Pobl eisiau symud o'u cartrefi ar ôl tirlithriad Storm Bert
- Cyhoeddwyd
Mae rhai a welodd tomen lo yn dymchwel ger eu cartrefi fis diwethaf yn dweud nad ydyn nhw eisiau byw yn yr ardal os oes peryg o brofi tirlithriad arall.
Bu'n rhaid i nifer o bobl symud o'u cartrefi wedi tirlithriad yn ardal Cwmtyleri, Blaenau Gwent yn ystod Storm Bert, wrth i faw a malurion lifo drwy'r strydoedd.
Dywedodd Dianne Morgan, sy'n byw o flaen y domen yng Nghwmtyleri, y byddai well ganddi hi a'i chymdogion pe bai nhw'n gallu gwerthu eu tai i'r cyngor.
Daw hyn wrth i Lywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth newydd i fynd i'r afael â phryderon ynglŷn â diogelwch cannoedd o hen domenni glo ar draws y wlad.
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr
- Cyhoeddwyd31 Hydref
- Cyhoeddwyd29 Awst 2023
Wedi'r tirlithriad, fe ddywedodd Cyngor Blaenau Gwent eu bod wedi cychwyn ar y gwaith o geisio gwneud y domen lo yn fwy diogel.
Ond bythefnos yn ddiweddarach, mae rhai cymdogion yn dal i aros i allu dychwelyd i'w tai oherwydd y difrod.
Dywedodd rhai o'r bobl sydd wedi gallu mynd yn ôl i'w tai y byddai'n well ganddyn nhw beidio gorfod byw mor agos i'r domen erbyn hyn.
Er gwaetha'r ffaith bod nifer yn cyfaddef eu bod nhw'n ymwybodol o'r domen lo, doedden nhw ddim yn gwybod ei bod yn un categori D - un sydd â'r potensial mwyaf o achosi perygl i'r cyhoedd.
'Dyw pobl ddim yn teimlo'n ddiogel'
Dywedodd Ms Morgan: "Dyw pobl ddim yn teimlo'n ddiogel a dydw i ddim yn credu bydd modd i ni werthu ein tai ar hyn o bryd chwaith.
"Ar un adeg roedden ni'n gobeithio symud i dŷ llai, ond dyw hynny ddim am ddigwydd bellach."
Ychwanegodd ei bod hi wedi ysgrifennu at y cyngor yn gofyn am gadarnhad na fydd rhagor o dirlithriadau yn digwydd wedi iddyn nhw gwblhau'r gwaith i sefydlogi'r domen lo.
"Ein teimladau ni fel preswylwyr yn yr ardal hon yw y dylen nhw gael gwared ar y domen lo yn gyfan gwbl."
Daeth pryderon ynglŷn â chyflwr hen domenni glo Cymru yn ôl i'r wyneb yn 2020, yn dilyn tirlithriad mawr uwchben pentref Pendyrus yn Rhondda Cynon Taf.
Dangosodd gwaith ymchwil bod yna 2,573 o domenni glo i gyd - y rhan helaeth yng nghymoedd y de - a 360 ohonyn nhw â'r "potensial i effeithio diogelwch y cyhoedd".
Daeth adolygiad, gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, i'r casgliad bod y gyfraith bresennol yn y maes yn annigonol.
Roedd wedi'i chyflwyno yn dilyn trychineb Aberfan yn 1966, ar gyfer cyfnod pan oedd y diwydiant glo yn dal i weithredu.
Mae'r broses o ddylunio mesur newydd wedi bod ar waith ers sawl blwyddyn, gyda'r ddeddfwriaeth i'w chyflwyno i'r Senedd yr wythnos hon.
Os gaiff ei phasio, bydd yn arwain at sefydlu corff newydd - Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir i Gymru - fydd yn cymryd cyfrifoldeb am "asesu, cofrestru, monitro a rheoli" hen domenni.
Gyda nifer o'r tomenni bellach mewn dwylo preifat, byddai gan yr awdurdod newydd y grym i orfodi tirfeddianwyr i ymgymryd â gwaith atgyweirio lle bod angen, gyda'r bygythiad o wynebu dirwy os nad ydyn nhw'n cydymffurfio.
Dywedodd y llywodraeth y byddai yna gyllid grant ar gael, a phroses lle gallai tirfeddianwyr apelio penderfyniadau hefyd os nad ydyn nhw'n medru fforddio'r gost fyddai ynghlwm ag unrhyw waith.
