Cyn-chwaraewr rygbi Cymru, Mark Jones, wedi marw yn 59 oed

Fe wnaeth Jones symud o rygbi'r undeb i rygbi'r gynghrair yn 1990
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyn-chwaraewr rygbi Mark Jones, a gynrychiolodd Cymru mewn rygbi'r undeb a'r gynghrair, wedi marw yn 59 oed.
Fe ddechreuodd Jones ei yrfa gyda'r tîm undeb Tredegar Ironsides cyn ymuno â Tredegar RFC ac yna Castell-nedd - un o'r timau Cymreig gorau ar y pryd - yn 1985.
Dywedodd Castell-nedd bod ei farwolaeth yn "dorcalonnus" i'r clwb, a'i fod wedi chwarae pob gêm gydag "egni, pwer a ffocws".
Enillodd Jones 15 o gapiau i dîm undeb Cymru ac 11 i'r tîm rygbi'r gynghrair, gan gynrychioli Prydain ar un achlysur hefyd yn erbyn Ffrainc yn 1992.

Enillodd Mark Jones 15 o gapiau i dîm rygbi'r undeb Cymru
Roedd Jones yn rhan o grŵp o chwaraewyr Cymreig a symudodd o rygbi'r undeb i'r gynghrair yn 1990, wrth iddo ymuno â Hull.
Ar ôl pedair blynedd gyda Hull, yn chwarae fel prop ac yn yr ail reng, fe wnaeth Jones dreulio tymor yn Warrington cyn dychwelyd i rygbi'r undeb â Glynebwy.
Aeth ymlaen i chwarae i Bontypridd, Pont-y-pŵl ac Aberafan cyn ymddeol.
Yn 2023, fe wnaeth Jones ryddhau ei hunangofiant 'Fighting To Speak' a soniodd am ei frwydr barhaus gydag atal dweud a sut rhoddodd rygbi gyfle iddo ryddhau ei gynddaredd ar y cae.
Cafodd ei ddisgrifio fel "cawr" gan ei gyn-hyfforddwr Clive Griffiths, a ddywedodd ei fod yn "ddyn arbennig, un o'r goreuon a dyna pam yr oedd yn cael ei garu gymaint".