Pryder sylweddol am addysg yn sir Powys, yn ôl y corff arolygu Estyn

Dosbarth ysgolFfynhonnell y llun, PA Media
  • Cyhoeddwyd

Mae'r corff arolygu Estyn wedi cyhoeddi adroddiad damniol yn beirniadu gwasanaethau addysg sir Powys.

Yn ôl yr arolygwyr, mae angen i Gyngor Sir Powys fynd i'r afael â materion diogelwch ar safleoedd ysgolion ar frys.

Mae'r awdurdod yn "achosi pryder sylweddol" i'r arolygwyr, meddai'r adroddiad, dolen allanol.

Mewn ymateb, mae'r cyngor wedi derbyn y canfyddiadau "siomedig" ac wedi addo cryfhau gwasanaethau addysg a gwella canlyniadau.

'Gwael dros gyfnod'

Mae newidiadau wedi bod i arweinyddiaeth Cyngor Powys yn ddiweddar, gan gynnwys prif weithredwr a chyfarwyddwr addysg newydd.

Ond yn dilyn yr arolygiad ym mis Chwefror, dywedodd yr adroddiad bod "arweinyddiaeth ar bob lefel wedi cael effaith gyfyngedig" ar welliannau pwysig neu "wella canlyniadau" i ddisgyblion.

Mae Estyn hefyd wedi tynnu sylw at bryderon ynghylch diogelwch o fewn ysgolion, ansawdd y cymorth i ysgolion a disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), a darpariaeth ôl-16.

Yn ôl Estyn, mae arolygiadau o ysgolion uwchradd ym Mhowys wedi bod yn "wael dros gyfnod".

Ers mis Chwefror 2021, mae Estyn wedi arolygu tair ysgol uwchradd ac wedi adolygu pob un ohonyn nhw – mae hyn yn golygu bod yr arolygwyr yn ailymweld â nhw i wirio cynnydd gwelliant.

Mae Estyn wedi gwneud pedwar argymhelliad:

  • Sicrhau bod yr awdurdod lleol yn mynd i'r afael â materion diogelwch ar safleoedd ysgolion ar frys;

  • Cryfhau ansawdd ac effaith arweinyddiaeth, gan gynnwys arweinyddiaeth wleidyddol, ar bob lefel;

  • Cryfhau ansawdd y gefnogaeth a'r her i ysgolion i wella canlyniadau i bob dysgwr, gan gynnwys y rhai sydd ag ADY;

  • Gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu a gweithredu model ar gyfer addysg 16-19 oed sy'n hyfyw ac yn gynaliadwy yn ariannol, ac sy'n rhoi ystyriaeth i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ac ADY.

'Problemau diogelwch'

Er bod pethau wedi bod yn fwy cadarnhaol mewn ysgolion cynradd, mae mwy o ysgolion cynradd ym Mhowys wedi'u rhoi mewn mesurau 'dilynol' ers 2021 nag sy'n arferol ledled Cymru.

Dywedodd Estyn fod gwaith cadarnhaol yn cael ei wneud gan dîm addysg y blynyddoedd cynnar, a hefyd bod mwy o gyfleoedd i ddisgyblion gael mynediad i'w haddysg yn Gymraeg.

O ran diogelwch safleoedd mewn ysgolion, mae Estyn yn cydnabod bod yna fuddsoddiad wedi bod i fynd i'r afael ag amrywiaeth o faterion.

Ond er gwaethaf hyn, meddai'r arolygwyr, "o'u cymharu ag awdurdodau lleol eraill, mae cyfran sylweddol uwch o ysgolion ym Mhowys yn dal i fod â phroblemau diogelwch safle pwysig, sy'n peri pryder".

'Ymrwymo i addysg eithriadol'

Mewn ymateb i'r adroddiad mae Cyngor Powys yn dweud eu bod wedi derbyn yr argymhellion.

Dywedodd y cyngor y byddan nhw'n llunio cynllun gweithredu ac y bydd Estyn yn eu monitro trwy gyfres o ymweliadau.

Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, arweinydd y cyngor, ei fod am "weithredu i gyflawni'r newid sydd ei angen i gryfhau ein gwasanaethau addysg".

"Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau addysg eithriadol sy'n cefnogi ein hysgolion fel y gallant roi'r sylfaen orau i'n pobl ifanc ar gyfer eu dyfodol," meddai.

"Er gwaethaf yr angen am wella, mae Estyn wedi cydnabod nifer o feysydd cadarnhaol fel ein gwaith i gryfhau perthnasoedd ac ymddiriedaeth gyda'n hysgolion a'n Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg."

Ychwanegodd: "Rwy'n hyderus y byddwn yn cyflawni'r gwelliannau angenrheidiol gan sicrhau ein bod yn darparu'r addysg a'r cyfleoedd y mae plant a theuluoedd Powys yn eu haeddu a'u disgwyl."

Pynciau cysylltiedig