Gwymon i wella'r amgylchedd a chreu swyddi i gymunedau arfordirol?

Gwymon sydd wedi'i dyfu gan Câr-y-môr yn Sir BenfroFfynhonnell y llun, Matt Horwood/WWF-UK
Disgrifiad o’r llun,

Mae WWF-UK wedi derbyn bron i £1m i ddatblygu model o ffermio gwymon

  • Cyhoeddwyd

A allai gwymon chwarae rhan allweddol wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd a chynnig buddion economaidd i gymunedau arfordirol?

Dyna obaith un elusen sydd eisiau datblygu model o ffermio gwymon yn Sir Benfro sy'n elwa cymunedau lleol a'r amgylchedd.

Yng Nghymru, fel rhannau eraill o'r DU, mae traddodiad hir o gasglu gwymon gwyllt i'w defnyddio mewn bwydydd fel bara lawr.

Yn wahanol i gnydau traddodiadol eraill, does dim angen gwrtaith, plaladdwyr, dŵr croyw na thir, ac mae gwymon yn gnwd sy'n tyfu'n gyflym.

Yn ogystal â bwyd i bobl, mae modd troi gwymon yn fwyd i anifeiliaid, nwyddau fferyllol ac yn wrtaith ar gyfer y tir.

Y fantais, meddai WWF-UK, yw bod tyfu gwymon hefyd yn gwella ansawdd dŵr a bioamrywiaeth, a bod modd gwneud hynny a chynnig cyfleoedd economaidd i gymunedau arfordirol.

Gwymon yn tyfu gan Câr-y-môr yn Nhyddewi, Sir BenfroFfynhonnell y llun, Matt Horwood/WWF-UK
Disgrifiad o’r llun,

Gwymon yn cael ei ffermio gan griw Câr-y-môr yn Nhyddewi, Sir Benfro

Mae'r WWF nawr wedi derbyn bron i £1m gan y Loteri Genedlaethol er mwyn datblygu model o ffermio gwymon.

Y nod yw gweithio gyda chymunedau ar arfordir Sir Benfro i ddatblygu model sy'n atgynhyrchiol, dan arweiniad cymunedau, a thrwy hynny cefnogi'r gwaith o dyfu diwydiant cynaliadwy a chyfrifol ar draws y DU.

Un o bartneriaid y prosiect yw Câr-y-Môr - busnes cymunedol o Sir Benfro.

Mae'r gymuned o bysgotwyr, casglwyr, ffermwyr ac eraill yn anelu at roi bwyd lleol yn ôl ar fyrddau, a chreu swyddi a chyfleoedd economaidd mewn cymunedau arfordirol a chefn gwlad.

Dywedodd Tracey Gilbert-Falconer, sy'n un o 600 o aelodau Câr-y-Môr, eu bod yn "gweithio i ddangos sut gall ffermio morol atgynhyrchiol adfer ein moroedd a'n priddoedd, a chreu swyddi arfordirol a gwledig ar benrhyn Sir Benfro".

Dywedodd bod y grŵp wedi cysylltu â 1,500 o bobl ifanc trwy weithdai addysg gwymon llynedd, ac y byddai'r buddsoddiad yn eu galluogi i dyfu'r gwaith a helpu mwy o blant i gysylltu â'r môr, cynaliadwyedd, a'u cymunedau arfordirol.

Yn ôl Gareth Clubb o'r WWF yng Nghymru, mae gan wymon rhan bwysig i'w chwarae, a hynny mewn sawl ffurf.

"Mae gwymon yn llyncu nwyon tŷ gwydr ac felly'n cyfrannu at frwydro yn erbyn newid hinsawdd," meddai.

"Mae pobl wedi bod yn bwyta gwymon ers canrifoedd, ac erbyn hyn gall hefyd gael ei ddefnyddio i gynhyrchu ynni a gwrtaith i ffermydd – hyd yn oed i greu plastig cynaliadwy newydd."

Ychwanegodd y byddai'r "gefnogaeth hon yn helpu'r gymuned leol i ddysgu mwy am bwysigrwydd y gwymon – yn enwedig o ran yr amgylchedd".