Sŵ Môr yn cwyno am dŷ mwg 'annioddefol' Halen Môn

Mŵg yn dod allan o simddai Tŷ Mŵg Halen MônFfynhonnell y llun, Sŵ Môr Môn
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r allyriadau o dŷ mwg Halen Môn wedi achosi ffrae gyda'u cymydog, Sŵ Môr Môn

  • Cyhoeddwyd

Mae atyniad poblogaidd ar Ynys Môn wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau deddfau ansawdd aer yn dilyn honiadau bod allyriadau sy’n cael eu gollwng o fusnes cyfagos yn “annioddefol” i staff ac ymwelwyr.

Mae Sŵ Môr Môn, sydd wedi ei leoli ym Mrynsiencyn ar lannau’r Fenai, yn denu rhwng 90,000 a 100,000 o ymwelwyr y flwyddyn.

Ond mae llwyddiant cyfleuster gerllaw, sy'n cael ei redeg gan Halen Môn i ateb y galw am gynnyrch sy'n cael ei baratoi gyda mwg, wedi sbarduno ffrae rhwng y Sŵ Môr a'i gymydog.

Yn ôl Cyngor Môn fe wnaeth astudiaeth 12 mis ganfod bod yr allyriadau o’r ystafell fwg yn cydymffurfio’n llawn â safonau ansawdd aer Cymru.

Ychwanegodd Halen Môn bod y cyfleuster “yn ateb yn gyfforddus” safonau ansawdd aer Cymru a’u bod yn mynd “y cam ychwanegol i sicrhau fod y datblygiad yn un sensitif”.

Disgrifiad o’r llun,

Mae safle'r Sŵ Môr a phencadlys Halen Môn ar lannau'r Fenai

Ond mae perchennog Sw Môr Môn yn dweud bod angen cymryd camau pellach yn sgil ofnau bod y mwg yn effeithio ar eu busnes.

Aeth ymlaen i ddisgrifio’r rheoliadau iechyd amgylcheddol presennol fel rhai “annigonol” a bod “angen eu hailwampio ar unwaith”.

'Wedi ypsetio’n fawr ers blynyddoedd'

Dywedodd Frankie Hobro, sy’n cyflogi 26 aelod o staff yn y Sŵ Môr, fod y mater wedi “gwaethygu’n gynyddol dros yr wythnosau a’r misoedd diwethaf” ac nad yw’r mesurau presennol yn lliniaru holl effeithiau llosgi coed derw.

“Dwi’n derbyn eu bod nhw’n bodloni’r gofynion cyfreithiol, ond mae’r mwg yn wirioneddol annioddefol,” meddai wrth BBC Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae’r mwg yn wirioneddol annioddefol," meddai Frankie Hobro

“Mae fy staff wedi ypsetio’n fawr am hyn ers blynyddoedd, mae llawer o’r gwaith maen nhw’n ei wneud yn waith yn yr awyr agored.

“Dwi'n byw ar y safle gyda fy mhlant. Mae yna sawl diwrnod lle mae'n rhaid i ni gadw'r ffenestri ar gau, dim ots pa mor boeth ydy hi, ac mae'n dal i dreiddio mewn i'r tŷ... gallwn ni ei arogli o hyd."

Gan ddisgrifio ei phenderfyniad i fynd yn gyhoeddus gyda’i phryderon fel “mesur argyfwng”, mae’n dweud bod “angen gwneud mwy i liniaru effeithiau elfennau niweidiol”.

Ffynhonnell y llun, Sŵ Môr Môn
Disgrifiad o’r llun,

Mwg yn dod allan o simddai tŷ mwg Halen Môn

Awgrymodd mai un cam posib fyddai deisebu Llywodraeth Cymru yn gofyn i weinidogion edrych eto ar y deddfau ansawdd aer presennol.

“A fyddai unrhyw un eisiau bod yn ein sefyllfa ni? Rhaid i ni fod yn deg gyda'r ymwelwyr sy'n dod yma.

“Rwy’n teimlo y dylem fod yn gyfrifol a rhybuddio pobl, hyd yn oed os ydy o'n niweidiol i’n busnes ni.

“Os faswn yn dod â fy mhlentyn yma i’r ardal chwarae, byddwn i eisiau gwybod.”

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ellis Glyn Jones o'r Sŵ Môr eu bod yn "ofni bydd y cwsmeriaid yn troi i ffwrdd"

Ychwanegodd Ellis Glyn Jones, sy'n gweithio yn y Sŵ Môr, fod y mwg yn "eithaf cyfoglyd" ond fod maint yr effaith yn gallu bod yn ddibynnol ar gyfeiriad y gwynt.

"Yn y pendraw 'da ni'n ofni bydd y cwsmeriaid yn troi i ffwrdd," ychwanegodd.

"Y gymuned leol sy'n poeni fwya'. Maen nhw'n ei weld bob dydd... maen nhw wedi byw am bedair blwyddyn hefo'r tŷ mwg yma.

"Yn amlwg dydy o ddim yn deg i bobl."

'Mynd gam ymhellach'

Mae Halen Môn yn allforio ei halen môr a gweddill eu cynnyrch ledled y byd, gan ddenu statws gwarchodedig yn 2014.

Mewn ymateb dywedodd Halen Môn fod llwyddiant y cynnyrch mwg yn golygu fod yr adain honno o'r busnes bellach yn cyflogi pedwar aelod o staff, fel rhan o dîm o 25 sy'n gweithio i'r cwmni.

Ychwanegodd eu bod yn “gwerthfawrogi'r berthynas dda gyda’n holl gymdogion a’r gymuned leol”.

Disgrifiad o’r llun,

Saif y tŷ mwg (yn y cefndir) dafliad carreg o'r Sŵ Môr

"Cafodd ein ystafell fwg, sydd wedi bod ar y safle ers 18 mlynedd, ei fonitro’n ddyddiol am flwyddyn gyfan gan Gyngor Sir Ynys Môn, a’r canlyniad oedd ei fod yn rhagori’n gyfforddus ar safonau ansawdd aer Cymru," meddai'r cwmni.

“Byddwn bob amser yn fusnes cyfrifol ac yn parhau i weithio gydag ymgynghorwyr peirianneg arbenigol a chwmnïau arbenigol i sicrhau ein bod mor ystyriol ac effeithlon â phosibl.

“Mae ein hadeilad yn rhagori ar bob manyleb technegol ac rydym yn mynd gam ymhellach i wneud ein datblygiad yn un sensitif.

"Rydym yn poeni’n fawr am ein staff a lles amgylcheddol yn gyffredinol, yn ogystal â’n cymuned leol.”

Cadarnhaodd Cyngor Ynys Môn, yn dilyn cyfnod monitro o 12 mis, na chanfuwyd unrhyw niwsans statudol yn Halen Môn, sy'n golygu bod y mater wedi ei setlo.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais i ymateb.

Pynciau cysylltiedig