Rees-Zammit yn ôl yng ngharfan Cymru at gemau'r hydref

Mae Louis Rees-Zammit, 24, yn ôl yng ngharfan Cymru, dwy flynedd ar ôl iddo chwarae ddiwethaf dros ei wlad
- Cyhoeddwyd
Mae Louis Rees-Zammit yn ôl yng ngharfan Cymru ar ôl iddo ddychwelyd i rygbi yn dilyn cyfnod yn chwarae pêl-droed Americanaidd yn yr UDA.
Daw'r newyddion wrth i brif hyfforddwr newydd Cymru, Steve Tandy, enwi ei garfan gyntaf ar gyfer pedair gêm ryngwladol yr hydref.
Mae pum chwaraewr sydd eto i ennill cap wedi'u dewis ymhlith y 22 o flaenwyr a'r 17 o olwyr sydd wedi eu henwi: Brodie Coghlan, bachwr y Dreigiau; James Fender, ail reng y Gweilch; a Morgan Morse, rheng ôl y Gweilch; Danny Southworth, prop Caerdydd; a'r canolwr Louie Hennessey o glwb Caerfaddon.
Dywedodd Steve Tandy: "Mae wedi bod yn gyffrous iawn mynd trwy'r holl broses a sylweddoli faint o chwaraewyr da sydd ganddon ni.
"Ar ôl ystyried popeth yn fanwl, ry'n ni wedi gwneud ein dewis bellach ac yn hapus iawn gyda'n penderfyniadau."

Bu Steve Tandy yn hyfforddwr amddiffyn i'r Alban o 2019 tan eleni
Ar ôl ei daith i Awstralia gyda'r Llewod dros yr haf, Jac Morgan fydd capten y garfan.
Ar hynny, dywedodd Tandy mai "Jac oedd y capten ar gyfer y Chwe Gwlad ac yna gwnaeth Dewi waith gwych ar daith yr haf pan oedd Jac gyda'r Llewod".
"Mae ganddon ni nifer o arweinwyr ifanc gwych o fewn y garfan, ond rwy'n teimlo bod Jac yn chwaraewr anhygoel ac yn berson anhygoel hefyd.
"Rwy'n teimlo y bydd e'n mynd o nerth i nerth fel capten ein gwlad, gyda chefnogaeth arweinwyr ifanc eraill fel Dewi a Daf Jenkins hefyd."
Bydd y garfan yn dod at ei gilydd yn ffurfiol ddydd Llun 27 Hydref i ddechrau paratoi ar gyfer y gyfres o gemau.

Roedd Dewi Lake a Jac Morgan yn gyd-gapteiniaid ar Gymru yng Nghwpan y Byd 2023
Y garfan lawn
Blaenwyr:
Keiron Assiratti, Adam Beard, Liam Belcher, Rhys Carre, Ben Carter, Brodie Coghlan, Christian Coleman, Rhys Davies, Taulupe Faletau, James Fender, Archie Griffin, Dafydd Jenkins, Dewi Lake, Alex Mann, Jac Morgan, Morgan Morse, Taine Plumtree, Nicky Smith, Danny Southworth, Gareth Thomas, Freddie Thomas, Aaron Wainwright
Olwyr:
Josh Adams, Jacob Beetham, Rio Dyer, Dan Edwards, Jarrod Evans, Kieran Hardy, Joe Hawkins, Louie Hennessey, Max Llewellyn, Reuben Morgan-Williams, Blair Murray, Louis Rees-Zammit, Tom Rogers, Callum Sheedy, Ben Thomas, Nick Tompkins, Tomos Williams
Pwy fydd Cymru yn eu hwynebu?
Dydd Sul, 9 Tachwedd - Yr Ariannin - 15:10
Dydd Sadwrn, 15 Tachwedd - Japan - 17:40
Dydd Sadwrn, 22 Tachwedd - Seland Newydd - 15:10
Dydd Sadwrn, 29 Tachwedd - De Affrica - 15:10
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd24 Awst
