Rhybudd barnwr dros roddwr sberm 'sy'n dad i 180 o blant'

'Joe Donor' yn sefyll mewn caeFfynhonnell y llun, Instagram | Robert Charles Albon
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'Joe Donor' wedi hysbysebu ei wasanaethau ar Instagram

  • Cyhoeddwyd

Mae rhoddwr sberm sy'n honni fod ganddo dros 180 o blant wedi ei enwi gan farnwr, wrth rybuddio am y peryglon o roddi heb ei reoleiddio.

Mae Robert Charles Albon, sy'n galw ei hun yn 'Joe Donor', yn honni fod ganddo blant ar draws y byd o China i Awstralia, ar ôl hysbysebu ar-lein.

Ond fe wnaeth ei ddefnyddio fel rhoddwr sberm droi'n "stori arswyd" i un cwpl, wedi iddo fynd â nhw i'r llys gan ei fod eisiau hawliau rhiant dros eu plentyn.

Mae'r BBC wedi rhoi cyfle i Mr Albon ymateb.

'Amddiffyn merched'

Mae'n hynod o brin i riant mewn achos llys teulu gael eu hadnabod yn gyhoeddus, ond dywedodd barnwr fod enwi Mr Albon er budd y cyhoedd.

Yn ei ddyfarniad yn Llys Teulu Caerdydd, dywedodd Jonathan Furness KC ei fod am amddiffyn merched rhag canlyniadau posib rhoddi sberm heb ei reoleiddio, a rhag defnyddio gwasanaethau Mr Albon.

Cafodd y babi yn yr achos hwn ei genhedlu drwy chwistrelliad i gwpl o'r un rhyw, er bod Mr Albon wedi honni iddo gael rhyw gyda'r fam fiolegol yng nghefn car.

Cafodd yr honiad ei wrthod gan y barnwr.

Mae Mr Albon - sydd yn ei 50au - yn hysbysebu ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol fel Facebook ac Instagram.

Mae'n cyfrannu sberm drwy amrywiol ddulliau gan gynnwys ffrwythloni artiffisial a dulliau naturiol.

Roedd yn ddiarth i'r plentyn yn yr achos, ac ond wedi cyfarfod â nhw unwaith pan oedden nhw'n ychydig wythnosau oed am 10 munud, mewn digwyddiad "unwaith ac am byth", clywodd y llys.

Er hyn roedd nifer o geisiadau gerbron y llys gan Mr Albon – lle'r oedd yn ceisio sicrhau cyfrifoldeb rhiant, cael ei enwi ar y dystysgrif geni a sicrhau newidiadau i enw'r plentyn.

'Joe Donor'Ffynhonnell y llun, Joe Donor
Disgrifiad o’r llun,

Mae Robert Charles Albon, sy'n galw ei hun yn 'Joe Donor', yn honni ar-lein fod ganddo dros 180 o blant ar draws y byd

Roedd Mr Albon eisiau i fam anfiolegol y plentyn gael ei galw'n 'modryb' yn hytrach na mam, er gwaetha'r ffaith ei bod wedi gweithredu fel rhiant y plentyn.

Dywedodd y mamau fod straen yr achos cyfreithiol - a barodd dros ddwy flynedd - wedi cyfrannu at chwalu eu perthynas.

Clywodd y llys bod y fam fiolegol yn dioddef o bryder, iselder ysbryd a meddyliau hunanladdol, a aeth yn waeth oherwydd yr achos.

Dywedodd y dyfarniad - a wnaed yn 2023 ond sydd newydd ei gyhoeddi - fod Mr Albon wedi honni ei fod eisiau "amddiffyn lles" y plentyn pan oedd mewn gwirionedd yn "hollol hunanol".

'Mae'n ddyn sy'n ceisio rheoli'

Dywedodd y Barnwr Furness: "Fe wnaethon nhw ddewis rhoddwr sberm a hysbysebodd y byddai'n gadael i'r fam ddewis a ddylai fod unrhyw gysylltiad.

"Roedd tystiolaeth o'i ddeunydd cyfryngau cymdeithasol ei hun bod Albon wedi nodi mai dyna oedd y sefyllfa."

Daeth y llys i'r casgliad bod Mr Albon, sy'n wreiddiol o'r Unol Daleithiau ond wedi bod yn byw yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, wedi cychwyn achos llys i gefnogi ei gais mewnfudo i aros yn y DU.

Gwadu hyn mae Mr Albon.

InstagramFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Does dim rheoleiddio i bobl sy'n cynnig rhoi sberm drwy gyfryngau answyddogol

Dywedodd y Barnwr Furness: "Mewn gwirionedd mae'n ddyn sy'n ceisio rheoli.

