Treth y cyngor: Gohirio newid tan 2028

Blaenau FfestiniogFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae biliau treth y cyngor yn dal i fod yn seiliedig ar werth eiddo yn 2003

  • Cyhoeddwyd

Mae newid mawr yn nhreth y cyngor wedi cael ei ohirio tan 2028, ar ôl etholiad nesaf y Senedd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ystyried diwygiadau allai newid biliau treth cyngor cannoedd o filoedd o gartrefi - ac wedi bwriadu eu cyflwyno mor gynnar â'r flwyddyn nesaf.

Roedd cartrefi'n cael eu hailbrisio am y tro cyntaf ers 20 mlynedd, a gallai bandiau eiddo newydd gael eu creu.

Dywedodd y llywodraeth eu bod yn dal wedi ymrwymo i “wneud y dreth gyngor yn decach ac yn fwy diweddar”, ond dywedodd economegwyr a fu'n eu cynghori fod yr oedi yn “siomedig”.

Prisiau eiddo 2003

Roedd gweinidogion Cymru wedi bwriadu cyflwyno’r newidiadau o fis Ebrill 2025, ond gofynnodd ymgynghoriad a lansiwyd fis Tachwedd diwethaf a ddylent gael eu cyflwyno’n raddol yn arafach.

Bydd etholiad nesaf y Senedd yn cael ei gynnal ym mis Mai 2026.

Wedi’i sefydlu yn y 1990au cynnar, mae treth y cyngor wedi cael ei beirniadu ers tro am fod yn annheg oherwydd ei bod yn seiliedig ar brisiau eiddo – nid ar allu pobl i dalu.

Mae llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru - sydd â chytundeb cydweithio yn y Senedd - wedi bod yn edrych ar ffyrdd i geisio mynd i'r afael â hynny.

Gofynnodd am ailbrisio eiddo, sydd wedi cynyddu’n sylweddol ers yr ymarfer diwethaf yn 2003.

Roedd cynigion hefyd i greu bandiau treth newydd a fyddai wedi cynyddu biliau ar gyfer yr eiddo drytaf a’u torri i bobl mewn cartrefi gwerth is.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans ei bod wedi "ystyried yn ofalus" yr ymgynghoriad a ddaeth o hyd i gefnogaeth i gyflwyno’r newidiadau yn arafach.

Bydd unrhyw “ddiwygiadau strwythurol” yn dechrau yn 2028, ond fe allai newidiadau eraill ddigwydd ynghynt, meddai.

Ychwanegodd: “Rwy’n credu bod y dull hwn yn dangos ymrwymiad parhaus i drethiant teg a blaengar, yn ogystal ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wrando ar bobl Cymru.”

Roedd ymgynghoriad y llywodraeth yn dibynnu ar waith gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS), a oedd yn dadansoddi newidiadau posibl.

Dywedodd uwch economegydd yr IFS, Stuart Adam: “Mae’r penderfyniad i ohirio’r ailbrisio a diwygio’r dreth gyngor yng Nghymru tan 2028 – 23 mlynedd ar ôl yr ailbrisiad diwethaf – yn siomedig.

“Mae eisoes yn hen bryd cael ailbrisiad, ac nid oes angen economaidd na gweinyddol amlwg am oedi."

'Siomedig am yr amserlen'

Ymatebodd Peredur Owen Griffith AS, llefarydd Plaid Cymru ar lywodraeth leol a chyllid: “Mae diwygio’r dreth gyngor a chreu system decach yn rhan allweddol o weledigaeth Plaid Cymru ar gyfer Cymru decach a mwy blaengar.

"Er ein bod wedi llwyddo i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ddiwygio, rydym yn siomedig nad yw wedi mabwysiadu amserlen fwy uchelgeisiol.

"Roeddem wedi gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru yn achub ar y cyfle i symud yn gyflym i helpu rhai o’r deiliaid tai tlotaf, sy’n dioddef effeithiau gwaethaf yr argyfwng costau byw ar hyn o bryd, ac a fyddai wedi elwa ar filiau is yn 2025.”