Pryderon am domen lo Cwmtyleri wedi eu nodi fis Awst

CwmtyleriFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y tirlithriad yng Nghwmtyleri wedi dod o domen lo

  • Cyhoeddwyd

Mae wedi dod i'r amlwg fod awdurdodau wedi nodi pryderon am hen domen lo wnaeth ddymchwel yn rhannol yn dilyn Storm Bert yn gynharach yn y flwyddyn.

Bu'n rhaid i nifer o bobl symud o'u cartrefi wedi tirlithriad yn ardal Cwmtyleri, Blaenau Gwent ar 24 Tachwedd, wrth i faw a malurion lifo drwy'r strydoedd.

Mae'r domen yn un categori D - un sydd â'r potensial mwyaf o achosi perygl i'r cyhoedd, ac sy'n cael ei harchwilio ddwywaith y flwyddyn.

Mae'r BBC bellach ar ddeall fod sawl "nodwedd sy'n achos pryder" wedi eu nodi yn ystod archwiliad ym mis Awst.

Dywedodd Cyngor Blaenau Gwent - sydd berchen y domen ac yn gyfrifol am y gwaith cynnal a chadw - fod mesurau diogelwch wedi eu cyflwyno a bod y system ddraenio yn gweithio'n dda.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyngor yn bwriadu cael asesiad annibynnol o'r mesurau diogelwch sydd wedi eu cyflwyno

Cafodd yr archwiliad - un o ddau sy'n digwydd bob blwyddyn - ei gynnal gan y Mining Remediation Authority, yr Awdurdod Glo gynt, ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae'r adroddiad yn nodi sawl achos pryder gan gynnwys "tir gwlyb o ganlyniad i ddŵr yn llifo lawr o ben y domen uchaf" a "coed mewn cyflwr gwael ar waelod yr wyneb sy'n wynebu'r de orllewin" all fod yn arwydd o rywfaint o symudiad arwynebol yn y tir.

Ond mae'r ddogfen hefyd yn nodi fod hynny yn rhywbeth sydd wedi ei weld ar y safle ers tro, ac "nad oedd unrhyw dystiolaeth o symudiad diweddar yn y tir".

Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi cadarnhau fod y tirlithriad yng Nghwmtyleri wedi dod o domen lo yn yr ardal.

Dywedodd llefarydd fod y mesurau y maen nhw wedi eu cyflwyno i leihau unrhyw berygl posib yn "gweithio'n dda" a'u bod yn parhau i fonitro'r safle yn ofalus.

Maen nhw hefyd yn bwriadu cael asesiad annibynnol o'r gwaith sydd wedi ei wneud ar y safle hyd yma er mwyn tawelu meddyliau ymhellach.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn y gorffennol eu bod "wedi ymroi yn llwyr i sicrhau diogelwch ein cymunedau glo, nawr ac yn y dyfodol".

"Mae'r tomenni risg uchaf (categori C a D) yn cael eu harchwilio yn gyson, a byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid drwy Gymru er mwyn monitro'r tomenni hynny".