Tân mawr ar ystad ddiwydiannol ym Mhowys

Mae'r tân wedi bod yn llosgi ers nos Fawrth
- Cyhoeddwyd
Mae pobl yn cael eu hannog i gau eu drysau a'u ffenestri wrth i dân barhau i losgi ar stad ddiwydiannol ym Mhowys.
Cafodd chwech o griwiau eu galw i Ystad Ddiwydiannol Fferm Hafren yn Y Trallwng am 22:27 nos Fawrth.
Ar un adeg roedd dros 30 o swyddogion ar y safle.
Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, mae'r tân effeithio ar saith uned ar y safle.
Cafodd criwiau o'r Trallwng, Trefaldwyn, Llanfair Caereinion, Llanfyllin, Y Drenewydd a Llanandras eu galw i'r safle, yn ogystal â chriwiau o Wasanaeth Tân ac Achub Sir Amwythig.