"Mae'n ymddangos bod menywod a phlant bron yn eiddo iddo, wrth iddo fynd ati i gynyddu nifer ei blant ledled y byd – China, yr Unol Daleithiau, Ariannin, Awstralia a'r Deyrnas Unedig, i enwi dim ond rhai o'r gwledydd lle mae wedi magu plant."

Daeth y barnwr i'r casgliad nad oedd budd o newid enw'r plentyn ac na fyddai cyswllt uniongyrchol rhwng Mr Albon a'r plentyn er lles y plentyn.

Nid oedd y naill fam na'r llall yn gwrthwynebu 'cyswllt blwch llythyrau' - sef cerdyn blynyddol neu e-bost gan y tad i'w gadw at pryd mae'r plentyn yn ddigon hen i ddeall pwy wnaeth eu hanfon.

Mewn cyfweliad gyda The Sun fis Awst diwethaf dywedodd Mr Albon: "Rwyf wedi cael tua 180 o enedigaethau byw ac rwyf wedi cyfarfod tua 60 ohonyn nhw.

"Efallai na fydda' i byth yn gweld llawer ohonyn nhw, mae hyn lawr i'r berthynas gyda mam y plentyn… Mae'n well gen i gael rhyw fath o berthynas."

'Angen i'r byd wybod am y risgiau'

Dywedodd y fam anfiolegol fod dymuniad Mr Albon i gael hawliau rhiant wedi bod yn hunllef ac yn stori arswyd.

"Mae hi'n credu bod angen i'r byd wybod am y risgiau sy'n gysylltiedig â rhoi sberm heb ei reoleiddio," meddai'r Barnwr Furness.

Llys Teulu Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Yn ei ddyfarniad yn Llys Teulu Caerdydd, dywedodd Jonathan Furness KC ei fod am amddiffyn merched rhag canlyniadau posib rhoddi sberm heb ei reoleiddio

Ychwanegodd y barnwr: "Dylai'r cyhoedd, a merched bregus sy'n ceisio beichiogi, wybod bod hynny'n wir ac maen nhw mewn perygl o gael 'stori arswyd' debyg."

Dywedodd y barnwr ei fod eisiau "amddiffyn merched rhag canlyniadau posib rhoddi sberm heb ei reoleiddio, yn gyffredinol, ond hefyd gan Joe Donor ei hun".

Ychwanegodd: "Mae'n ddyn sy'n bwriadu parhau i roi sberm a dylai merched bregus sydd â diddordeb mewn gwasanaethau o'r fath ddeall yn llawn y risgiau o ymwneud ag o."

Beth ydy'r rheolau?

Mae'r ffordd yr oedd Mr Albon yn gweithredu fel rhoddwr sberm yn cael ei alw'n un 'heb ei reoleiddio', gan nad yw'n gwneud hynny trwy glinig trwyddedig.

O ganlyniad does dim cyfyngiadau ar nifer y plant mae'n gallu eu cael, dim gwiriadau iechyd gorfodol nac amddiffyniad rhag hawliau cyfreithiol fel rhiant.

Yn ôl rheoliadau Prydeinig, dim ond i greu uchafswm o 10 teulu y gellir defnyddio sberm gan un rhoddwr drwy glinigau trwyddedig.

Mae Mr Albon wedi siarad am ei wasanaethau mewn cyfweliadau proffil uchel â'r cyfryngau am ei gymhelliad dros roi, gan honni ei fod eisiau helpu i greu bywyd, ac mae'n ei ystyried yn sarhaus pan fydd pobl yn dweud ei fod yn gwneud hynny ar gyfer rhyw yn unig.

Honnodd hefyd nad yw'n gwneud unrhyw arian a'i fod yn aml yn ffodus i adennill ei gostau teithio.

Pam bod yr achos yn gyhoeddus?

Mae achosion Llys Teulu yn breifat er, o dan newid diweddar yn rheolau'r llysoedd, gall newyddiadurwyr fod yn bresennol ac adrodd am wybodaeth benodol.

Cymerir camau i sicrhau na ellir adnabod y plentyn o unrhyw adroddiadau.

Yn anarferol yn yr achos hwn, gwnaeth y gwarcheidwad sy'n gweithredu ar ran y plentyn gais i gyhoeddi'r dyfarniad ar-lein ac y dylid enwi'r tad.

Y ddadl oedd ei bod yn bwysig bod y cyhoedd yn ymwybodol o beryglon rhoddi sberm yn answyddogol.

Cytunodd y ddwy fam i gyhoeddi.

Os ydy cynnwys yr erthygl wedi ceal effaith arnoch chi, mae cymorth ar gael ar wefan BBC Action Line.