Pwy ydy Steve Tandy, prif hyfforddwr newydd tîm rygbi Cymru?

Steve TandyFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Steve Tandy, hyfforddwr amddiffyn yr Alban ar hyn o bryd

  • Cyhoeddwyd

Wrth gael ei benodi'n brif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, mae Steve Tandy wedi troi o fod yn hyfforddwr yn y byd chwaraeon i fod yn ffigwr cenedlaethol.

Mae o eisoes yn enw adnabyddus i bobl sy'n dilyn rygbi, ond oherwydd statws y gêm yng Nghymru a'r diddordeb yn y tîm cenedlaethol fe fydd ei broffil nawr yn codi'n sylweddol.

Felly pwy ydy prif hyfforddwr newydd Cymru?

O le mae o'n dod?

Tonmawr, pentref bychan yn ardal Castell-nedd Port Talbot - dafliad carreg o Bont-rhyd-y-fen, a chartref Eisteddfod yr Urdd eleni.

Cae Clwb Rygbi TonmawrFfynhonnell y llun, Clwb Rygbi Tonmawr
Disgrifiad o’r llun,

Clwb Rygbi Tonmawr - tad Steve Tandy ydy un o'r rhai sy'n trin y cae

Fel cymaint o ardaloedd tebyg yn ne Cymru, mae'r clwb rygbi lleol yn rhan ganolog o'r gymuned.

Does 'na ddim syndod felly mai gyda Chlwb Rygbi Tonmawr y dechreuodd carwriaeth Steve Tandy gyda'r gêm.

Steve Tandy y chwaraewr

Ac mae'r Tandys wedi cyfrannu i'r clwb teuluol ers sawl cenhedlaeth.

"Roedd tad-cu Steve, Jimmy, yn chwarae dros y clwb a Chastell-nedd," meddai llywydd Clwb Rygbi Tonmawr, Dr Michael Thomas ar raglen Dros Frecwast.

"Chwaraeodd ei dad Peter dros y clwb ac yna hyfforddodd. Chwaraeodd Steve dros y clwb ac yna ei frawd Kevin dros y clwb a hyfforddodd e.

"A nawr ei nai Elliot, mab Kevin, yw capten y clwb. Am gyfraniad. Mae teulu Tandy yn bobl sbeshal."

Ac mae'r teulu yn dal i fyw yn yr ardal.

"Os fi'n cerdded rownd Castell-nedd dwi'n gweld dad Steve, Peter, gyda siaced Scotland Rugby Union arno," ychwanegodd cyn-hyfforddwr Castell-nedd a'r Gweilch Lyn Jones. "Fi'n edrych ymlaen i weld e'n gwisgo cot goch nawr."

Steve Tandy yn chwarae i'r GweilchFfynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o’r llun,

Fe enillodd Steve Tandy dros 100 o gapiau i'r Gweilch

Dywedodd llefarydd ar ran y clwb wrth Cymru Fyw eu bod nhw'n falch iawn bod Steve Tandy a'i deulu yn rhan o hanes y clwb.

"Roedd ddoe yn ddiwrnod balch iawn i bawb sy'n gysylltiedig gyda'r clwb," meddai.

Ar ôl treulio ei flynyddoedd cynnar gyda'i glwb lleol, fe chwaraeodd Tandy gyda Chastell-nedd.

Roedd gyda nhw rhwng 1998-2003 cyn symud ymlaen i chwarae fel blaenasgellwr i'r Gweilch rhwng 2003-2010.

Steve Tandy yn chwarae i'r GweilchFfynhonnell y llun, Getty Images

Roedd yn rhan o sgwad cryf gyda chwaraewyr fel Filo Tiatia, Jerry Collins, Ryan Jones, Alun Wyn Jones, Marty Holah a Jonathan Thomas.

Yn ôl ei hyfforddwr yng Nghastell-nedd a'r Gweilch mae'n "ddewis ardderchog" i'r swydd fel prif hyfforddwr Cymru.

"Yn '98 dechreuodd Steve gyda Chastell-nedd ac roeddet ti'n gallu dweud bod e'n caru rygbi," meddai Lyn Jones ar raglen Dros Frecwast.

"Roedd e'n dod i ymarfer bob un sesiwn a sefyll nesa i Brett Sinkinson (fu'n chwarae i Gastell-nedd a Chymru) a gobeithio cael ei siawns - ac un diwrnod gafodd o'i siawns fel chwaraewr. Roedd e'n caru rygbi, ac ishe gwybod popeth."

Profiad fel hyfforddwr

Fe ddechreuodd fagu profiad fel hyfforddwr pan oedd o'n dal i chwarae gyda'r Gweilch - gyda'u tîm dan-16 - a gyda Chlwb Rygbi Pen-y-bont.

Fe enillodd Pen-y-bont ddyrchafiad yn ei dymor cyntaf yn eu hyfforddi nhw yn 2010-2011.

Yn 2012 fe gafodd ei benodi'n hyfforddwr y Gweilch ac yntau'n 32 oed, ac enillodd y Gynghrair Geltaidd.

Cafodd ei ddiswyddo fel prif hyfforddwr y Gweilch yn 2018 ar ôl cyfres o ganlyniadau siomedig.

Mae hefyd wedi cael profiad dramor gan dreulio cyfnod yn hyfforddi gyda'r Waratahs yn Awstralia cyn ymuno â thîm hyfforddi'r Alban yn 2019.

Fe gafodd gynnig i fod yn rhan o daith yr haf gyda thîm Cymru nôl yn 2016, ond fe wrthododd gan fod ganddo deulu ifanc.

Steve Tandy ar y llwyfan rhyngwladol

Does gan Steve Tandy - y Cymro cyntaf i fod yn brif hyfforddwr Cymru ers Gareth Jenkins yn 2007 - ddim profiad o arwain tîm cenedlaethol.

Ond roedd yn rhan o dîm hyfforddi Warren Gatland ar daith y Llewod i Dde Affrica yn 2021 ac mae ganddo chwe blynedd o brofiad fel hyfforddwr amddiffyn Yr Alban.

Steve Tandy a Warren GatlandFfynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o’r llun,

Steve Tandy gyda hyfforddwr y Llewod Warren Gatland ar y daith i Dde Affrica yn 2021

Yn ôl y gohebydd Lauren Jenkins, sydd ar daith y Llewod yn Awstralia ar hyn o bryd, mae'r Albanwyr sydd yno yn siomedig iawn fod Tandy yn eu gadael nhw.

"Yn hanesyddol, ry'n ni a gwledydd eraill wedi targedu enwau mawr, super coaches, enw profiadol o hemisffer y de sy'n barod wedi llwyddo ar lefel ryngwladol," meddai ar raglen Dros Frecwast.

"Maen nhw'n dod fewn, falle isie bod yn rhan o Gwpan Byd cyn gadael - ond mae hwn yn brosiect hir dymor.

"Ni'n gwybod bod Tandy wedi arwyddo cytundeb o dair blynedd a galle hynny fynd yn hirach a fi'n meddwl yn bersonol falle bod e'n beth da bod e dal heb brofi ei hun ar lefel ryngwladol achos mi fydd yr awydd a'r chwant 'na i neud hynny."

Pryd fydd o'n dechrau?

1 Medi - yn barod at gemau rhyngwladol yr hydref.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig