Faint mae treth cyngor yn cynyddu yn fy ardal i?

Caernarfon o Ben TwthillFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd bil cyfartalog cartref band D yng Ngwynedd - fel yma yng Nghaernarfon - yn cynyddu i £2,340 y flwyddyn

  • Cyhoeddwyd

Bydd cartref band D yng Nghymru yn gweld eu treth cyngor yn codi 7.2% ar gyfartaledd ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26, gyda'r pris cyfartalog yn codi o £2,024 y flwyddyn i £2,170.

Cynghorau yn y gogledd, canolbarth a'r gorllewin sy'n gweld y cynnydd mwyaf yn gyffredinol.

Mae Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro oll yn gweld cynnydd o 9% neu fwy.

Ac yn y gogledd, Sir Ddinbych yw'r unig sir ble mae cynnydd o lai 'na 8%.

Ond yn y de-ddwyrain, does yr un sir yn gweld cynnydd o fwy 'na 8%.

Mae'r cynnydd uchaf o ran canran yn Sir Benfro (9.2%), tra mai ym Mhen-y-bont mae'r cynnydd lleiaf (5%).

Mewn arian go iawn - nid canrannau - mae'r biliau cyfartalog yn codi rhwng £99 a £192 y flwyddyn, yn ddibynnol ar ba sir rydych chi'n byw.

Caerdydd yw'r unig sir ble mae treth cyngor yn codi o lai na £100 y flwyddyn, gyda Rhondda Cynon Taf a Thorfaen yr isaf wedi hynny (£108).

Er mai yn Sir Benfro mae'r cynnydd mwyaf o ran canran, yma mae'r wythfed cynnydd mwyaf o ran arian go iawn (£174).

Y £192 o gynnydd yng Ngheredigion yw'r mwyaf yng Nghymru, ac yna Conwy, Sir y Fflint, Sir Gâr, Powys, Gwynedd a Wrecsam.

Faint fydd fy mil i?

Caerdydd fydd â'r pris isaf ar gyfartaledd ar gyfer eiddo band D - £1,926 y flwyddyn.

Mae Caerffili a Chasnewydd hefyd yn is na £2,000 ar gyfartaledd.

Mae biliau cyfartalog ar eu huchaf ym Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot a Blaenau Gwent - dros £2,400 y flwyddyn.

Er mai Pen-y-bont ar Ogwr sy'n gweld y cynnydd lleiaf o ran canran, mae'r bil cyfartalog yma ymysg yr uchaf, ar £2,358.

Yn y gogledd, yng Ngwynedd mae'r biliau treth cyngor uchaf ar gyfartaledd - £2,340.

Mae'r cynnydd a'r pris sy'n rhaid talu yn dibynnu ar y band ble mae eich cartref penodol chi, gyda band A yr uchaf, a band I yr isaf.

Felly bydd cynghorau sydd â mwy o gartrefi yn y bandiau isel, a llai yn y bandiau uchaf, yn derbyn llai o arian o dreth cyngor.

Er enghraifft, bydd Sir Caerffili yn ennill £419 yn llai gan bob cartref o'i gymharu â chyfartaledd Cymru, tra bydd Sir Fynwy yn ennill £590 yn fwy na'r cyfartaledd.

Sut mae treth cyngor yn cael ei fesur?

Mae bandiau treth cyngor yn cael eu penderfynu ar sail prisiau tai gan Lywodraeth Cymru o Ebrill 2003.

Felly roedd gwerth cartrefi band D rhwng £91,001 a £123,000 yn 2003, yn hytrach na mynd ar sail eu gwerth heddiw.

Roedd y llywodraeth yn ddiweddar wedi bod yn trafod ailbrisio cartrefi am y tro cyntaf ers 20 mlynedd, ond mae hynny bellach wedi cael ei ohirio tan 2028.

Mae'n rhaid i bawb sy'n berchen ar, neu'n rhentu, cartref dalu treth cyngor, ond mae gostyngiadau i bobl sy'n byw eu hunain, pobl anabl a'u gofalwyr.

Does dim rhaid i fyfyrwyr dalu treth cyngor os ydyn nhw'n byw eu hunain, mewn neuaddau preswyl, neu gyda myfyrwyr eraill.

'All treth cyngor ddim llenwi'r bwlch ariannol'

Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sy'n cynrychioli cynghorau, bod "pwysau ariannol dwys" yn golygu y bydd yn rhaid i awdurdodau dorri ar wariant er y byddan nhw'n ennill mwy mewn treth cyngor.

"Er gwaethaf codi treth cyngor eleni, mae nifer [o gynghorau] yn dal i orfod gwneud penderfyniadau anodd i gydbwyso'u cyllideb a gwarchod gwasanaethau allweddol," meddai llefarydd.

"All treth cyngor yn unig ddim llenwi'r bwlch ariannol."

Pynciau cysylltiedig