Dwy o'r gogledd yn ennill gwobrau dysgwyr Eisteddfod yr Urdd
- Cyhoeddwyd
Melody Griffiths o Wrecsam sydd wedi ennill Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn.
Mae Melody yn ddisgybl 17 oed yng Ngholeg Cambria.
Mae Medal y Dysgwyr yn cael ei dyfarnu i bobl ifanc rhwng blwyddyn 10 a dan 19 oed sy’n gallu dangos sut maen nhw’n defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd yn yr ysgol, coleg, neu’r gwaith ac yn gymdeithasol.
Y beirniaid eleni oedd Cyril Jones a Karina Wyn Dafis - dau sydd â chysylltiad agos â Sir Drefaldwyn.
'Dwi eisiau ysbrydoli plant'
Mae Melody wedi dysgu’r iaith gan ei hathrawon yn y coleg, a theulu ei chariad sy’n siarad y Gymraeg fel iaith gyntaf ac yn rhoi cyfle gwych iddi hi ymarfer a datblygu ei sgiliau.
Daeth i'r brig allan o chwe ymgeisydd wrth gwblhau tasgau'n cynnwys cyfweliad gyda’r beirniaid a sesiwn cwestiwn ac ateb gyda Llywydd y Dydd, Elen Rhys, Pennaeth Adloniant S4C.
Dywedodd Melody: “Ers dysgu Cymraeg, dwi’n teimlo’n falch i fod yn siaradwr newydd, dwi’n defnyddio’r iaith bob dydd. Dwi’n rhedeg clwb dysgu Cymraeg wythnosol i fyfyrwyr y Coleg ac yn gwneud gwaith cyfieithu gwirfoddol yn y gymuned.
“Dwi’n credu bod o’n bwysig i gadw’r iaith yn fyw, ac yn bresennol yn ein bywydau."
Ychwanegodd: "Dwi’n teimlo fod yr iaith yn ffordd dda i gysylltu fy hun gyda’r diwylliant, hanes, a phawb arall yng Nghymru.
“Yn y dyfodol, dwi’n gobeithio bod yn athrawes Gymraeg, dwi eisiau ysbrydoli plant a darparu'r un math o gyfleoedd Cymraeg â’r hyn rydw i wedi ei gael.”
Dyfarnwyd Caitlin Brunt o’r Drenewydd yn ail a Alex McLean o’r Wyddgrug yn drydydd.
Brynhawn Mercher hefyd cyhoeddwyd mai Isabella Colby Browne o’r Wyddgrug yw enillydd Medal Bobi Jones eleni.
Ganwyd Isabella, 22, yn America cyn symud i’r Wyddgrug pan yn ifanc. Mae hi’n byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel actores.
Mae Medal Bobi Jones yn cael ei dyfarnu i unigolyn 19-25 oed sydd yn dangos sut maen nhw’n defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd drwy ateb cwestiynau am eu rhesymau dros ddysgu’r iaith, yr effaith mae dysgu’r Gymraeg wedi cael ar eu bywyd, a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol.
'Dylwn i siarad yr iaith'
Dywedodd Isabella ei bod wedi dechrau dysgu Cymraeg "diolch i fy ffrind gorau Caitlin, sy’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf".
"Nes i sylwi pa mor arbennig yw e i fod yn Gymraeg, mae hi’n iaith mor brydferth, ac os dwi’n byw yma, dylwn i siarad yr iaith. Fy nghyfrifoldeb i yw hi i barchu iaith a diwylliant fy ngwlad.”
“Mae siarad Cymraeg wedi agor llawer o ddrysau i mi yn y byd celfyddydau yng Nghymru. Rwy’n teimlo ymdeimlad cryfach o hunaniaeth o fewn Cymru, ac rwyf mor falch o fod yn rhan o’r diwylliant a’r gymuned. Rwy’n teimlo y gallaf ddangos fy mharch at y bobl a’r diwylliant sydd yma, drwy ddysgu iaith y wlad.”
Dyfarnwyd Emma Grigorian o Gaerdydd yn ail Deryn-Bach Allen-Dyer o Fro Morgannwg yn drydydd.
Nod y ddwy gystadleuaeth, medd yr Urdd, yw gwobrwyo unigolion sydd wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg ac yn ymfalchïo yn eu Cymreictod.
Mae dydd Mercher yn ddiwrnod o ddathlu Dysgwyr a Siaradwyr Cymraeg newydd ar y maes.
Eleni mae mwy o ddysgwyr nag erioed o’r blaen wedi cofrestru i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd.
Mae’r ŵyl wedi denu unigolion, partïon a chorau o ddysgwyr am y tro cyntaf eleni o bob cwr o Gymru a thu hwnt – gan gynnwys cystadleuwyr o Batagonia.
- Cyhoeddwyd27 Mai 2024
- Cyhoeddwyd29 Mai 2024
Dywedodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Celfyddydol yr Urdd: “Mae sicrhau cyfleoedd a phrofiadau i gystadleuwyr ac ymwelwyr sy’n siaradwyr Cymraeg newydd yn hanfodol i lwyddiant a gwaddol ein gŵyl ieuenctid.
“Mae gan yr Urdd hanes hir a balch o greu a chynnal cysylltiadau rhyngwladol, ac mae’r ffaith fod unigolion ac ysgolion o du allan i Gymru yn cystadlu ac yn ymweld â’n Eisteddfod eleni yn dangos apêl yr wyl i blant a phobl ifanc o bob cwr.
"Dyma brawf pellach hefyd o bŵer y celfyddydau i godi pontydd yn rhyngwladol.”
Amdani!
Fel rhan o bartneriaeth rhwng yr Urdd a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, mae rhaglen hyfforddiant Dysgu Cymraeg wedi’i rhoi ar waith er mwyn cefnogi nod y mudiad ieuenctid o ddenu gweithlu amrywiol, ac o gysylltu ymhellach â chynulleidfaoedd newydd ar draws Cymru gyfan.
Mae’r hyfforddiant yn cynnwys cefnogaeth gan diwtor o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Dywedodd Nooh Ibrahim, Swyddog Chwaraeon Cymunedol Amrywiol yr Urdd: “Mae dysgu Cymraeg wedi agor llawer o ddrysau i mi. Ces i fy ngeni a fy magu yng Nghymru ac yn berson o gefndir ethnig, felly mae’n bwysig cael cynrychiolaeth o fewn y gymuned.
"Mae’n bwysig i mi allu teimlo’n agosach hefyd at ddiwylliant a chymunedau Cymreig, felly dwi'n ddiolchgar iawn i’r Urdd ac i Dysgu Cymraeg am eu cefnogaeth.
"Mae’n bwysig iawn i fi ddysgu Cymraeg a siarad Cymraeg achos dwi’n dod o Gymru a dwi’n Gymro.
"Mae’n bwysig i fi siarad Cymraeg i ysbrydoli nhw a’r genhedlaeth nesaf i siarad a dysgu Cymraeg - dwi’n dweud i unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg 'Amdani' a trio siarad gyda phawb.
"Mae cymunedau siarad Cymraeg yn supportive iawn so ie - Amdani!"