Arestio saith wedi i fachgen, 6, gael ei anafu'n ddifrifol

Shotton
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y ffordd yn Shotton ei chau ar ôl y gwrthdrawiad ddydd Mercher

  • Cyhoeddwyd

Mae saith o bobl wedi’u harestio fel rhan o ymchwiliad Heddlu'r Gogledd i wrthdrawiad yn Sir y Fflint lle cafodd bachgen chwech oed ei anafu’n ddifrifol.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Central Drive yn Shotton yn dilyn y gwrthdrawiad am tua 17:30 ddydd Mercher.

Cafodd y plentyn ei gludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Alder Hey ar ôl cael anafiadau allai newid bywyd.

Mae llanc 14 , dau ddyn 17 a 38 a dwy ddynes 41 ac 18 wedi'u harestio ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Yn ogystal mae dynes, 24, wedi'i harestio ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder a chynorthwyo troseddwr.

Mae pob un wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol yr heddlu tra bod eu hymchwiliad yn parhau.

Mae llanc, 16, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, wedi’i arestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus ac am beidio â stopio yn lleoliad y gwrthdrawiad a pheidio â rhoi gwybod am y digwyddiad.

Mae e hefyd wedi cael ei holi gan yr heddlu a’i ryddhau ar fechnïaeth amodol.

Ymchwiliad yn parhau

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Jon Bowcott: “Hoffwn roi sicrwydd i’r gymuned leol bod ein hymchwiliad yn mynd yn ei flaen, ac rydym yn parhau i gasglu tystiolaeth.

“Ry'n yn parhau i feddwl am y plentyn a’i deulu ar yr adeg bryderus hon.

“Gan bod nifer wedi'u harestio a bod yr achos yn dal yn weithredol ry'n yn annog y cyhoedd i beidio â dyfalu na gwneud unrhyw sylwadau ar gyfryngau cymdeithasol a allai niweidio unrhyw achos cyfreithiol posib yn y dyfodol.

“Hoffwn ddiolch i’r gymuned leol am y wybodaeth a’r cymorth a gafwyd hyd yn hyn, a hoffwn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth bellach i siarad â ni."

Pynciau cysylltiedig