Dadansoddaid
Steffan Messenger, Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru
Os ydych chi'n dilyn y newyddion yng Nghymru mae'n siŵr y byddwch chi wedi gweld y fideo cyn nawr.
Y lluniau sigledig wedi'u ffilmio ar hast ar ffôn – yn dangos ochr y cwm uwchben pentref Pendyrus yn Rhondda Cynon Taf (RCT) yn llithro i'r afon islaw.
"Wow" – medde'r dyn y tu ôl i'r camera, gan atseinio teimladau'r genedl.
Cafodd craith boenus ar gof y Cymry ei hailagor y diwrnod hwnnw, a'r tirlithriad yn tanio proses – ymarferol a gwleidyddol – i sefydlogi hen domenni glo'r wlad.
Mae'n anodd credu cyn lleied oedd pobl yn ei ddeall bryd hynny ynglŷn â faint yn union ohonyn nhw oedd yn bodoli, ym mhle, pwy oedd yn berchen y tir a beth oedd eu cyflwr nhw?
Mae 'na ymdrech fawr wedi bod yn ystod y blynyddoedd diwethaf i lenwi'r bylchau yna o ran gwybodaeth, ac mae'r cyhoeddiad ddydd Llun yn dod â newidiadau cyfreithiol, a sefydlu corff newydd i reoli'r sefyllfa at y dyfodol.
Ond, mae cwestiynau'n parhau ynglŷn â sut fydd y gost o ddod o hyd i ateb hirdymor yn cael ei dalu, wedi i arweinydd Cyngor RCT ddweud wrth y BBC ym mis Hydref y byddai angen cymaint ag £800m dros y degawdau nesa'.
Mae'r cwmnïau preifat sy'n cynnig gwneud y gwaith heb arian cyhoeddus yn bwnc trafod arall, ac i ba raddau y dylid caniatáu iddyn nhw wneud hynny drwy werthu'r glo sy'n cael eu tynnu o'r tomenni.
Awdurdodau lleol sydd â chyfrifoldeb am y rhan fwyaf o domenni glo ar dir cyhoeddus, tra bod rhai yng ngofal yr Awdurdod Adfer Glofeydd - sef Awdurdod Glo'r DU gynt.
Dywedodd Robert Sullivan o'r corff: "Cafodd nifer o'r safleoedd yma eu hadfer yn ystod cyfnod lle nad oedd newid hinsawdd yn cael ei ystyried, ac felly mae'r awdurdod yn cynnal adolygiad o sut gallen ni addasu ein safleoedd er mwyn ymateb i newid hinsawdd.
"Mae hynny'n golygu edrych ar sut y gallen ni wella ein rheolaeth o'r tomenni glo - yn enwedig yn ystod cyfnodau o law trwm.
"Rydyn ni'n edrych ar osod systemau monitro trydanol fel deialau glaw a rydyn ni hefyd yn edrych ar sut i ryddhau gorlifoedd.
"Un o'r pethau mwyaf pwysig i ystyried wrth reoli safle o'r fath yw symudiad dŵr dan y ddaear a dŵr ar yr arwyneb, felly rydyn ni'n ceisio mynd i'r afael â'r broblem hynny i sicrhau nad yw'r dŵr yn cael effaith niweidiol ar bobl leol."
Ar ymweliad i Bendyrus er mwyn cyhoeddi'r mesur newydd, dywedodd y dirprwy brif weinidog Huw Irranca-Davies bod y tirlithriadau diweddar yn "dangos y risgiau a'r pryderon posibl y mae tomenni nas defnyddir yn eu hachosi i gymunedau".
"Mae'r Bil hwn yn ymwneud â chadw cymunedau'n ddiogel ac mae'n rhan o raglen waith ehangach i wella diogelwch tomenni segur," meddai.
Dywedodd Plaid Cymru na fyddai deddfwriaeth yn unig yn ddigon, gan alw ar Lywodraeth y DU "i dalu'r gost lawn o £600m i adfer tomenni glo dros y degawd nesaf".
Wrth groesawi'r mesur dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig y byddai'r blaid yn edrych i sicrhau bod mwy yn cael ei wneud i atal difrod gan feicwyr a cherbydau 4x4, bod "cymunedau yn cael eu cynnwys yn y broses o wneud penderfyniadau a bod bioamrywiaeth yn cael ei ddiogelu".