr erw, mae hyn yn creu gwerth tir o £3.2m," meddai.

"Ystyriwch y stoc, tractors ac adeiladau, galle chi fod lan i £4 miliwn.

"Bydd y miliwn gyntaf yn ddi-dreth, bydd y £3 miliwn nesaf yn drethadwy at 20%, sef bil o £600,000 o dreth. Ma’ hwnna’n fil enfawr.

"Mae’n drychinebus ar y ffermwyr 'ma, ma' trueni mawr 'da fi amdano unrhyw un sy 'di gweithio mor galed â hyn trwy ei fywyd, i adeiladu fferm i roi i’w blant e neu hi ac mae’r rheolau wedi newid yn llwyr.

"Os maen nhw’n talu fe dros gyfnod, mae’r llog yn uchel iawn. Os mae arnoch chi £600,000, byddan nhw’n rhoi pum neu deng mlynedd i chi dalu fe, ond chi’n talu llog ar ôl chwe mis, a ma' llog yn unig yn 9%, ma’ hwnna yn £54,000 y flwyddyn, mwy na elw lot o ffermydd. Mae e’n ben tost llwyr iddyn nhw."

Ddydd Iau fe ddywedodd y Prif Weinidog, Keir Starmer, fod y lwfans yn £2m i fferm deuluol arferol cyn bod yn rhaid talu treth etifeddiaeth - hynny gan bod lwfansau eraill gwerth £1m ar gael i bâr priod.

Yn gynharach dywedodd Undeb Amaethwyr Cymru bod maint cyfartalog fferm yng Nghymru tua 120 erw, ac o ganlyniad, mae gwerth tir ac adeiladau y rhan fwyaf o ffermwyr gwerth dros £1m.

Disgrifiad o’r llun,

I nifer bydd y newidiadau'n amhosib a bydd rhaid gwerthu ffermydd, meddai Stephen James

Mae Stephen James yn ffermio ar fferm Gelliolau, ger Clunderwen sydd ar y ffin rhwng Sir Gâr a Sir Benfro.

Mae'n cadw ychydig dan 400 o wartheg ac yn ffermio gwerth 600 erw o dir, ac mae o'r farn mai ffermwyr teuluol fydd yn cael eu heffeithio fwyaf yn sgil y newid.

“Mae gymaint o ffermydd teuluol yng Nghymru ac ma'r ffaith bod y tax extra 'ma yn mynd i ddod ar bobl pan maen nhw’n pasio’r tir 'mlan i’r mab neu’r ferch, mae e’n mynd i gael effaith ar y teulu 'na, achos ma' nhw’n mynd i orfod talu tipyn o tax ar ben pob taliad arall sydd gyda nhw," meddai.

"Ma' arian yn ddrud i fenthyg ar hyn o bryd, ma' hwnna’n 'neud e bron â bod yn amhosib, ac i nifer bydd e’n amhosib a bydd rhaid gwerthu’r fferm.”

'Gwneud dolur' i'r genhedlaeth nesaf o ffermwyr

Am flynyddoedd, mae rhyddhad treth yr APR wedi galluogi ffermwyr bach teuluol i gael eu trosglwyddo o un genhedlaeth i'r nesaf.

Yn ôl Stephen, mi fydd y rhan fwyaf o ffermwyr Cymru yn cael eu heffeithio gyda’r dreth etifeddiaeth oherwydd bod eu gwerth wedi cynyddu dros amser.

“Mae’r APR wedi bod mor bwysig i ni yn y diwydiant i helpu'r cenedlaethau nesaf i gadw ffermio, 'na beth ni’n mynd i golli os ma' hwn yn mynd ymlaen,” meddai.

“Ma' ffermydd heddi', s’dim lot o dan filiwn o bunnoedd achos gwerth y tir. Bach iawn o ffermydd sy’n gallu para dan 100 erw nawr wrth jyst ffermio wrth eu hunain."

Gyda’i fab yn gweithio ar y fferm deuluol hefyd, ac yn debygol o etifeddu’r fferm, dywedodd: “O’n i’n prynu tir yn y 60au am £1,000 yr erw, llai na 'ny. Nawr, chi’n siarad am £10,000 yr erw.

"Yr un tir dwi’n ffermio… Os chi eisiau cadw fe’n y teulu, dyw e ddim werth dim byd… ’Na pryd mae e’n mynd i wneud dolur, pan mae’r perchennog yn marw a’r genhedlaeth nesa sy'n mynd i orfod talu’r tax.”

Mae Llywodraeth y DU yn dweud mai tua 2,000 o ffermydd fyddai'n cael eu heffeithio gan y newid, ond mae undebau yn dadlau fod y ffigwr yn nes at 70,000.

"Un o'r ffactorau pwysig ydy be' 'da chi'n ei roi fel gwerth ar dir," meddai Dei Davies sy'n ffermio yn ardal Treffynnon.

"Mae 'na dir 'di bod yn gwneud £15,000 yr acer rownd ffor' hyn, ac eto mae 'na rai yn gwneud £6,000 i £7,000 yr acer."

Ar raglen Dros Frecwast fore Iau dywedodd Mr Davies, sydd hefyd yn gyn-gadeirydd pwyllgor llaeth Undeb Amaethwyr Cymru, fod y newidiadau yn bryder mawr.

"Yn arbennig y ffermydd mwya' 'ma, lle mae gwerth tir yn fwy na £1m, fydd yn rhaid talu dipyn o dreth i'r llywodraeth.

"I rywun ifanc sy'n cymryd drosodd gan ei rieni, dd'udwn ni, ydy o yn medru cymryd drosodd? Fydd o'n gorfod benthyg pres i dalu'r treth 'ma?"

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llywodraeth wedi "mynd yn hollol groes" i'w hymrwymiad, yn ôl Aled Jones

Dywedodd llywydd undeb NFU Cymru, Aled Jones ei fod yn "hynod siomedig" gyda'r cyhoeddiad.

"Alla i ddim dweud wrthoch chi mewn termau digon cryf mewn gwirionedd, pa mor siomedig ydw i am be' sydd yn y Gyllideb," meddai.

"Mi oedd 'na synau ers peth amser, ac eto, roedden ni wedi cael ymrwymiad gan y prif weinidog presennol yn ein cynhadledd ni nôl ym mis Chwefror, na fyddai o'n effeithio dim ar dreth etifeddiaeth.

"Ma' hyn yn mynd yn hollol groes i'r holl ymrwymiad ma' nhw 'di roi."

'Cynllun creulon'

Mae undeb yr NFU wedi disgrifio'r penderfyniad fel un “trychinebus” i ffermwyr teuluol ac wedi cyhuddo’r llywodraeth o “dorri addewidion” ynglŷn â rhyddhad eiddo amaethyddol.

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi mynegi pryderon "difrifol" am y newid sydd, yn eu barn nhw, yn debygol o effeithio ar fwyafrif o ffermydd teuluol Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru ddydd Mercher fod y Gyllideb yn "peryglu dileu cenhedlaeth o ffermydd teuluol - asgwrn cefn cymunedau gwledig ledled Cymru".

Yn ôl yr Aelod Ceidwadol o'r Senedd dros Preseli Penfro, Paul Davies, fe fydd y Gyllideb newydd yn "dinistrio'r diwydiant amaeth yn Sir Benfro".

"Mae'r cynllun creulon yma yn tanseilio'r genhedlaeth nesaf o ffermwyr, gan mai nhw fydd yn gorfod talu'r biliau wrth i ffermydd teuluol gael eu trosglwyddo o un genhedlaeth i'r llall," meddai Mr Davies mewn datganiad.

Pynciau cysylltiedig