Dynes yn y llys wedi marwolaethau pedwar o badlfyrddwyr
- Cyhoeddwyd
Mae menyw wedi bod o flaen ynadon i wynebu pedwar cyhuddiad o ddynladdiad yn ymwneud â marwolaethau pedwar o bobl yn dilyn digwyddiad padlfyrddio yn 2021.
Bu farw Paul O’Dwyer, 42, Andrea Powell, 41, Morgan Rogers, 24 a Nicola Wheatley, 40 yn y digwyddiad ar Afon Cleddau yn Sir Benfro ar ddydd Sadwrn, 30 Hydref 2021.
Mae Nerys Bethan Lloyd, 39 o Bort Talbot, wedi'i chyhuddo o bedwar achos o ddynladdiad yn dilyn esgeulustod difrifol ac un drosedd dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
Yn Llys Ynadon Hwlffordd fore Mawrth, fe wnaeth Ms Lloyd siarad ond i gadarnhau ei henw a'i chyfeiriad.
Ms Lloyd oedd perchennog cwmni Salty Dog, oedd yn cynnal y daith badlfyrddio ar Afon Cleddau.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad toc wedi 09:00 ar fore Sadwrn 30 Hydref wedi i griw o bobl fynd i drafferthion yn y dŵr.
Bu farw Mr O'Dwyer o Aberafan, Ms Rogers o Ferthyr Tudful, a Ms Wheatley o Bontarddulais yn yr afon.
Wythnos yn ddiweddarach, ar 5 Tachwedd, bu farw Andrea Powell o Ben-y-bont ar Ogwr, yn Ysbyty Llwynhelyg.
Dyw cwmni Salty Dog ddim yn weithredol ers mis Mawrth 2024.
Yn ôl Heddlu De Cymru, cafodd Nerys Lloyd ei diswyddo gan y llu ym mis Tachwedd 2021 yn sgil "mater ar wahân".
Dywedodd y barnwr Mark Leighton fore Mawrth nad oedd modd i'r llys ynadon ddelio gyda'r achos gan fod y cyhuddiadau yn rhy ddifrifol.
Mae disgwyl i Ms Lloyd ymddangos yn Llys y Gororn Abertawe ar 3 Ionawr.
Mae wedi ei rhyddhau ar fechnïaeth amodol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Hydref
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2021