Cynllun grant i gynyddu'r nifer o athrawon sy'n siarad Cymraeg

Dosbarth ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llywodraeth yn dweud bydd modd defnyddio'r grant o fis Medi 2025, gyda £900,000 ar gael ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf

  • Cyhoeddwyd

Mae modd i ysgolion wneud cais am grant gan Lywodraeth Cymru sy'n ceisio datblygu athrawon cyfrwng Cymraeg.

Bwriad y grant yw galluogi ysgolion uwchradd i fynd i'r afael â phroblemau staffio tymor byr, gan gynyddu nifer yr athrawon a chynorthwywyr addysgu sy'n siarad Cymraeg.

Mae'r llywodraeth yn dweud y bydd modd defnyddio'r grant o fis Medi 2025, gyda £900,000 ar gael ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.

Mae ceisiadau yn agor ar gyfer ysgolion yr wythnos hon.

Dywedodd undeb NAHT Cymru nad yw'r cynllun yn "gwneud dim i fynd i'r afael â'r prinder athrawon cyfrwng Cymraeg".

Ysgol RhydywaunFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ysgol Rhydywaun yn Aberdâr y grant yn 2024

Un ysgol a gafodd fudd o'r grant yn 2024 oedd Ysgol Rhydywaun yn Aberdâr.

Fe ddefnyddiodd yr ysgol yr arian i hyfforddi athrawon er mwyn cynnig pynciau gwahanol.

Gyda seicoleg a throseddeg bellach ar gael, mae'n golygu bod mwy o fyfyrwyr yn gallu parhau â'u hastudiaethau yn y Gymraeg yn yr ysgol.

Mae'r grant hefyd wedi caniatáu i'r ysgol gydweithio ag ysgolion eraill yn yr ardal i ddatblygu gweithgareddau cyfoethogi, yn benodol mewn Mathemateg.

Disgyblion Ysgol RhydywaunFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddefnyddiodd Ysgol Rhydywaun yr arian i hyfforddi athrawon er mwyn cynnig pynciau gwahanol

Dywedodd y Pennaeth, Lisa Williams: "Yma, yn Rhydywaun, mae'r grant i ddatblygu capasiti'r gweithlu addysg wedi sicrhau bod gennym ddarpariaeth ac adnoddau o ansawdd uchel i'n disgyblion a chyfleoedd dysgu proffesiynol llwyddiannus i'n staff.

"Diolch i'r grant rydym wedi gallu sicrhau ein bod yn rhagweithiol wrth recriwtio a chadw athrawon a datblygu arbenigedd o fewn y proffesiwn.

"Oherwydd hynny, gwelwyd gwelliant ym mherfformiad a chyflawniad academaidd y disgyblion."

Cafodd 55 o grantiau eu rhoi i ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog ledled Cymru'r llynedd.

Roedd y cyllid ychwanegol yn galluogi'r ysgolion i gynnig mwy o gymorth gyda phrofiad gwaith a phrentisiaethau, llenwi bylchau mewn meysydd pwnc penodol, a chynnig lleoliadau i fyfyrwyr israddedig, meddai Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: "Mae datblygu gweithlu i addysgu Cymraeg fel pwnc, a darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, yn hanfodol er mwyn creu mwy o siaradwyr Cymraeg.

"Mae'r grant hwn yn un o'r cynlluniau arloesol sydd gennym ar waith i gyflawni hynny.

"Rwy'n benderfynol o sicrhau ein bod yn cefnogi dysgwyr i gyrraedd eu potensial llawn ac yn darparu'r cyfleoedd datblygu proffesiynol sydd eu hangen ar athrawon i barhau i godi safonau yn ein hysgolion."

Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford: "Rydyn ni eisiau adeiladu Cymru lle mae pob dysgwr yn cael cyfle teg i siarad Cymraeg. Mae Bil y Gymraeg ac Addysg yn nodi'r camau nesaf wrth i ni barhau i gydweithio tuag at filiwn o siaradwyr.

"Mae grantiau fel hyn yn helpu i wneud yn siŵr bod gennym y gweithlu i gyflawni'r uchelgais hon."

'Ofnadwy o afrealistig'

Wrth ymateb dywedodd Laura Doel, Ysgrifennydd Cenedlaethol Undeb Arweinwyr ysgolion NAHT Cymru: "Nid yw'r cynllun grant hwn yn gwneud dim i fynd i'r afael â'r prinder athrawon cyfrwng Cymraeg ac rydym yn annog pwyll wrth annog athrawon i addysgu y tu allan i'w harbenigedd.

"Nid yw'r grant yn cymryd lle buddsoddiad priodol i fynd i'r afael â materion recriwtio a chadw athrawon - gan gynnwys mynd i'r afael â gormod o lwyth gwaith, adfer gwerth cyflog a denu siaradwyr Cymraeg newydd i'r proffesiwn.

"Mae Deddf yr Iaith Gymraeg ac Addysg yn ofnadwy o afrealistig - does yna ddim cynllun i gefnogi'n iawn y gweithlu sy'n siarad Cymraeg."