Dewch i grwydro... Bro Abertawe

Griff HarriesFfynhonnell y llun, Griff Harries
Disgrifiad o’r llun,

Griff Harries yn arwain un o'i deithiu am hanes bywyd Richard Burton

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymru Fyw wedi gofyn i dywysyddion swyddogol o amgylch Cymru i roi cyngor am lefydd difyr i fynd dros gyfnod gwyliau'r Pasg.

Mae Griff Harries yn dywysydd sy'n byw yn Abertawe.

Mae'n arbenigo mewn teithiau Diwylliannol ac eleni ef yw Tywysydd Taith Canmlwyddiant Swyddogol Richard Burton rhywbeth y mae'n ei ystyried yn anrhydedd fawr.

Dyma ddewis Griff am lefydd difyr i fynd dros wyliau'r Pasg ac ar benwythnosau yn ardal Abertawe a'r fro.

Richard Burton a Phort Talbot

Richard Burton

Camwch i mewn i olion traed Richard Burton ac archwiliwch y tirweddau a luniodd ei fywyd a'i yrfa.

Bydd y daith yn mynd â chi drwy leoliadau allweddol sy'n gysylltiedig â'r actor chwedlonol o Gymru ac yn cynnig cipolwg ar ei fywyd ym Mhort Talbot.

Bydd y daith yn cychwyn ar y Llwybr Man Geni, gan archwilio hen bentref glofaol Pontrhydyfen lle ganwyd Richard Burton a threuliodd ei flynyddoedd cynnar.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n pacio'ch camera gan fod golygfeydd y Cymoedd yn syfrdanol! Bydd y daith wedyn yn mynd ymlaen i Taibach ar y Llwybr Plentyndod lle gallwch ddarganfod y lleoedd a daniodd ei angerdd am actio a darganfod y gymuned lle cafodd ei fagu a ysbrydolodd ei gariad at lenyddiaeth hefyd.

Y Gŵyr

Traeth RhosiliFfynhonnell y llun, wikipedia

Y Gŵyr oedd y rhan gyntaf o Brydain i gael ei ddynodi'n "Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol."

Mae'r traethau a'r arfordir yn syfrdanol gan gynnwys traeth Rhosili.

Os ydych chi'n chwilio am glogwyni garw, ogofâu a phyllau glan môr - yna mae mwy 'na digon yn ogystal â lleoedd fel Ogof Pen-y-Fai a Charreg Arthur.

Mae cymaint i'w weld a'i wneud yn yr ardal brydferth hon.

Abaty Nedd

Abaty Nedd

Wedi ei leoli yng Nghastell Nedd, mae adfeilion yr Abaty yn dyddio'n ôl i 1129.

Rhoddwyd y tir yn anrheg i fynachod o Normaniaid gan dirfeddiannwr ac un o farchogion Morgannwg, Richard de Grenville.

Mae'r abaty a oedd yr un mwyaf yng Nghymru yn ei gyfnod yn werth ei weld ac mae golygfeydd gwych i gael o'r safle hefyd.

Mae Gwaith Haearn Mynachlog Nedd gerllaw hefyd ac sydd newydd ei adnewyddu ac yn llawn hanes diwydiannol.

Cwt cychod Talacharn

Talacharn

Yn enwog am fod yn fan ysgrifennu'r awdur Dylan Thomas, mae cymaint i weld a'i werthfawrogi yn yr ardal hon.

Fe wnaeth Thomas ymweld â'r pentref yn gyntaf ym 1934 gyda'i ffrind, y bardd Glyn Jones. Fe symudodd i fyw yno bedair blynedd yn ddiweddarach gyda'i wraig Caitlin.

Yn ogystal â'r tŷ mae' cwt cychod enwog ble oedd Dylan Thomas yn treulio llawer iawn o amser yn ysgrifennu.

Mae sôn i'r cwt hefyd ysbrydoli'r awdur Roald Dahl i adeiladu cwt tebyg yn ei gartref yn Swydd Buckingham, ble oedd yntau wedi treulio'i amser yn ysgrifennu sawl clasur.

Castell Craig y Nos, Glyntawe

Craig y Nos

Roedd Craig y Nos yn gartref i Adelina Patti yn y 1870au a oedd o bosibl yn gantores enwocaf ei dydd yn y cyfnod.

Roedd hi'n byw mewn moethusrwydd ,ymhlith golygfeydd godidog ac roedd ganddi ei theatr ei hun hyd yn oed - sy'n rhaid ei weld.

Pan adeiladwyd y theatr, roedd Patti eisiau'r ystafell fod yn debyg i Dŷ Opera Le Scalla ym Milan.

Mae Craig y Nos hefyd yn enwog iawn am yr ysbrydion honedig sy'n gysylltiedig â'r safle.

Pynciau cysylltiedig