Achos tân difrifol mewn gwesty ym Mlaenau Ffestiniog yn ansicr

Bu tua 40 o ddiffoddwyr tân yn gweithio am dros wyth awr i ddod â'r tân yn y gwesty hanesyddol dan reolaeth
- Cyhoeddwyd
Mae swyddogion tân yn ansicr o hyd beth yn union achosodd dân difrifol mewn gwesty yng Ngwynedd ddydd Sadwrn.
Roedd swyddogion Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cael eu galw i'r tân yng Ngwesty Queens, Blaenau Ffestiniog toc wedi 11:00.
Bu tua 40 o ddiffoddwyr yn gweithio am dros wyth awr i ddod â'r tân dan reolaeth.
Roedd yr holl westeion a staff wedi gallu gadael yn ddiogel ar ôl i larymau ganu.
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Mae'r gwasanaeth tân yn dweud bod y tân wedi creu difrod sylweddol i'r eiddo, ac oherwydd hynny, eu bod wedi methu â chynnal ymchwiliad manylach hyd yma.
Bydd rhaid aros nes bod peiriannydd strwythurol wedi asesu'r adeilad ac wedi cadarnhau ei fod yn ddiogel i fynd i mewn.
Ar hyn o bryd felly, dydyn nhw ddim yn gwybod yn union beth achosodd y tân.
Mae Cyngor Gwynedd wedi "cadarnhau ein bod yn cefnogi unigolion a theuluoedd sydd wedi eu heffeithio gan y tân yng Ngwesty Queens, Blaenau Ffestiniog, lle'r oedd y sawl a oedd mewn angen o ran tai yn cael eu lletya dros dro".
Ychwanegodd y llefarydd: "Trefnwyd llety arall ar unwaith a darparwyd eitemau hanfodol i helpu i gefnogi eu lles yn ystod y cyfnod anodd hwn."

Dywedodd y gwasanaethau brys dros y penwythnos eu bod yn credu i'r tân ddechrau yn atig y gwesty
Mae'r adeilad hanesyddol yn dyddio'n ôl i 1867.
Mae'r ail lawr a'r gofod yn y to - oedd yn cynnwys ystafelloedd atig - wedi cael eu heffeithio'n sylweddol.
Cafodd y llawr cyntaf ei ddifrodi gan ddŵr yn ystod y gwaith o ddiffodd y fflamau.
Cafodd y gwesty ei adnewyddu'n helaeth gan Punch Taverns yn 2012 cyn i bobl leol gymryd yr awenau yn 2020.