Barnwr yn ymddiheuro am oedi yn achos marwolaethau padlfyrddio

Nerys Lloyd yn cyrraedd y llys
Disgrifiad o’r llun,

Nerys Bethan Lloyd yn cyrraedd y llys fore Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-heddwas wedi ymddangos mewn llys i wynebu cyhuddiadau'n ymwneud â marwolaethau pedwar o bobl yn dilyn digwyddiad padlfyrddio yn Sir Benfro.

Bu farw Paul O'Dwyer, 42, Andrea Powell, 41, Morgan Rogers, 24, a Nicola Wheatley, 40, yn sgil y digwyddiad ar Afon Cleddau yn Hwlffordd ar 30 Hydref 2021.

Ymddangosodd Nerys Bethan Lloyd, 39 o Bort Talbot, yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth i wynebu pedwar cyhuddiad o ddynladdiad yn dilyn esgeulustod difrifol ac un drosedd dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.

Ond cafodd yr achos ei ohirio am bythefnos a chafodd Ms Lloyd ei rhyddhau ar fechnïaeth ddiamod.

Fe ymddiheurodd y barnwr Paul Thomas KC i'r llys bod dim datblygiad yn yr achos hyd yn hyn, a hynny am fod "problemau" gyda chymorth cyfreithiol Ms Lloyd.

Ffynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith uchaf gyda'r cloc: Paul O'Dwyer, Morgan Rogers, Andrea Powell a Nicola Wheatley

Ms Lloyd oedd perchennog cwmni Salty Dog, oedd yn cynnal y daith badlfyrddio ar Afon Cleddau yn 2021. Mae'r cwmni bellach wedi ei ddirwyn i ben.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad toc wedi 09:00 fore Sadwrn 30 Hydref wedi i griw o bobl fynd i drafferthion yn y dŵr.

Bu farw Mr O'Dwyer o Aberafan, Ms Rogers o Ferthyr Tudful, a Ms Wheatley o Bontarddulais yn yr afon.

Wythnos yn ddiweddarach, ar 5 Tachwedd, bu farw Andrea Powell, o Ben-y-bont ar Ogwr, yn Ysbyty Llwynhelyg.

Dyw cwmni Salty Dog ddim yn weithredol ers mis Mawrth 2024.

Yn ôl Heddlu De Cymru, cafodd Nerys Lloyd ei diswyddo gan y llu ym mis Tachwedd 2021 yn sgil "mater ar wahân".

Mae disgwyl i'r achos barhau ar 21 Ionawr.