Storio gwerth 150 mlynedd o hanes... cyn i'r adeiladwyr gyrraedd
- Cyhoeddwyd
Mae gwagio un ystafell mewn tŷ cyn gwneud gwaith adnewyddu yn ddigon o gur pen... ond beth am amgueddfa genedlaethol gyda gwerth 150 o flynyddoedd o eitemau?
Dyna’r sialens sy’n wynebu criw yn Amgueddfa Lechi Cymru sydd wedi bod wrthi dros yr haf yn labelu cannoedd ar gannoedd o eitemau yn fanwl cyn eu rhoi mewn bocsys a’u symud - hyd yn oed yr hen hoelion sy’n dal pethau i’r waliau.
Ac ar ôl dogfennu’r cyfan yn ofalus, bocsio'r eitemau a'u storio ar safle cyfagos, mae’n rhaid eu gosod yn ôl ddwy flynedd yn ddiweddarach.
“Bob un stafell dwi’n mynd iddo fo bron dwi’n dweud ‘o, tydi’r un yma ddim mor ddrwg’ - ac wedyn ‘da ni’n ffeindio mwy o stwff,” meddai curadur yr amgueddfa, Cadi Iolen.
Y rheswm dros yr holl waith ydy bod yr amgueddfa yn Llanberis ar fin cau ei drysau ar ôl derbyn grant i adnewyddu’r adeilad a gwella’r profiad i ymwelwyr.
Ond cyn i’r adeiladwyr gyrraedd mae ‘na gannoedd o eitemau i’w cludo a’u diogelu er mwyn i'r amgueddfa allu parhau i ddweud stori’r diwydiant llechi pan fydd yn ail-agor yn 2026.
Ac i wneud y gwaith yn anoddach mae’r cyfan wedi eu lleoli yn adeiladau rhestredig gweithdai Chwarel Dinorwig yn Gilfach Ddu, Llanberis - a nifer fawr o’r eitemau heb eu symud ers i’r chwarelwyr olaf roi eu celfi i lawr am y tro olaf yn 1969.
Yn 1972, dair blynedd ar ôl i’r chwarel gau, fe agorwyd yr adeiladau i’r cyhoedd fel amgueddfa gan arddangos y safle gwaith a’r celfi; o’r olwyn ddŵr anferth a pheiriannau mawr llifio, i gyn a morthwyl a hoelion.
Dros y degawdau mae’r amgueddfa wedi datblygu ac eitemau wedi eu cofnodi - ond nid yr holl bethau gafodd eu gadael ar ôl gan y gweithwyr.
Gan fod yr amgueddfa yn dweud stori’r diwydiant llechi ar draws Cymru, fe ychwanegwyd i’r casgliad dros y degawdau hefyd gydag eitemau o chwareli mewn ardaloedd eraill - a nawr mae’n rhaid cael trefn ar bopeth.
“Mae’n broses sydd erioed wedi cael ei wneud yn yr Amgueddfa Lechi o’r blaen,” meddai Cadi. “Mae’n brosiect anferth, ac mae’r adeilad yma ers 150 mlynedd.
"Pan agorodd yr amgueddfa yn 1972 doedd o ddim mewn adeilad newydd efo waliau gwyn, a phobl yn dod â phethau i mewn i’w harddangos. Ond wrth gwrs mae hynny hefyd yn rhoi math gwahanol o amgueddfa i ni.
“Beth sy’n anodd hefyd ydi gwybod beth oedd yma yn wreiddiol a beth sydd wedi cael ei gludo yma gan staff yr amgueddfa dros yr holl flynyddoedd.”
Fel byddai rhywun yn ei ddisgwyl gan staff amgueddfa, mae’n rhaid i Cadi a’r ddau gynorthwyydd casgliadau, Osian Thomas a Mathew Williams, gael trefn bendant gan daclo un stafell fesul un.
Maen nhw’n gweithio’u ffordd o gwmpas yr holl ystafell gan ddewis un ochr a mynd o gwmpas yn glocwedd.
Os oes rhes o sbaneri ar un wal, er enghraifft, mae’n rhaid mynd o’r chwith i’r dde gan roi cod unigryw i bob un, eu henwi, disgrifio, mesur, nodi’r lleoliad ac yn aml tynnu llun o’u lleoliad.
Ymlaen wedyn i ddogfennu gweddill yr ystafell yn ei dro... cyn symud i’r ystafell nesaf. Rhaid wedyn trosglwyddo’r cyfan - ac ychwanegu gwybodaeth fwy manwl - i fas data canolog yr Amgueddfa.
Heblaw am rai o’r eitemau mwyaf, fel peiriannau, fydd yn cael eu ‘bocsio mewn’ er mwyn eu diogelu rhag y gwaith adeiladu, mae popeth all gael ei effeithio gan y gwaith yn cael eu symud.
Mae’r tîm wedi bod yn gwneud y gwaith dros wythnosau’r haf gan geisio peidio amharu ar fwynhad yr ymwelwyr.
Eglurodd Cadi: “Y peth pwysicaf i ni pan ‘da ni’n colli canolbwyntiad ydi ein bod ni’n peidio methu un rhif yn y rhif cofnodi - oherwydd wedyn mae popeth yn anghywir.”
Ond un fantais ydi bod ymwelwyr yn gallu gweld y broses.
Meddai Osian: “Mae pobl efo diddordeb ac yn gofyn be’ ydan ni’n ei wneud ac eisiau gwybod, a 'da ni’n egluro - mae’n grêt siarad efo pobl ond weithiau pan 'da ni ‘in the flow’ ac mae rhywun yn gofyn cwestiwn mae’n gallu bod yn anodd.”
Mae’r gwaith yn rhan o brosiect £21m i atgyweirio'r hen adeiladau a’u sicrhau i’r dyfodol, ond hefyd i wella’r profiad i ymwelwyr - gan gynnwys cael caffi newydd, gofod arddangos a chanolfan addysgu a dehongli.
Meddai Cadi: “Does ganddon ni ddim y gofodau gwag i arddangos pethau fel gydag amgueddfeydd eraill - mae’n her i’w datrys.
“Allwn ni ddim dod â cas wydr i rai ystafelloedd yma - fyddai o ddim yn gweddu - ond y bwriad ydi ail-bwrpasu rhai ardaloedd er mwyn arddangos rhai pethau.”
Yn y cyfamser bydd arddangosfeydd ‘pop-yp’ yn cael eu trefnu mewn gwahanol ardaloedd a bydd trafodaethau gyda’r gymuned a’r ymwelwyr ynglŷn â sut ddylid dehongli stori diwydiant llechi Cymru pan fydd yr amgueddfa yn ail-agor yn 2026.
Dyma’r datblygiadau mwyaf yn yr Amgueddfa ers bron i chwarter canrif pan godwyd y rhes o dai chwarelwyr Fron Haul er mwyn cyfleu sut oedd bywyd cartref y chwarelwyr yn 1861, 1901 a 1969.
Ond tra bod fel petai amser wedi rhewi mewn rhannau o’r amgueddfa, nid dyna’r realiti i staff casgliadau’r amgueddfa... ac mae cloc yr adeiladwyr yn tician.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd30 Mai 2022