Faletau ddim ar gael ar gyfer gemau'r hydref oherwydd anaf

Cafodd Faletau ei anafu yn ystod buddugoliaeth Caerdydd yn erbyn Caeredin ddydd Sadwrn
- Cyhoeddwyd
 
Ni fydd wythwr profiadol Cymru, Taulupe Faletau, ar gael ar gyfer gemau'r hydref yn dilyn anaf i'w ben-glin.
Cafodd ei anafu ychydig funudau i mewn i fuddugoliaeth Caerdydd yn erbyn Caeredin ddydd Sadwrn.
Mae Olly Cracknell, sy'n chwarae dros Leicester Tigers, wedi cymryd ei le yn y garfan.
Dywedodd prif hyfforddwr Cymru, Steve Tandy, bod colli Faletau yn "siomedig iawn" wrth iddo baratoi i wynebu'r Ariannin ar 9 Tachwedd cyn gemau yn erbyn Japan, Seland Newydd a De Affrica.
Ychwanegodd bod "Olly wedi bod yn chwarae'n dda iawn i Leicester ac rydym yn gyffrous i'w ychwanegu at y garfan".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Hydref
 

- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf
 
