Tân tractor wedi lledaenu i gerbydau a thŷ yn Sir Gaerfyrddin

Diffoddwr Tan
  • Cyhoeddwyd

Mae mwy nag 20 o ddiffoddwyr wedi bod yn brwydro tân difrifol a ddechreuodd mewn tractor cyn lledaenu i gerbydau eraill a thŷ yn Sir Gaerfyrddin.

Cafodd y gwasanaethau brys wybod am y digwyddiad ar yr A484 ger Llangeler am 14:19 ddydd Wener ac fe barhaodd am dros dair awr.

Y gred ydy bod y tân wedi dechrau mewn tractor cyn lledaenu i fêls gwair.

Lledaenodd y fflamau i ddau gerbyd arall cyn cyrraedd tŷ cyfagos hefyd.

Mae cegin ac atig yr eiddo wedi cael eu difrodi, yn ôl adroddiadau.

Fe gafodd criwiau tân o Landysul, Aberteifi, Caerfyrddin a Llanbedr Pont Steffan eu hanfon i'r digwyddiad ynghyd â cherbyd ymateb bach o Gastellnewydd Emlyn.

Cyhoeddwyd bod y digwyddiad o dan reolaeth am 17:43.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig