Galw am atal adeiladu tai yn Sir Gâr dros bryderon llifogydd

Safle tai newydd
  • Cyhoeddwyd

Mae pentrefwyr yn Sir Gaerfyrddin wedi galw am atal gwaith ar safle adeiladu ar unwaith yn sgil pryderon am lifogydd.

Yn dilyn glaw trwm, mae pwll mawr o ddŵr wedi casglu yn ystod yr wythnos ar gaeau fferm Wern Fraith ym Mhorthyrhyd, ble mae cwmni Jones Henllan yn codi 42 o gartrefi newydd ar gyfer grŵp Pobl.

Mae pryder am ddŵr yn llifo i lawr o'r safle i gyfeiriad y pentref.

Mae Dŵr Cymru wedi bod yn darparu tanceri i symud dŵr storm o'r rhwydwaith ym Mhorthyrhyd yn ystod cyfnodau o law trwm.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin a Grŵp Pobl yn dweud mai problem hanesyddol yw'r dŵr sy'n cronni, ac y bydd cynllun draenio'r datblygiad yn datrys hynny.

Dylan Heddwyn Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dylan Heddwyn Williams yn dweud bod pobl yn gadael y pentref dros bryderon llifogydd

Mae pwmp diwydiannol wedi bod yn symud dŵr o'r safle i mewn i nant gyfagos, tu ôl i nifer o gartrefi ym Mhorthyrhyd.

Dywedodd un pentrefwr, Dylan Heddwyn Williams wrth raglen Newyddion S4C bod y sefyllfa wedi bod yn gwaethygu ers sawl blwyddyn.

"Ble mae'r dŵr yma yn mynd i fynd? Pan fyddan nhw wedi adeiladu safle i fynd mewn at yr adeiladau, ble mae'r dŵr yn mynd i fynd wedyn?

"Does yna ddim cynllun o gwbl. Dyw nhw ddim wedi rhoi dim ystyriaeth i'r pryderon."

'Clustiau byddar cynghorwyr'

Ychwanegodd bod "rhaid rhoi stop ar y datblygiad er mwyn i ni gael [gwybod] beth sydd yn digwydd gyda'r holl ddŵr sydd yn casglu yma".

"Mae'n berygl i'r pentrefwyr nawr, a does dim bricen yn gorwedd yma eto.

"Mae dau deulu yn rhoi eu tai ar werth ac yn symud mas oherwydd bod nhw'n poeni am y llifogydd a'r dŵr.

"Buon ni yn brwydro yn arw iawn yn erbyn y datblygiad hyn, ond mae e wedi syrthio ar glustiau byddar cynghorwyr Sir Gaerfyrddin.

"Mae'r cynghorwyr wedi mynd o'r golwg a ni'n gorfod delio ag e."

Carol Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carol Williams yn poeni am sut fydd y sefyllfa ar ôl codi'r tai newydd

Mae Carol Williams, sydd yn byw ym Mhorthyrhyd, hefyd yn bryderus.

"Wythnos ddiwethaf a'r wythnos cyn 'ny, roedd dŵr tu ôl y siop a'r Abadam Arms.

"Mae pobl yn rhoi tai for sale oherwydd hyn. Ni'n colli Cymry yn y pentref.

"Mae'r dŵr yn cael ei bwmpio o un man i'r llall yn lle edrych mewn iddo a gwneud y drainage iawn.

"Os mae e fel hyn nawr, os daw y 40 [o gartrefi], bydd hi'n lot waeth.

"Mae'n rhaid stopo fe ac edrych mewn i'r drainage yn gyntaf er mwyn parchu pobl sydd yma."

Mae dŵr wedi bod yn cael ei bwmpio o'r safle, ond dydy hynny ddim yn ddatrysiad meddai pentrefwyr
Disgrifiad o’r llun,

Mae dŵr wedi bod yn cael ei bwmpio o'r safle, ond dydy hynny ddim yn ddatrysiad meddai pentrefwyr

Mae Christopher Dufeu yn byw gyferbyn â'r safle adeiladu, ac mae wedi gweld dŵr yn cronni yn ei ardd yn dilyn y glaw trwm.

"Ry'n ni wedi bod ym Mhorthyrhyd ers 11 mlynedd ac erioed wedi gweld llifogydd fel hyn ar ein tir," meddai.

"Ers iddyn nhw ddechrau gwaith ar y safle, mae llawer mwy o ddŵr i'w weld yma.

"Dwi'n poeni am ddifrod i'r tŷ. Mae yna graciau yn welydd ar flaen y tŷ.

"Maen nhw yn pwmpio dŵr o'r safle lawr i'r gwaelod, ond mae hynny yn symud y broblem. Mae'n rhaid i ni gael datrysiad i hyn."

Christopher Dufeu
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond symud y broblem mae pwmpio dŵr o'r safle, meddai Christopher Dufeu

Cafodd y datblygiad ei ganiatáu gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Caerfyrddin ym mis Ebrill 2024 er gwaethaf gwrthwynebiad lleol ffyrnig, gyda phryderon am lifogydd a gallu'r rhwydwaith carthffosiaeth i ymdopi gyda'r cartrefi newydd.

Fe wrthwynebwyd y cais gan Gyngor Cymuned Llanddarog wnaeth ddweud bod y safle yn dioddef llifogydd, a bod y rhwydwaith carthffosiaeth yn "annigonol".

Dywedodd adroddiad cynllunio'r cyngor sir ar y pryd bod strategaeth ddraenio'r cais yn golygu bod modd gwaredu dŵr o'r wyneb mewn ffordd "gynaliadwy ac o dan reolaeth".

Yn ôl yr adroddiad, doedd gan Dŵr Cymru "ddim pryderon" ynglŷn ag effaith y datblygiad ar eu rhwydwaith.

Wrth ymateb i'r pryderon, dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru bod llifogydd a dŵr ar yr wyneb yn fater i'r awdurdod lleol, ac na fydd y dŵr yma yn mynd i'w rhwydwaith.

Mae Dŵr Cymru wedi bod yn darparu tanceri i symud dŵr storm o'r rhwydwaith ym Mhorthyrhyd yn ystod cyfnodau o law trwm - rhywbeth sydd yn digwydd mewn sawl lleoliad yn ystod tywydd gwlyb.

'Cynllun draenio yn datrys y broblem'

Dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin bod y dŵr ger y safle adeiladu yn broblem hanesyddol ble mae pant yn y tir yn dal dŵr pan mae glaw trwm.

Ychwanegodd y llefarydd bod y datblygiad wedi cael caniatâd cynllunio yn dilyn ystyriaeth o faterion cynllunio, a bod y cynllun yn nodi na fydd dŵr glaw yn mynd i'r system garthffosiaeth ar ôl adeiladu.

Bydd ardaloedd ar gyfer llifogydd dŵr glaw yn cael eu cynnwys fel rhan o'r datblygiad, meddai.

Dywedodd Grŵp Pobl eu bod yn deall pryderon pobl leol, ond bod cynllun draenio'r safle wedi ei gymeradwyo a'i gynllunio "i safon uchel".

Ychwanegodd y llefarydd y bydd y cynllun draenio yn mynd i'r afael â'r llifogydd sydd wedi digwydd yn y gorffennol, gan gymryd dŵr o'r ffordd a safle'r tai a'i symud i Afon Gwendraeth Fach.

"Nid yn unig yw'r cynllun yma'n lleihau risg llifogydd o'r datblygiad newydd ond mae hefyd yn helpu i ddatrys y broblem hanesyddol a pharhaus sy'n effeithio'r ardal," meddai llefarydd.

Mae cwmni Jones Henllan hefyd wedi cael cais am ymateb.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig